Rheoliadau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005, ISBN 0110910982. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan y deddfiadau a bennir yn yr Atodlen i'r offeryn hwn, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r gorchymyn hwn yw Rheoliadau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig. Diwygio is-ddeddfwriaeth 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfarfodydd Cyhoeddus) 1991[1] fel a ganlyn. (2) Yn rheoliad 3 -
(b) ar ôl y paragraff hwnnw, mewnosoder -
3.
- (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Grantiau) (Teithwyr a Phobl Wedi'u Dadleoli) 1993[2] fel a ganlyn.
(b) yn lle "section 3(5)-(7) of the Audit Commission Act 1998", rhodder "section 14(4) and (9) of the Public Audit (Wales) Act 2004".
4.
- (1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997[3] fel a ganlyn.
5.
- (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygiadau Awdurdodau Addysg Lleol) 1998[4] fel a ganlyn.
6.
- (1) Diwygir Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000[5] fel a ganlyn.
(b) hepgorer y geiriau "adran 28(1)(d) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998" ac yn eu lle rhodder "adran 96B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998".
7.
- (1) Diwygir Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001[6] fel a ganlyn.
(b) ar ddiwedd is-baragraff (dd), mewnosoder -
8.
- (1) Diwygir (Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002[7] fel a ganlyn.
(b) yn lle "adran 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998", rhodder "adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004".
9.
- (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002[8] fel a ganlyn.
(b) yn lle "adran 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998", rhodder "adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004".
10.
- (1) Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) 2002[9] fel a ganlyn.
(b) yn lle "adran 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998", rhodder "adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Effaith gyffredinol darpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 ("y Ddeddf") yw rhoi nifer o swyddogaethau newydd i Archwilydd Cyffredinol Cymru. Effaith fwyaf arwyddocaol y swyddogaethau newydd yw mai'r Archwilydd Cyffredinol, pan fydd y Ddeddf mewn grym yn llwyr, fydd yn arfer y rhan fwyaf o'r swyddogaethau a arferir ar hyn o bryd yng Nghymru gan y Comisiwn Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr ("y Comisiwn Archwilio"). Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ganlyniad i'r newid hwnnw. Maent yn diwygio pum set o Reoliadau ym maes addysg, dwy set o ran y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a dwy set ym maes llywodraeth leol. Yn y maes addysg, mae rheoliadau 3, 8, 9 a 10 yn diwygio'r gofynion, a osodir yn yr is-ddeddfwriaeth a ddiwygiwyd, ar gyfer ardystio grantiau. Ym mhob achos, mae'r diwygiadau'n darparu, o ran Cymru, y gwneir yr ardystio o hyn ymlaen gan archwilydd a benodwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (yn hytrach na chan y Comisiwn Archwilio), neu gan archwilydd cymwys ar gyfer penodiad o'r fath. Mae'r ddarpariaeth sy'n weddill o ran y maes addysg, rheoliad 5, yn darparu bod adroddiadau o arolygiadau awdurdodau addysg lleol yng Nghymru a gyflawnir o dan adran 38 o Ddeddf Addysg 1997 (fel y'i diwygiwyd) i'w hanfon at Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn hytrach nag at y Comisiwn Archwilio. Mae rheoliadau 2 a 6 yn ymwneud â materion ynglŷn â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae rheoliad 2 yn ymwneud â'r amgylchiadau pan fo'n rhaid i ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol gynnal cyfarfod cyhoeddus. Mae'n parhau'r sefyllfa bod yn rhaid cynnal cyfarfod pan fo ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn derbyn adroddiad buddiant cyhoeddus oddi wrth ei archwilydd. O ganlyniad i'r Ddeddf, gwneir yr adroddiadau hynny, o 1 Ebrill 2005 ymlaen, gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn hytrach na chan y Comisiwn Archwilio. Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn adlewyrchu hyn. Mae rheoliad 6 yn darparu, pan fydd cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn ymrwymo mewn trefniadau cronfa gyfun o dan Reoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000, y dylai cyfrifon y gronfa gyfun gael ei harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn hytrach na chan y Comisiwn Archwilio. Diwygir yr is-ddeddfwriaeth ym maes llywodraeth leol gan reoliadau 4 a 7. Mae rheoliad 4 yn diwygio'r diffiniad o "the auditor" yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997. Effaith y diwygiad yw, ar gyfer cyrff sy'n awdurdodau lleol at ddibenion y Rheoliadau hynny, ac sydd hefyd yn gyrff llywodraeth leol yng Nghymru at ddibenion adran 12 o'r Ddeddf, ystyr "the auditor" yw'r archwilydd a benodir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 13 o'r Ddeddf. Mae hyn yn cael effaith ar y gofynion y mae'n rhaid i awdurdodau lleol penodol eu cyflawni er mwyn i gontract y maent yn ymrwymo iddo fod yn gontract ardystio o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Contractau) 1997. Mae rheoliad 7 yn ychwanegu Archwilydd Cyffredinol Cymru at y rhestr o bersonau y caniateir i swyddogion monitro awdurdod lleol ddatgelu gwybodaeth iddo at ddibenion penodol, o dan Reoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001. Notes: [1] O.S. 1991/482, fel y'i diwygiwyd gan adran 54(2) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 a pharagraff 4(1) o Atodlen 4 iddi, (p. 18).back [2] O.S. 1993/569, fel y'i diwygiwyd gan adran 54(2) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 a pharagraff 4(1) o Atodlen 4 iddi (p. 18).back [3] O.S. 1997/2862, fel y'i diwygiwyd gan adran 54(2) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 a pharagraff 4(1) o Atodlen 4 iddi (p. 18).back [5] O.S. 2000/2993 (Cy. 193), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1390 (Cy. 140).back [6] O.S. 2001/2281 (Cy. 171).back [7] O.S.2002/438 (Cy. 56).back [8] O.S.2002/679 (Cy. 76).back [9] O.S.2002/1857 (Cy.181).back
ISBN 0 11 091098 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 22 March 2005 |