Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Dull Mynediad, Apelau etc.) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Dull Mynediad, Apelau etc.) (Cymru) 2005, ISBN 0110911237. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 32, 38(6) a 44(2) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf")[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Dull Mynediad, Apelau etc.) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 6 Mai 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) Oni ddatgenir yn wahanol, mae i eiriau neu ymadroddion yn y Rheoliadau hyn yr ystyr a roddir iddynt yn y Ddeddf neu, os rhoddwyd ystyr gwahanol i'r geiriau a'r ymadroddion hynny yn y Rheoliadau Gweithdrefnau Apelau, yr ystyr sydd iddynt yn y Rheoliadau hynny.
(b) os bydd y person arall wedi cydsynio i'r wybodaeth ddod i law drwy'r dull hwnnw.
(2) O dan baragraff (1), os defnyddir dull cyfathrebu electronig at ddibenion rhoi neu anfon hysbysiad neu ddogfen -
(b) caniateir cydymffurfio ag unrhyw ofyniad am i fwy nag un o gopïau gael eu hanfon ar unrhyw un adeg drwy anfon un cyfathrebiad o'r fath.
(3) At ddibenion paragraff (1)(a), ystyr "mewn pob manylyn o bwys" yw ym mhob manylyn sydd o bwys er mwyn atgynhyrchu'n union gynnwys yr wybodaeth fel y byddai'n ymddangos mewn hysbysiad a roddir neu a anfonir ar ffurf brintiedig.
(b) copi o'r ffurflen apêl honno wedi'i llenwi i'r awdurdod mynediad yr un pryd ag yr anfonir neu y traddodir yr hysbysiad hwnnw i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan is-baragraff (a).
(2) Os caiff apêl ei dwyn yn erbyn hysbysiad a roddir o dan adran 36(3) o'r Ddeddf, y cyfnod apelio yw'r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad hwnnw yn gyfnod y mae'n ofynnol cyflawni'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad hwnnw o'i fewn.
(b) yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder -
6.
Dileer rheoliad 3 o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Camau gan y Cynulliad Cenedlaethol pan ddaw ffurflen apêl i law) a rhodder yn ei le -
(b) yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf, anfon holiadur at yr atebydd yn gofyn am yr wybodaeth sy'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ei chael i'w alluogi i ystyried yr apêl.".
7.
Ar ôl rheoliad 4(2) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Ymateb gan atebydd i apêl), mewnosoder -
(ii) enw a chyfeiriad unrhyw berson y rhoddwyd iddo gopi o hysbysiad o dan adran 37(3) o'r Ddeddf neu baragraff (3)(b), (iii) enw a chyfeiriad unrhyw berson a wnaeth sylwadau i'r atebydd ynghylch penderfyniad yr atebydd y mae'r apêl yn ymwneud ag ef, (iv) cyfeiriad y fforwm mynediad lleol perthnasol, a (v) manylion ynghylch ar ba adegau ac ymhle y mae'r awdurdod mynediad yn bwriadu sicrhau bod y dogfennau ar gael i'w harchwilio; a
(b) ei fod yn anfon copi o'r hysbysiad hwnnw at bob un o berchenogion a meddianwyr y tir (ac eithrio'r person y rhoddwyd iddo hysbysiad o dan adran 36(3)).".
8.
Yn rheoliad 5 o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Hysbysu partïon o'r weithdrefn apêl) -
(b) yn achos apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf, rhaid peidio â'i roi cyn pen cyfnod o dri mis yn cychwyn ar y dyddiad y dyroddir y map dros dro y mae'r apêl yn ymwneud ag ef (os yw'r dyddiad y daw'r cyfnod hwn i ben yn ddiweddarach na'r dyddiad a bennir yn is-baragraff (a)); neu (c) yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf, rhaid ei roi cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gael gan yr atebydd y dogfennau a'r wybodaeth y mae'n ofynnol i'r atebydd eu darparu ar ei gyfer o dan reoliad 4.
(3) Rhaid bod dyddiad ar yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) a rhaid iddo ddatgan -
(ii) gwrandawiad, neu (iii) nac (a) na (b) a chan hynny caiff ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig; a
(b) yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf -
(ii) ar ffurf disgrifiad beth yw'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad hwnnw.".
9.
- (1) Yn rheoliad 6(1)(a) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Hysbysu'r cyhoedd), ar ôl "30(3)", mewnosoder -
(2) Ar ddiwedd rheoliad 6(1)(ch), dileer yr atalnod llawn a rhodder -
(ii) unrhyw berson y rhoddwyd iddo gopi o hysbysiad o dan adran 37(3) o'r Ddeddf neu reoliad 4(3)(b), (iii) unrhyw berson a wnaeth sylwadau i'r atebydd mewn cysylltiad â'r mater sy'n destun yr apêl, a (iv) unrhyw berson arall y mae'n briodol rhoi hysbysiad iddo ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.".
(3) Yn rheoliad 6(2), -
(b) yn is-baragraff (a), ar ôl "apelydd", ychwaneger " ac, yn achos cyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf, neu apêl o dan adran 30(3) neu 38(1) o'r Ddeddf, enw'r atebydd;"; (c) yn is-baragraff (e), ar ôl "paragraff (1)(a) neu (b)", ychwaneger "(pa un bynnag sydd gynharaf) neu, yn achos apêl o dan adran 38(1) o'r Ddeddf, y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad yn unol â pharagraff (1)(c), (ch) neu (d)"; ac (ch) ar ddiwedd is-baragraff (g), dileer "ac" ac, ar ddiwedd is-baragraff (ng), dileer yr atalnod llawn a rhodder -
(ii) ar ffurf disgrifiad beth yw'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad hwnnw".
(4) Yn rheoliad 6(3), dileer "paragraff (1)(c)" a rhodder "paragraff (1)(c), (ch) neu (d)" yn ei le.
(ii) i'r fforwm mynediad lleol perthnasol.".
11.
Yn rheoliad 12(1) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Dyddiad a hysbysiad y gwrandawiad) -
(b) yn is-baragraff (ch), ar ôl "30(3)", ychwaneger " neu 38(1)"; (c) ar ddiwedd is-baragraff (ch), dileer yr atalnod llawn ac ychwaneger -
(ii) os yw'n barnu bod hynny'n angenrheidiol mewn achos penodol, ei gwneud yn ofynnol i'r atebydd -
(bb) gosod hysbysiad o'r gwrandawiad yn gadarn ar y tir apêl neu ar wrthrych ar neu'n agos at y tir hwnnw a hynny yn y fath fodd fel ei fod yn hollol weladwy a darllenadwy gan aelodau o'r cyhoedd; a rhaid i'r atebydd beidio â symud yr hysbysiad oddi yno, neu beri iddo gael ei symud oddi yno am gyfnod, cyn y gwrandawiad, y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei bennu.".
12.
Yn rheoliad 16(1) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Hysbysu'r penderfyniad), ar ddiwedd is-baragraff (c), ychwaneger -
(ii) i'r fforwm mynediad lleol perthnasol.".
13.
Yn rheoliad 22(6) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Dyddiad a hysbysiad yr ymchwiliad) -
(ii) onid yw o'r farn nad oes angen hynny mewn achos penodol, ei gwneud yn ofynnol i'r atebydd -
(bb) gosod hysbysiad o'r gwrandawiad yn gadarn ar y tir apêl neu ar wrthrych ar neu'n agos at y tir hwnnw a hynny yn y fath fodd fel ei fod yn hollol weladwy a darllenadwy gan aelodau o'r cyhoedd; a rhaid i'r atebydd beidio â symud yr hysbysiad oddi yno, neu beri iddo gael ei symud oddi yno am gyfnod, cyn y gwrandawiad, y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei bennu.".
14.
Yn rheoliad 28(1) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Hysbysu'r penderfyniad), ar ddiwedd is-baragraff (c), dileer "ac" ac, ar ddiwedd is-baragraff (ch), dileer yr atalnod llawn ac ychwaneger -
(ii) i'r fforwm mynediad lleol perthnasol.".
15.
Yn rheoliad 29(2) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Tynnu apêl yn ôl), ar ôl "rheoliad 5(1)", ychwaneger -
(3) Y canlynol yw'r personau a bennir at ddibenion paragraff (2) -
(b) y fforwm mynediad lleol, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwybod ei gyfeiriad.".
16.
Yn rheoliad 36(b) o Reoliadau Gweithdrefnau Apelau (Cyhoeddi penderfyniadau ar apelau), ar ôl "30(3)", mewnosoder -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rhan I (adrannau 1 i 46) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") yn gwneud darpariaeth ar gyfer mynediad i gefn gwlad. Mae adran 35 o'r Ddeddf yn ymwneud â chytundebau rhwng awdurdodau mynediad a pherchenogion a meddianwyr tir o ran y dull mynediad i dir y mae hawl mynediad i'r cyhoedd o dan adran 2 o'r Ddeddf yn perthyn iddo ("tir mynediad"). Mae adran 36(3) o'r Ddeddf yn darparu y caiff yr awdurdod mynediad, os yw perchennog neu feddiannydd yn methu cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiad mewn cytundeb o dan adran 35 o'r Ddeddf, roi i'r person y mae wedi ymrwymo i'r cytundeb gydag ef hysbysiad yn dweud wrtho am gyflawni gwaith i wneud iawn am dorri'r cyfyngiad. Mae adran 37 o'r Ddeddf yn galluogi awdurdod mynediad i gyflawni gwaith i ddarparu dull mynediad i dir mynediad os yw'r awdurdod wedi'i fodloni nad yw'n gallu dod i gytundeb o dan adran 35 o'r Ddeddf ar delerau rhesymol. Cyn cyflawni'r gwaith hwnnw, rhaid i'r awdurdod mynediad, o dan adran 37(1) o'r Ddeddf, hysbysu pob perchennog a phob meddiannydd fod yr awdurdod yn bwriadu cyflawni'r gwaith a bennir yn yr hysbysiad. Mae adran 38(1) o'r Ddeddf yn rhoi i'r perchennog a'r meddiannydd yr hawl i apelio yn erbyn hysbysiad o dan adran 36(3) neu 37(1) ac mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer camau cyntaf apêl o'r fath. Mae rheoliad 3 yn galluogi ymdrin â chamau cyntaf apêl drwy ddulliau electronig. Mae rheoliad 4 yn nodi'r dull y mae'n rhaid ei ddefnyddio wrth ddwyn apêl o dan adran 38(1), ac yn pennu cyfnod o amser yn gyfnod y mae'n rhaid dwyn apêl o'i fewn. Mae rheoliadau 5 i 16 yn gwneud y diwygiadau angenrheidiol i Reoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1794) (Cy.169) -
(b) i'w gwneud yn glir beth yw'r gofynion hysbysu sy'n bod eisoes ac a geir yn rheoliad 6(2) o'r Rheoliadau hynny.
Notes: [1] 2000 p.37.back [3] O.S. 2002/1794 (Cy.169), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/142 (Cy.14) ac O.S. 2005/1154 (Cy.71).back
ISBN 0 11 091123 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 13 May 2005 |