Rheoliadau Tenantiaethau Isradd (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tenantiaethau Isradd (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2005, ISBN 0110911199. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 143F(3) a (4) o Ddeddf Tai 1996[1], yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Isradd (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran tai annedd yng Nghymru. Personau sy'n cael cynnal adolygiadau 2. - (1) Rhaid i adolygiad o dan adran 143F o Ddeddf Tai 1996 o benderfyniad i geisio gorchymyn meddiannu tŷ annedd a osodir o dan denantiaeth isradd ("yr adolygiad") gael ei gynnal gan berson nad oedd ynghlwm wrth y penderfyniad hwnnw. (2) Pan fo'r adolygiad yn adolygiad o benderfyniad a wnaethpwyd gan un o swyddogion y landlord ac y mae'r adolygiad i'w gynnal gan swyddog arall, rhaid i'r swyddog sy'n adolygu'r penderfyniad fod mewn swydd uwch o fewn sefydliad y landlord. Hysbysiad am adolygiad 3. Rhaid i'r landlord o dan y denantiaeth isradd hybysu'r tenant nid llai na phum niwrnod clir cyn dyddiad yr adolygiad. Hawl i wrandawiad llafar 4. - (1) Pan fo'r tenant yn gwneud cais am hynny, rhaid i'r adolygiad fod yn wrandawiad llafar. (2) Rhaid gwneud unrhyw gais o'r fath i'r landlord cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1) i adran 143F o Ddeddf Tai 1996 (yr amser a ganiateir ar gyfer gwneud cais am adolygiad). (3) Os yw'r tenant yn gwneud cais o'r fath, rhaid i'r landlord, pan hysbysa'r tenant am ddyddiad yr adolygiad yn unol â rheoliad 3, roi gwybod hefyd i'r tenant am yr amser a'r lle y gwrandewir yr adolygiad. Sylwadau ysgrifenedig 5. P'un a yw'r adolygiad i fod ar ffurf gwrandawiad llafar ai peidio -
(b) rhaid i'r sylwadau hynny ddod i law'r landlord nid llai na dau ddiwrnod clir cyn dyddiad yr adolygiad; ac (c) rhaid i'r landlord ystyried unrhyw sylwadau a gaiff erbyn y dyddiad hwnnw.
Adolygiad ar ffurf gwrandawiad llafar
(b) holi unrhyw berson sy'n rhoi tystiolaeth yn y gwrandawiad.
(3) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, mae'r weithdrefn sy'n gysylltiedig ag adolygiad drwy gyfrwng gwrandawiad llafar i'w phenderfynu gan y person sy'n cynnal yr adolygiad.
(b) rhoi'r cyfarwyddiadau ynghylch cynnal yr adolygiad y mae'r person hwnnw yn eu barnu'n briodol.
Gohirio gwrandawiad (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Diwygiodd adran 14 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 Ran 4 o Ddeddf Tai 1985 (p.68) er mwyn caniatáu i denantiaeth ddiogel awdurdod tai lleol, ymddiriedolaeth gweithredu tai neu landlord cymdeithasol cofrestredig gael eu dirwyn i ben a'u disodli gan denantiaeth isradd lai diogel drwy gyfrwng gorchymyn israddio a wnaethpwyd gan lys sirol. Mewnosododd Atodlen 1 i Ddeddf 2003 ddarpariaethau pellach sy'n ymwneud â thenantiaethau isradd fel Pennod 1A newydd o Ran 5 o Ddeddf Tai 1996. Os yw landlord yn dymuno dod â thenantiaeth isradd i ben, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad i'r tenant. Rhaid i'r hysbysiad hwnnw ddatgan bod y landlord wedi penderfynu gwneud cais i'r llys am orchymyn meddiannu sy'n nodi'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw ac sy'n rhoi gwybod i'r tenant am ei hawl i wneud cais am gael adolygiad o'r penderfyniad. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i'w dilyn mewn adolygiad o'r fath. Mae rheoliad 2 yn darparu bod rhaid i adolygiad gael ei gynnal gan berson nad oedd ynghlwm wrth y penderfyniad gwreiddiol. Os gwnaethpwyd y penderfyniad gwreiddiol gan swyddog, yna ni chaniateir i unrhyw adolygiad o'r penderfyniad hwnnw gael ei gynnal gan neb ond swyddog sy'n uwch ei swydd o fewn sefydliad y landlord na'r swyddog a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol. Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i'r landlord roi hysbysiad i'r tenant am ddyddiad yr adolygiad. Mae rheoliad 4 yn galluogi'r tenant i gael gwrandawiad llafar o dan rai amgylchiadau ac mae'n esbonio sut y gellir arfer yr hawl honno. Mae rheoliadau 5 i 9 yn nodi manylion y weithdrefn adolygu. Notes: [1] 1996 p.52; mewnosodwyd adran 143F gan adran 14 o Atodlen 1 i Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1996, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn) ac adran 17 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003.back
ISBN 0 11 091119 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 4 May 2005 |