Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 2) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 2) 2005, ISBN 0110910958. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 67(6) o Ddeddf Plant 2004[1], gyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn - Enwi, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 2) 2005. (2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Plant 2004. Y Diwrnod Penodedig 2. - (1) 16 Mawrth 2005 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adrannau 42 a 43 o'r Ddeddf i rym. (2) 1 Ebrill 2005 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adrannau 35, 36, 37, 38, 39, 40 a 41 o'r Ddeddf i rym. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 15 Mawrth 2005 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Y Gorchymyn hwn yw'r ail Orchymyn cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Plant 2004 ("y Ddeddf"). Mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adrannau 35 i 43 o'r Ddeddf, ac Atodlen 3 iddi, sy'n ymwneud â swyddogaethau CAFCASS yng Nghymru a Lloegr, i rym. Daw adrannau 42 a 43 sy'n ymwneud â throsglwyddo eiddo a staff i rym ar 16 Mawrth 2005 a daw adrannau 35 i 41 ac Atodlen 3 i rym ar 1 Ebrill 2005. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae darpariaethau Deddf Plant 2004 y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym o ran Lloegr ar y dyddiad a bennir wrth ymyl O.S. 2005/394 C.18, ac eithrio pan fo cofnod yn dangos bod darpariaeth wedi'i dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr.
Notes: [1] 2004 p.31.back
ISBN 0 11 091095 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 22 March 2005 |