Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2005, ISBN 0110911253. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â mesurau'n ymwneud â bwyd, gan gynnwys cynhyrchu cynradd o ran bwyd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 20 Mai 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru. Diwygio Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995 2. - (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995[4] yn unol â pharagraffau (2) a (3). (2) Yn lle is-baragraff (2)(b) o reoliad 14 (amodau cyffredinol) rhodder yr is-baragraff a ganlyn -
(ii) has been treated with an agent used to promote water retention, or has been obtained in technologically similar conditions and is likely as a result to present the same risk; or".
(3) Yn lle paragraff (9) o reoliad 14 rhodder y paragraff a ganlyn -
Diwygiad canlyniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn sy'n gymwys o ran Cymru'n diwygio ymhellach Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995 (O.S. 1995/540, fel y'i diwygiwyd eisoes, ac sy'n rhychwantu Prydain Fawr i gyd) ac yn rhoi ar waith y rhan honno o Erthygl 5(1)(b) o Gyfarwyddeb y Cyngor 71/118/EEC sy'n ymwneud â phroblemau iechyd sy'n effeithio ar gynhyrchu cig dofednod ffres a'i roi ar y farchnad (atodwyd testun y Gyfarwyddeb uchod, ar ôl ei gyfuno, i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/116/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t.1).) ac sy'n gwahardd rhoi cig dofednod ar y farchnad i'w fwyta gan bobl os cafodd ei drin â chyfryngau dal dŵr neu os y'i cafwyd o dan amodau technolegol debyg a'i fod, o ganlyniad, yn debygol o fod yn achos yr un risg. 2. Rhoddir y gwaharddiad uchod ar waith drwy ddiwygio'n briodol reoliad 14(2) o O.S. 1995/540 (rheoliad 2(2)). 3. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud newidiadau canlyniadol i reoliad 14(9) o O.S. 1995/540 (rheoliad 2(3)) ac i Atodlen 2 i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (O.S. 1996/3124, fel y'i diwygiwyd eisoes) (rheoliad 3). 4. Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y trosir yn y Rheoliadau hyn, y gwaharddiad y cyfeirir ato ym mharagraff 1. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW. Notes: [1] O.S. 2003/2901.back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2001, t.1.back [4] O.S. 1995/540. Fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2148, O.S. 1995/2200, O.S. 1997/1729, O.S. 2000/656, O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/2198 (Cy.158), O.S. 2002/47 (Cy.6) ac O.S. 2002/1476 (Cy.148).back [5] O.S. 1996/3124, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/3023, O.S. 1998/994, O.S. 1999/683, O.S. 2000/656, O.S. 2000/1885 (Cy.131), O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/1660 (Cy.119), O.S. 2001/2198 (Cy.158), O.S. 2001/2219 (Cy.159), O.S. 2002/47 (Cy.6), O.S. 2002/1476 (Cy.148), O.S. 2003/3229 (Cy. 309) ac O.S. 2004/1430 (Cy.144). Yn rhinwedd O.S.2004/1430 (Cy.144), mae O.S. 1996/3124 yn gymwys bellach mewn perthynas â masnach o fewn y Gymuned yn unig.back [6] O.S. 2002/1476 (Cy.148).back
ISBN 0 11 091125 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 17 May 2005 |