Gorchymyn Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Hysbysu) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Hysbysu) (Cymru) 2005, ISBN 0110911156. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2, 3(1), (2)(b) a (4) a 4(1)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967[1], ac a freiniwyd ynddo bellach [2], yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Hysbysu) (Cymru) 2005. (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Ebrill 2005 ac mae'n gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn -
Hysbysu o fewnforion
(b) y pwynt mynediad arfaethedig ar gyfer dod â hwy i mewn i Gymru; (c) y defnydd arfaethedig ar y tatws; (ch) cyrchfan arfaethedig y tatws; (d) rhywogaeth y tatws; (dd) y maint o datws; ac (e) Rhif adnabod y cynhyrchydd.
(2) Rhaid i unrhyw berson a fewnforiodd, ar ôl 1 Medi 2004 a chyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, datws hadyd perthnasol i Gymru, wrth gynnal busnes, roi, o ran y tatws hynny, hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd erbyn 3 Mai 2005 fan bellaf ynghylch -
(b) y pwynt mynediad lle doed â hwy i mewn i Gymru; (c) y defnydd arfaethedig ar y tatws; (ch) cyrchfan neu gyrchfan arfaethedig y tatws; (d) rhywogaeth y tatws; (dd) y maint o datws a fewnforiwyd; ac (e) Rhif adnabod y cynhyrchydd.
Pwerau arolygydd
(b) at ddibenion arfer unrhyw un o'i bwerau o dan baragraff (4),
ac ar ôl dangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ei awdurdod i weithredu, gymryd y camau ym mharagraff (3).
(b) gwahardd unrhyw berson o'r fath rhag symud, trin neu ddistrywio'r tatws perthnasol neu'r tatws perthnasol amheus neu unrhyw gynhwysydd neu becyn.
(4) At ddibenion gwirio cydymffurfedd â'r Gorchymyn hwn, caiff arolygydd, ar ôl dangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ei awdurdod i weithredu, fynd i mewn, ar unrhyw adeg resymol, i fangre ac eithrio mangre sy'n cael ei defnyddio yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd, ac -
(b) cymryd samplau o, neu oddi ar, unrhyw datws neu unrhyw gynhwysydd neu becyn; ac (c) arolygu unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu dal) sy'n ymwneud â chynhyrchu neu fasnachu unrhyw datws, gwneud copïau o'r dogfennau neu'r cofnodion hynny, neu eu symud er mwyn gwneud copïau ohonynt.
(5) Caiff arolygydd, at ddibenion arfer unrhyw un o'i bwerau o dan baragraff (4), agor, neu awdurdodi unrhyw berson i agor ar ei ran neu ar ei rhan, unrhyw gynhwysydd neu becyn neu ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog neu unrhyw berson sydd â gofal dros unrhyw gynhwysydd neu becyn ei agor yn y modd a bennir gan yr arolygydd.
(b) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol i'w gael.
Tramgwyddau
(b) yn fwriadol yn rhwystro arolygydd neu unrhyw berson a awdurdodir gan arolygydd wrth iddo arfer ei bwerau o dan erthygl 4.
(2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 15 Ebrill 2005, yn gosod gofynion hysbysu penodol ar bersonau sy'n mewnforio i Gymru datws sy'n tarddu o'r Iseldiroedd ac sydd wedi'u tyfu yn ystod 2004 neu'n ddiweddarach ("tatws perthnasol"). Mae erthygl 3 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n mewnforio tatws perthnasol i Gymru wrth gynnal busnes, roi o leiaf ddau ddiwrnod o hysbysiad o'u mewnforio, mewn ysgrifen, i un o arolygwyr awdurdodedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n ofynnol hefyd i'r personau hynny roi gwybodaeth arall benodol i arolygydd ynghylch y mewnforio gan gynnwys pryd a ble y bwriedir dod â'r tatws perthnasol i mewn i Gymru (erthygl 3(1)). Mae erthygl 3 yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i bersonau a fewnforiodd i Gymru datws hadyd sy'n tarddu o'r Iseldiroedd ("tatws hadyd perthnasol") ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, ddarparu i arolygydd awdurdodedig wybodaeth benodol sy'n debyg ei natur erbyn 3 Mai 2005 fan bellaf (erthygl 3(2)). Mae erthygl 4 yn darparu pwerau i arolygwyr awdurdodedig at ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn a sicrhau cydymffurfedd hefyd â Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 ("y prif Orchymyn"). Mae'r rhain yn cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol i datws perthnasol gael eu symud i unrhyw fangre a phwer hefyd i wahardd symud, trin neu ddistrywio'r tatws hynny neu unrhyw gynhwysydd neu becyn (Erthygl 4(3)(a) a (b)). At ddibenion gwirio cydymffurfedd â'r Gorchymyn hwn, mae gan arolygwyr bŵer hefyd i fynd i mewn i fangre er mwyn cynnal archwiliadau neu arolygiadau o eitemau penodol a geir yno (Erthygl 4(4)). Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan arolygwyr awdurdodedig heb leihau effaith pwerau a roddwyd iddynt gan y prif Orchymyn. Mae erthygl 5 yn darparu bod person yn euog o dramgwydd os yw'n mynd yn groes i un o ofynion erthygl 3 neu'n methu â chydymffurfio â'r gofyniad hwnnw neu os yw'n fwriadol yn rhwystro arolygydd awdurdodedig neu unrhyw berson a awdurdodwyd gan arolygydd wrth iddo arfer ei bwerau o dan erthygl 4. Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn. Notes: [1] 1967 p.8; mae adran 1(2) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn diffinio "competent authorities" at ddibenion y Ddeddf. Diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48).back [2] O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol; ac, o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Orchymyn 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back [3] O.S. 1993/1320; a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/3213, 1995/1358 a 2929, 1996/25, 1165 a 3242, 1997/1145 a 2907, 1998/349, 1121 a 2245 a 1999/2126 a 2726, 2001/2343, 2002/1067, 2003/1157 a 2004/2365.back
ISBN 0 11 091115 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 29 April 2005 |