Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005, ISBN 0110910974. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan y deddfiadau a bennir yn yr Atodlen i'r offeryn hwn, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus 2004 (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru yn unig. Diwygio is-ddeddfwriaeth 2. - (1) Diwygir Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cwmnïau) 1995[1] fel a ganlyn: (2) Yn erthygl 9, hepgorer y geiriau o "the Audit Commission's consent" hyd at y diwedd, ac yn eu lle rhodder "the consent of -
(b) in any other case, the Audit Commission,
to the appointment of that person."
3.
- (1) Diwygir Gorchymyn Eithrio Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998[2] fel a ganlyn:
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio, o ran Cymru, ddau offeryn statudol er mwyn eu gwneud yn unol â darpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 ("y Ddeddf"). Mae'r Ddeddf yn rhoi nifer o swyddogaethau newydd i Archwilydd Cyffredinol Cymru. Effaith mwyaf arwyddocaol y swyddogaethau newydd yw mai'r Archwilydd Cyffredinol, pan fydd y Ddeddf mewn grym yn llwyr, fydd yn arfer y rhan fwyaf o'r swyddogaethau a arferir ar hyn o bryd yng Nghymru gan y Comisiwn Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr ("y Comisiwn Archwilio"). Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn o ganlyniad i'r newid hwnnw. Mae erthygl 2 yn diwygio Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cwmnïau) 1995, er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael cydsyniad Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn hytrach na'r Comisiwn Archwilio, i benodi person i archwilio cyfrifon cwmnïau o dan eu rheolaeth o fewn ystyr adran 68 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Mae erthygl 3 yn diwygio Gorchymyn Eithrio Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998, o ran Cymru, er mwyn darparu bod cyrff y mae eu cyfrifon yn ddarostyngedig i archwiliad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyflawni un o'r amodau ar gyfer cymhwyster i ymrwymo i gontract o dan y fenter cyllid preifat. Notes: [1] O.S. 1995/849.back
ISBN 0 11 091097 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 22 March 2005 |