Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) 2005, ISBN 0110911067. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[1] ac is-adran (2) o adran 2 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2], ac yntau wedi'i ddynodi[3] at ddibenion yr is-adran honno o ran mesurau sy'n ymwneud ag asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol a chydymffurfio â gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed ac amcanion ansawdd aer, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Diffiniad 2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Rheoliadau 2002" ("the 2002 Regulations") yw Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002[4]. Diwygiadau i Reoliadau 2002: cyfranogiad y cyhoedd 3. - (1) Yn rheoliad 2 o Reoliadau 2002, mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol:
(2) Yn rheoliad 10 o Reoliadau 2002, mewnosoder ar ôl paragraff (11) -
(13) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol -
(b) sicrhau bod unrhyw wybodaeth am y cynigion y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried ei bod yn berthnasol ar gael i'r cyhoedd, gan gynnwys gwybodaeth am yr hawl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ac i gyflwyno sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol; (c) sicrhau bod cyfle gan y cyhoedd i gyflwyno sylwadau cyn i benderfyniadau ar y cynllun neu'r rhaglen gael eu gwneud; (ch) cymryd sylw dyladwy o unrhyw sylwadau o'r fath wrth benderfynu; a (d) ar ôl astudio'r sylwadau a gyflwynwyd gan y cyhoedd, gwneud ymdrechion rhesymol i hysbysu'r cyhoedd am y penderfyniadau a wnaed a'r ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniadau hynny arnynt, gan gynnwys gwybodaeth am y broses o gyfranogiad y cyhoedd.
(14) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi unrhyw wybodaeth y mae'n ofynnol iddo ei rhoi o dan baragraffau (12) a (13) yn y dull y mae'n ystyried sy'n briodol at ddibenion ei dwyn i sylw'r cyhoedd a rhaid iddo -
(b) pennu mewn hysbysiad ar y wefan honno y trefniadau manwl a wnaed i'r cyhoedd gymryd rhan wrth baratoi, addasu ac adolygu cynlluniau neu raglenni, gan gynnwys
(ii) yr amserlenni erbyn pryd y ceir cyflwyno sylwadau, gan ganiatàu digon o amser ar gyfer pob un o'r gwahanol gyfnodau i'r cyhoedd gymryd rhan fel sy'n ofynnol gan baragraffau (12) a (13).".
(3) Yn rheoliad 12 o Reoliadau 2002, hepgorer paragraff (9). (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002 (O.S. 2002/3183 (Cy.299)) ("Rheoliadau 2002"), sy'n gweithredu, o ran Cymru, Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC ar asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol[5], Cyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC ynghylch gwerthoedd terfyn ar gyfer sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol a phlwm[6] a Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/69/EC ynghylch gwerthoedd terfyn ar gyfer bensen a charbon monocsid mewn aer amgylchynol[7]. Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau 2002 at ddibenion gweithredu Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 2003/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyfranogiad y cyhoedd o ran llunio cynlluniau a rhaglenni penodol sy'n ymwneud â'r amgylchedd[8]. Mae rheoliad 4 yn ychwanegu dull amgen ar gyfer samplu a mesur PM10 er mwyn iddo gydymffurfio â'r dulliau y darparwyd ar eu cyfer yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC. Notes: [1] 1998 p.38.back [3] Gweler Erthygl 2 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 2000, O.S. 2000/2812.back [4] O.S. 2002/3183 (Cy.299).back [5] OJ L296, 21.11.1996, t.55, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad (EC) 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor, OJ L284, 31.10.2003, t.1.back [6] OJ L163, 29.6.1999, t.41, a ddiwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2001/774/EC, OJ L 278, 23.10.2001, t.35.back [7] OJ L313, 13.12.2000, t.12.back [8] OJ Rhif L156, 25.6.2003, t.17.back
ISBN 0 11 091106 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 19 April 2005 |