Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2005, ISBN 0110911083. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 32 a 44 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf")[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 29 Ebrill 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. (3) Yn y Rheoliadau hyn, bydd i eiriau neu ymadroddion yr ystyr a roddir iddynt yn Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002 (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel "y Rheoliadau")[2] a'r ystyr a roddir i'r geiriau neu'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Ddeddf. Diwygio'r Rheoliadau i ddarparu penderfyniad carlam ar apêl o dan adran 25(1)(a) 2. - (1) Dileer rheoliad 1(2) o'r Rheoliadau ac yn ei le rhodder -
(3) Dim ond i apêl o dan adran 25(1)(a) y mae Rhan VA o'r Rheoliadau hyn yn gymwys. (4) Mae Rhannau I, VA a VI o'r Rheoliadau hyn yn gymwys i apêl o dan adran 25(1)(a) yng Nghymru; ac, at ddibenion apêl o dan adran 25(1)(a), mae cyfeiriad at "apêl" yn Rhannau I a'r VI o'r Rheoliadau hyn i'w ddarllen fel cyfeiriad at apêl o dan adran 25(1)(a).".
(2) Yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau, ar ôl y diffiniad o -
3.
Ar ôl rheoliad 28 o'r Rheoliadau (Hysbysu'r penderfyniad), mewnosoder - 28A. Mae'r Rhan hon yn gymwys i apêl o dan adran 25(1)(a) oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu neu'n mynnu fel arall yn unol â'r Rheoliadau hyn. 28B. - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar y diwrnod y mae'n cael ffurflen apêl wedi'i chwblhau gan yr apelydd (neu ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl hynny os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gael ar ddiwrnod nad yw'n ddiwrnod gwaith), anfon copi o'r ffurflen honno, ynghyd â manylion am y weithdrefn sydd i'w dilyn wrth benderfynu'r apêl, i -
(b) yr awdurdod mynediad (os yw'n wahanol i'r awdurdod perthnasol); ac (c) fforwm mynediad lleol a sefydlwyd o dan adran 94 o'r Ddeddf y mae'r ardal y mae'n gweithredu ynddi yn cynnwys y tir y mae apêl yn ymwneud ag ef,
drwy gyfathrebiad electronig neu drosglwyddiad ffacsimili, ac eithrio, pan nad yw'n rhesymol ymarferol i'r Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â'r gofyniad hwn o fewn yr amser penodedig, rhaid iddo wneud hynny cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedyn.
(b) hysbysu'r apelydd a'r awdurdod perthnasol o ddyddiad, amser a lle'r gwrandawiad drwy alwad ffôn, cyfathrebiad electronig, neges ffacsimili neu bost dosbarth cyntaf; ac (c) sicrhau, ac eithrio os nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny, fod yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (b), ynghyd â chopi o'r ffurflen apêl sydd wedi'i chwblhau (a datganiad o achos yr awdurdod perthnasol, os yw'n ddogfen ar wahân), ar gael i'w harchwilio ar wefan a gynhelir gan y Cynulliad Cenedlaethol hyd nes bod yr apêl wedi'i phenderfynu.
Bod yn bresennol mewn gwrandawiad a chymryd rhan ynddo
(b) cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwad neu dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ddogfen arall a ddaeth i law'r person penodedig oddi wrth unrhyw berson cyn dechrau'r gwrandawiad neu yn ystod y gwrandawiad ar yr amod bod y person penodedig yn eu datgelu yn y gwrandawiad. ac (c) gohirio gwrandawiad ar unrhyw bryd; ac, os cyhoeddir dyddiad, amser a lle'r gwrandawiad gohiriedig yn y gwrandawiad cyn y gohiriad, ni fydd yn ofynnol cael unrhyw hysbysiad pellach.
Hysbysu o benderfyniad - apelau sy'n cael eu penderfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol
(b) cyn pen dau ddiwrnod gwaith ar ôl diwedd y gwrandawiad, hysbysu'r apelydd, yr awdurdod perthnasol, y Cynulliad Cenedlaethol ac unrhyw berson arall a gymerodd ran yn y gwrandawiad o'i benderfyniad ar yr apêl drwy anfon atynt gopi o'r ffurflen apêl ddiwygiedig (a datganiad o achos yr awdurdod perthnasol, os yw'n ddogfen ar wahân) a phenderfyniad y person penodedig wedi'i arnodi ar y copi hwnnw.
(2) Cyn gynted â phosibl ar ôl iddo gael ei hysbysu o dan baragraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod copi o'r ffurflen apêl ddiwygiedig (a datganiad o achos yr awdurdod perthnasol, os yw'n ddogfen ar wahân) ar gael i'w harchwilio ar y wefan a gynhelir neu a awdurdodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru am gyfnod o 3 mis.".
4.
Yn rheoliad 30 o'r Rheoliadau (Newid yn ffurf apêl), ar ôl "reoliad 5", ychwaneger "neu Ran VA". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) O dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf"), mae'r pŵer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i wneud rheoliadau i nodi'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn wrth benderfynu apelau sy'n cael eu dwyn o dan Ran I o'r Ddeddf. Cafodd Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1794) (Cy.169) ("y Rheoliadau Gweithdrefnau Apelau") eu gwneud yng Ngorffennaf 2002 i nodi'r gweithdrefnau hynny. Mae'r Rheoliadau newydd hyn yn diwygio'r Rheoliadau Gweithdrefnau Apelau drwy fewnosod yn y Rheoliadau hynny Ran VA newydd a thrwy wneud y mân ddiwygiadau canlyniadol sy'n angenrheidiol i alluogi darpariaethau eraill y Rheoliadau Gweithdrefnau Apelau i fod yn gymwys i apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod perthnasol i beidio â gweithredu yn unol â chais am gyfarwyddyd o dan adran 25(1)(a) o'r Ddeddf, pan fo'n briodol. Mae'r darpariaethau newydd -
(b) ei gwneud yn bosibl i wrandawiad gael ei gynnal pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi cael yr wybodaeth ragarweiniol berthnasol oddi wrth y partïon i ganiatáu i'r apêl fynd yn ei blaen.
Notes: [1] 2000 p.37.back [2] O.S. 2002/1794 (Cy.169), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/142 (Cy.14).back
ISBN 0 11 091108 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 20 April 2005 |