Gorchymyn Ciniawau Ysgol (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Ciniawau Ysgol (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2005, ISBN 011091113X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 512(3) a 568 o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ciniawau Ysgol (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 30 Ebrill 2005. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn -
mae'r cyfeiriad at ysgol a gynhelir yn gyfeiriad at ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol o fewn ystyr adran 512(6) o Ddeddf 1996. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae adran 512(3) o Ddeddf Addysg 1996 fel y'i diwygiwyd gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i ddarparu ciniawau ysgol i ddisgyblion sydd yn gymwys i giniawau ysgol yn rhad ac am ddim, ac eraill, ar yr amod bod unrhyw ofynion rhagnodedig yn cael eu bodloni. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi gofyniad o'r fath. Mae'r gofyniad yn cael ei nodi yn erthygl 3. Mae'n gymwys yn unig i ddisgyblion cofrestredig sy'n derbyn addysg feithrin; rhaid iddynt fod yn bresennol am ddwy sesiwn lawn ar unrhyw ddiwrnod pan fyddant yn mynychu'r ysgol i beri bod dyletswydd i ddarparu cinio ar y diwrnod hwnnw. Mae erthygl 4 yn cynnwys darpariaeth drosiannol i atal disgyblion sydd yn derbyn addysg feithrin ran-amser mewn ysgolion a gynhelir, sydd eisioes yn derbyn ciniawau ysgol yn rhad ac am ddim yn union cyn 1 Ebrill 2003, rhag colli'r hawl i giniawau o'r fath. Mae erthygl 5 yn dirymu Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol) (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2003. Notes: [1] 1996 p.56; amnewidir adran 512 gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). I gael ystyr "prescribed" gweler adran 512(6).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002.back [3] O.S. 2003/880 (Cy.111).back
ISBN 0 11 091113 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 26 April 2005 |