Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005, ISBN 0110911245. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17, 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005; maent yn gymwys o ran Cymru yn unig a deuant i rym ar 20 Mai 2006. Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 2. Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[4] (i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru) yn unol â rheoliadau 3 i 8. 3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o "Directive 94/54", mewnosoder ar y diwedd y geiriau "and Commission Directive 2004/77/EC[5]". 4. Yn rheoliad 23(2A) (bwyd nad yw wedi ei ragbecynnu a bwyd tebyg, a chynhyrchion cyffaith ffansi) mewnosoder ar y diwedd yr ymadrodd "or regulation 34C". 5. Yn rheoliad 26 (pecynnau bach a photeli gwydr penodol sydd wedi'u marcio'n annileadwy), ym mharagraffau (1)(a)(ii) a (3A) yn lle'r geiriau "regulations 33 and 34" rhodder y geiriau "regulations 33, 34 and 34C". 6. Yn rheoliad 27(1) (bwydydd penodol a werthir mewn sefydliadau arlwyo), yn lle'r geiriau "regulations 32, 33, 34 and 34B" rhodder y geiriau "regulations 32, 33, 34, 34B and 34C". 7. Ar ôl rheoliad 34B (bwydydd sy'n cynnwys cynhwysion alergenig neu gynhwysion sy'n dod o gynhwysion alergenig) mewnosoder y rheoliad canlynol -
34C. - (1) This regulation applies to any confectionery or drink which contains glycyrrhizinic acid or its ammonium salt as a result of the addition of that acid or salt as such or of the liquorice plant Glycyrrhiza glabra, and references in this regulation to "relevant concentration" are to the concentration of that acid or salt in the food -
(b) if it is not so manufactured, as reconstituted according to its manufacturer's instructions.
(2) In the case of -
(b) any drink which contains more than 1.2 per cent by volume of alcohol and a relevant concentration of at least 10 mg/l but less than 300 mg/l, and (c) any drink which does not contain more than 1.2 per cent by volume of alcohol and which contains a relevant concentration of at least 10 mg/l but less than 50 mg/l,
that food shall be marked or labelled with the indication "contains liquorice", unless the term "liquorice" appears in the list of ingredients or in the name of the food.
(b) any drink which contains more than 1.2 per cent by volume of alcohol and a relevant concentration of at least 300 mg/l, and (c) any drink which does not contain more than 1.2 per cent by volume of alcohol and which contains a relevant concentration of at least 50 mg/l,
that food shall be marked or labelled with the indication "contains liquorice - people suffering from hypertension should avoid excessive consumption".
8.
Yn rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol), mewnosoder ar y diwedd y paragraff canlynol -
(b) the matters constituting the alleged offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendment made by regulation 7 of the Food Labelling (Amendment) (Wales) Regulations 2005 had not been in operation when the food was sold.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Labelu Bwyd 1996 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Mae Rheoliadau 1996 yn rhychwantu Prydain Fawr i gyd. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/77/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 94/54/EC o ran labelu bwydydd penodol sy'n cynnwys asid glysirhisinig a'i halwyn amoniwm (OJ Rhif L162, 30.4.2004, t.76). 2. Mae asid glysirhisinig yn digwydd yn naturiol yn y planhigyn perwraidd, a gweithgynhyrchir ei halwyn amoniwm o echdynion dyfrllyd y planhigyn hwnnw. Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyffaith a diodydd sy'n cynnwys lefelau penodol o'r asid neu'r halwyn hwnnw gael eu labelu â'r dangosiad "contains liquorice" a bod rhybudd yn cael ei ychwanegu mewn rhai achosion (rheoliad 7). Ceir esemptiadau rhag y gofynion labelu hyn yn achos bwyd nad yw wedi'i ragbecynnu, bwyd sydd wedi'i ragbecynnu i'w werthu'n uniongyrchol, cynhyrchion cyffaith ffansi, pecynnau bach a photeli gwydr penodol sydd wedi'u marcio'n annileadwy (rheoliadau 4 i 6). Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn cynnwys darpariaeth drosiannol (rheoliad 8) ac yn diweddaru'r diffiniad o "Directive 94/54" (rheoliad 3). 3. Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi yn nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2003/120/EC wedi'u trosi yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Secretary of State", i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back [4] O.S. 1996/1499; O.S. 1998/1398, 1999/747, 1483, 2000/2254, 2004/1396 , 249 a 3022 yw'r offerynnau diwygio perthnasol o ran Cymru.back [5] OJ Rhif L162, 30.4.2004, t.76.back
ISBN 0 11 091124 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 17 May 2005 |