Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Ffrwythau (Diwygio) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Ffrwythau (Diwygio) (Cymru) 2005, ISBN 0110911059. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo yn rhinwedd yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol - Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Ffrwythau (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Diwygio Rheoliadau 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Ffrwythau 1995[3] o ran Cymru, yn unol â pharagraff (2). (2) Yn lle Atodlen 1 i'r Rheoliadau hynny rhodder yr Atodlen ganlynol -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys o ran Cymru, yn dod i rym ar 30 Ebrill 2005. Maent yn rhoi effaith i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/111/EC (O.J. Rhif L311, 27.11.2003, t.12) sy'n diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb 92/34/EEC (O.J. Rhif L157, 10.6.1992, t. 10) ar farchnata deunyddiau sy'n lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau a fwriadwyd ar gyfer cynhyrchu ffrwythau. Mae Rheoliad 2 yn disodli Atodlen 1 i Reoliadau Marchnata Deunyddiau Ffrwythau 1995 ac yn ei lle yn rhoi Atodlen 1 newydd sy'n pennu'r genera a'r rhywogaethau y mae'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt. Mae Arfarniad Rheoleiddiol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] O.S. 1999/2788.back [4] Prunus dulcis (Mill.) D A Webb is the accepted scientific name used in the United States Germplasm Resources Information Network ("GRIN") database (available at http://www.ars-grin.gov/cgi-bin/npgs/html/index.pl) and by the Royal Horticultural Society.back
ISBN 0 11 091105 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 19 April 2005 |