Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Hysbysiadau) (Diwygio) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Hysbysiadau) (Diwygio) (Cymru) 2005, ISBN 0110911172. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 83(2) a (7) o Ddeddf Tai 1985[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Hysbysiadau) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig. Diwygiad: hysbysiad i'w gyflwyno cyn achos am orchymyn israddio 2. - (1) Mae Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Hysbysiadau) 1987[2] yn cael eu diwygio fel a ganlyn. (2) Ar ôl rheoliad 2, ychwaneger -
(3) Yn yr Atodlen, ar ôl Rhan II ychwaneger - This Notice is the first step towards the termination of your secure tenancy and its replacement with a demoted tenancy. You should read it very carefully.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Hysbysiadau) 1987, fel y maent yn gymwys yng Nghymru, i ragnodi'r math ar ffurf ar hysbysiad y dylid ei gyflwyno i denant diogel cyn i landlord gychwyn achos am orchymyn israddio o dan adran 82A o Ddeddf Tai 1985. Diwygiwyd Rhan 4 o Ddeddf Tai 1985 gan adran 14 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 i ganiatáu dod â thenantiaeth ddiogel i ben a rhoi tenantiaeth isradd lai diogel yn ei lle a hynny gan orchymyn israddio a wnaed gan lys sirol. Mae adran 83 o Ddeddf Tai 1985, fel y'i diwygiwyd gan adran 14 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003, yn darparu na chaiff llys ystyried achos am orchymyn israddio onid oes hysbysiad sydd ar y ffurf a ragnodwyd ac sy'n cynnwys gwybodaeth benodol arbennig wedi'i gyflwyno i'r tenant diogel, neu onid yw, ym marn y llys, yn deg a chyfiawn hepgor hysbysiad o'r fath. Notes: [1] 1985 p.68. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Tai 1985 (Deddf 1985), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn). Amnewidiwyd adran 83 o Ddeddf 1985 gan adran 147 o Ddeddf Tai 1996 (p.52). Yn adran 83, diwygir is-adrannau (1) a (2), a mewnosodir is-adran (4A), gan adran 14(3) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38).back [2] O.S. 1987/755 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/71 ac O.S. 1997/377.back [3] Mewnosodwyd adran 82A gan adran 14(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p.38).back
ISBN 0 11 091117 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 4 May 2005 |