Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005, ISBN 0110911180. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 134, 135, 145(1) a (2) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 [1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Medi 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru. (3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i berson a benodwyd, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn bennaeth ar y canlynol:
(b) ysgol annibynnol yng Nghymru neu Loegr; neu (c) sefydliad addysgol tebyg y tu allan i Gymru neu Loegr.
(4) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Unedau Cyfeirio Disgyblion.
Cymhwyster Prifathrawiaeth
(b) y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yn Lloegr[3]; (c) Safon Prifathrawiaeth yr Alban[4]; (ch) y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Ngogledd Iwerddon [5]; (d) cymhwyster sy'n debyg o ran ei effaith yn rhinwedd Rheoliadau 2005.
(2) Ystyr y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru yw'r cymhwyster a ddyfernir gan y Cynulliad Cenedlaethol i berson os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod y person wedi llwyddo i gwblhau unrhyw gwrs hyfforddiant y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gymeradwyo o dro i dro at ddibenion dyfarnu'r cymhwyster hwnnw.
(b) yn meddu ar gymhwyster sy'n debyg o ran effaith yn rhinwedd Rheoliadau 2005
Gofyniad bod rhaid cofrestru
(b) yn ystod absenoldeb pennaeth,
yn gwasanaethu fel pennaeth yr ysgol at ddibenion y Rheoliadau hyn. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn gwneud darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol bod penaethiaid tro cyntaf ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ac ysgolion arbennig na chynhelir mohonynt gan awdurdod addysg lleol, ac a benodir yn benaethiaid ar neu ar ôl 1 Medi 2005:
(ii) yn athrawon cymwysedig; a (iii) wedi'u cofrestru yn athrawon.
Bydd yn ofynnol bod gweithwyr mudol o Aelod-wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd, Gwlad yr Iâ, Norwy, Liechtenstein neu'r Swistir yn meddu ar gymwysterau cyfatebol. Notes: [1] 2002 p.32.back [2] O.S. 2005/18. Mae hwn yn rhoi ei heffaith i Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48/EEC ynghylch system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfernir pan gwblheir addysg a hyfforddiant proffesiynol sy'n para am o leiaf dair blynedd.back [3] Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Prifathrawon) (Lloegr) 2003, (O.S. 2003/3111), yw'r Rheoliadau cyfredol sy'n darparu ar gyfer hyn. Mae'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yn Lloegr yn cael ei ddyfarnu gan y National College for School Leadership Limited.back [4] Ar hyn o bryd, mae Safon Prifathrawiaeth yr Alban yn cael ei hennill drwy ymgymryd â Chymhwyster yr Alban ar gyfer Prifathrawiaeth.back [5] Mae'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Ngogledd Iwerddon yn cael ei ddyfarnu gan yr Uned Hyfforddi Rhanbarthol yng Ngogledd Iwerddon.back
ISBN 0 11 091118 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 4 May 2005 |