Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 2005, ISBN 0110911164. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17, 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 2005; deuant i rym ar 30 Ebrill 2005 a maent yn gymwys o ran Cymru yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) o ran cyffaith blawd, bara ac iâ bwytadwy, wedi'i ragbacio gan fân-werthwr i'w werthu fel yn is-baragraff (a) o'r diffiniad hwn, neu wedi'i ragbacio gan gynhyrchydd y bwyd er mwyn i gynhyrchydd y bwyd ei werthu naill ai mewn mangre lle y cynhyrchwyd y bwyd neu mewn mangre arall y mae'r cynhyrchydd bwyd yn cynnal ei fusnes ohoni o dan yr un enw â'r busnes sy'n cael ei gynnal mewn mangre lle y mae'r bwyd yn cael ei gynhyrchu.
(2) Ystyrir bod bwyd wedi'i ragbacio at ddibenion y Rheoliadau hyn -
(b) os yw -
(ii) wedi'i amgáu'n gyfan gwbl mewn pecyn cyn cael ei gynnig i'w werthu a bwriedir iddo gael ei goginio heb agor y pecyn,
ond ni fernir bod bwyd wedi'i ragbacio at ddibenion y Rheoliadau hyn os yw'n cynnwys melysyn neu siocled sydd wedi'i lapio'n unigol ac nad yw wedi'i amgáu mewn unrhyw becyn ychwanegol, ac nad yw wedi'i fwriadu ar gyfer ei werthu fel eitem unigol.
(3) Mae i ymadroddion Saesneg eraill a'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yng Nghyfarwyddeb 2000/13 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb honno.
(b) yn gwerthu unrhyw fwyd nad yw wedi'i labelu yn unol â rheoliad 5, 6 neu 7,
bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(b) bwyd sydd wedi'i ragbacio i'w werthu'n uniongyrchol, neu (c) unrhyw gynnyrch cyffeithiol ffansi sydd wedi'i lapio'n unigol ac nad yw wedi'i amgáu mewn unrhyw becyn pellach sydd wedi'i fwriadu ar gyfer ei werthu fel eitem unigol,
nid oes angen labelu'r bwyd hwnnw ag unrhyw rai o'r manylion penodedig heblaw'r manylion allweddol.
(b) ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn, neu (c) ar label y gellir ei weld yn eglur drwy'r deunydd pecynnu,
ac eithrio pan werthir y bwyd hwnnw i unrhyw un heblaw'r defnyddiwr olaf, caiff y manylion hyn fel arall ymddangos ar y dogfennau masnachol ynglyn â'r bwyd yn unig, os oes modd gwarantu bod y dogfennau hynny sy'n cynnwys y manylion hyn i gyd, naill ai gyda'r bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn i'r bwyd gael ei ddanfon, neu'r un pryd â hynny.
(b) bwyd sydd wedi'i ragbacio i'w werthu'n uniongyrchol; ac (c) unrhyw gynnyrch cyffeithiol ffansi sydd wedi'i lapio'n unigol ac nad yw wedi'i amgáu mewn unrhyw becyn arall ac y bwriedir ei werthu fel eitem unigol.
(2) Pan fydd unrhyw fwyd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cael ei werthu i'r defnyddiwr olaf, rhaid i'r manylion allweddol y mae Rheoliad 608/2004 yn ei gwneud yn ofynnol eu rhoi ar label y bwyd, fel y'i darllenir ynghyd â rheoliad 4, ymddangos -
(b) ar fwydlen, hysbysiad, tocyn neu label y mae'n hawdd i ddarpar brynwr ei ddirnad yn y man lle y mae'n dewis y bwyd hwnnw.
(3) Pan fydd unrhyw fwyd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cael ei werthu ac eithrio i'r defnyddiwr olaf, rhaid i'r manylion allweddol y mae Rheoliad 608/2004 yn ei gwneud yn ofynnol eu rhoi ar label y bwyd, fel y'i darllenir ynghyd â rheoliad 4, ymddangos -
(b) ar docyn neu hysbysiad y mae'n hawdd i ddarpar brynwr ei ddirnad yn y man lle y mae'n dewis y bwyd hwnnw, neu (c) mewn dogfennau masnachol ynglyn â'r bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau hynny naill ai gyda'r bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn i'r bwyd gael ei ddanfon, neu'r un pryd â hynny.
Eglurder y marcio neu'r labelu
(b) wedi'i fwriadu i'w allforio i Aelod-wladwriaeth, yn fwyd y mae Rheoliad 608/2004 yn gymwys iddo, a bod y bwyd yn cydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliad hwnnw fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2000/13 fel y'i cymhwysir yn y Wladwriaeth honno.
Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf
(b) adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta); (c) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall); (ch) adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15; (d) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol); (dd) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)[7] i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3) isod; (e) adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3) isod; (f) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol).
(2) Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, dehonglir y cyfeiriadau yn is-adran (1) i'r Ddeddf fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at Reoliad 608/2004.
(b) adran 33(2) gyda'r addasiad yr ystyrir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (a) uchod; (c) adran 44 (amddiffyniad swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004 (OJ Rhif L97, 1.4.2004, t.44) ynghylch labelu bwydydd a chynhwysion bwyd â ffytosterolau, esterau ffytosterol, ffytostanolau a/neu esterau ffytostanol ychwanegol. Mae'r Rheoliad hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol labelu'r bwydydd a'r cynhwysion bwyd hynny â gwybodaeth ychwanegol, gan gynnwys y geiriau "with added plant sterols/plant stanols". Gwnaed Rheoliad 608/2004 yn unol â Chyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29) ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd ("y Gyfarwyddeb"). O ganlyniad, y cynhyrchion y mae Rheoliad 608/2004 yn ymwneud â hwy yw bwydydd a chynhwysion bwyd sydd i'w cyflenwi felly i'r defnyddiwr olaf neu rai y bwriedir eu cyflenwi i fasarlwywyr. Yn rhinwedd Erthygl 13(4) o'r Gyfarwyddeb, mae pecynnau bach penodol a photeli gwydr penodol sydd wedi'u marcio'n annileadwy yn esempt rhag gofynion labelu Rheoliad 608/2004. Mae darpariaeth drosiannol yn Erthygl 3 o'r Rheoliad hwnnw. Yn unol ag Erthyglau 14 a 15 o'r Gyfarwyddeb, mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys esemptiad rhag yr angen i gael eu labelu â rhai o'r manylion sy'n ofynnol gan Reoliad 608/2004 yn achos bwyd na chafodd ei ragbacio, rhai bwydydd tebyg a chynhyrchion cyffaith ffansi (rheoliad 4). Yn unol ag Erthyglau 13(1) a (2) a 14 o'r Gyfarwyddeb, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y dull labelu yn achos y manylion sy'n ofynnol (rheoliadau 5 i 7). Mae'r Rheoliadau hyn hefyd -
(b) yn darparu amddiffyniad o ran allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t. 23) ar reoli bwydydd yn swyddogol, fel y cânt eu darllen gyda'r nawfed croniclad i'r Gyfarwyddeb honno (rheoliad 9); (c) yn ymgorffori darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 10).
Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y rheoliadau hyn a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru (ynghyd â Nodyn Trosi). Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p. 16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back [4] OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29, fel y mae wedi'i gywiro gan Gywiriad (OJ Rhif L124, 25.5.2000, t.66).back [5] OJ Rhif L308, 25.11.2003, t.15.back [6] OJ Rhif L97, 1.4.2004, t.44.back [7] Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennuback
ISBN 0 11 091116 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 4 May 2005 |