Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Dirymu) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Dirymu) (Cymru) 2005, ISBN 0110911148. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Dirymu) (Cymru) 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 15 Ebrill 2005, yn gymwys o ran Cymru. Dirymu Rheoliadau 2. Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru -
(b) Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Diwygio) 1998 [4].
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 15 Ebrill 2005, yn dirymu Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd 1997 ("Rheoliadau 1997") (O.S. 1997/2441) a Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Iseldiroedd (Diwygio) 1998 ("Rheoliadau 1998") (O.S. 1998/3168) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Yr oedd Rheoliadau 1997 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a oedd yn bwriadu mewnforio tatws a oedd yn tarddu o'r Iseldiroedd (ac a dyfwyd ym 1997) roi hysbysiad i arolygydd iechyd planhigion o'r bwriad hwnnw ynghyd â gwybodaeth gysylltiedig ynglyn â'u mewnforio. Darparodd Rheoliadau 1997 hefyd bwerau gorfodi penodol i arolygwyr iechyd planhigion a rhagnodi bod ffi (a oedd yn daladwy gan y rhai yr oedd yn ofynnol iddynt ddarparu hysbysiadau) i'w thalu pan fo sampl o datws had yn cael ei gymryd gan arolygydd er mwyn canfod a oeddent wedi'u heintio â "Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith". Diwygiodd Rheoliadau 1998 Reoliadau 1997 yn y fath fodd ag i gymhwyso'r olaf i datws a dyfwyd ym 1998. Diwygiasant hefyd y ffi a oedd yn daladwy am samplu'r tatws hadyd. Nid oes effaith ymarferol bellach i'r naill na'r llall o'r Rheoliadau hyn gan nad yw tatws a oedd yn tarddu o'r Iseldiroedd ac a dyfwyd ym 1997 a 1998 yn bodoli mwyach. Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn. Notes: [1] O.S. 1999/2788.back [3] O.S. 1997/2441, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/3168.back
ISBN 0 11 091114 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 29 April 2005 |