Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2005, ISBN 0110910915. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 665 (Cy.55)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2005
Wedi'i wneud
8 Mawrth 2005
Yn dod i rym
1 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ofynnol, gan adran 4(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[1], iddo ymgynghori â hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(1)(a) a (2) ac adran 29(1) o'r Ddeddf honno .
Enwi, cychwyn a chymhwyso 1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru yn unig.
Dangosyddion Perfformiad 2.
Y dangosyddion perfformiad a bennir ar gyfer cynghorau sir a chynghorau bwrdeistrefi sirol, gan gynnwys, pan fo hynny'n briodol, dangosyddion perfformiad o ran swyddogaethau a arferir ganddynt fel awdurdodau gwaredu gwastraff, o ran y swyddogaethau a nodir yn y tabl isod, yw'r dangosyddion perfformiad a roddir yn y tabl hwnnw.
TABL
Swyddogaethau'r Awdurdodau Gwerth Gorau a'r Dangosyddion Perfformiad y Mesurir Perfformiad y Swyddogaethau hynny drwyddynt
Gwasanaethau Cymdeithasol
Pob dangosydd yn Atodlen 1
Tai
Pob dangosydd yn Atodlen 2
Addysg
Pob dangosydd yn Atodlen 3
Rheoli Gwastraff
Pob dangosydd yn Atodlen 4
Trafnidiaeth/Priffyrdd
Pob dangosydd yn Atodlen 5
Diogelu'r Cyhoedd
Pob dangosydd yn Atodlen 6
Effeithlonrwydd Ynni
Pob dangosydd yn Atodlen 7
Budd-daliadau Tai a Budd-daliadau Dreth Gyngor
Pob dangosydd yn Atodlen 8
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2].
Cyfradd yr oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 75 oed neu drosodd.
NS2
Cyfradd y bobl oedrannus (65 oed neu drosodd):
(a) y rhoddwyd cymorth iddynt i fyw gartref, fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd; a
(b) y mae'r awdurdod yn eu cefnogi mewn cartrefi gofal fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd.
NS3
(a) canran y lleoliadau cyntaf i blant sy'n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn a ddechreuodd gyda chynllun gofal ar waith; a
(b) ar gyfer y plant hynny sy'n derbyn gofal yr oedd eu hail adolygiad (a oedd i fod ar ôl 4 mis) i fod wedi'i gwblhau yn ystod y flwyddyn, canran gyda chynllun ar gyfer sefydlogrwydd adeg y dyddiad priodol.
NS4
Canran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd â phrofiad o symud ysgol unwaith neu fwy yn ystod cyfnod neu gyfnodau o dderbyn gofal, nad oedd y symud hwnnw oherwydd trefniadau trosiannol, yn y 12 mis hyd at 31 Mawrth.
(a) Nifer y teuluoedd digartref gyda phlant sy'n defnyddio llety gwely a brecwast, ac eithrio mewn argyfyngau; a
(b) cyfartaledd nifer y dyddiau y mae pob aelwyd ddigartref yn treulio mewn llety dros dro.
NS6
Cyfartaledd nifer y dyddiau gwaith rhwng cyflwyno person fel person digartref i'rawdurdod a chyflawni dyletswydd yr awdurdod at aelwydydd a geir yn ystatudol ddigartref.
NS7
Canran yr anheddau anffit yn y sector preifat a wnaed yn ffit, a gaewyd neu a ddymchwelwyd o ganlyniad i gamau gweithredu uniongyrchol gan yr awdurdod lleol.
NS8
Nifer gyfartalog fesul 1000 o'r boblogaeth o'r canlynol:
(i) unedau o gymorth fel y bo'r angen;
(ii) lleoedd gwely y gellir eu cael yn uniongyrchol;
(iii) lleoedd gwely mewn llety preswyl dros dro;
(iv) lleoedd gwely mewn llety preswyl parhaol;
(v) lleoedd gwely mewn llety gwarchod i bobl hyn; a
Canran presenoldeb y disgyblion mewn ysgolion uwchradd.
NS10
Nifer a chanran:
(i) yr holl ddisgyblion (gan gynnwys y rheini sydd yng ngofal awdurdod lleol); a
(ii) y disgyblion sydd yng ngofal awdurdod lleol, sydd mewn unrhyw sefydliad dysgu a gynhelir gan awdurdod lleol, sy'n cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol ac sy'n ymadaelag addysg, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith, llawn amser, heb gymhwyster allanol a gymeradwywyd.
NS11
Canran y disgyblion sy'n gymwys i gael eu hasesu ar ddiwedd Cyfnodd Allweddol 2, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cyrraedd y Dangosydd Pynciau Craidd, fel a benderfynir gan Asesiadau Athrawon.
NS12
Canran y disgyblion sy'n gymwys i gael eu hasesu ar diwedd Cyfnod Allweddol 3, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cyrraedd y Dangosydd Pynciau Craidd, fel a benderfynir gan Asesiadau Athrawon.
NS13
Cyfartaledd y sgôr pwyntiau cymwysterau allanol ar gyfer disgyblion 16 oed, mewn amgylcheddau dysgu a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
NS14
(a) Nifer; a
(b) chanran y disgyblion sy'n gymwys i'w hasesu, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cael Asesiad Athro yn y Gymraeg (iaith gyntaf):
(a) Nifer y busnesau uchel eu risg sy'n atebol i gael arolygiadau wedi'u rhaglenni neu weithgarwch gorfodi amgen yn ystod y flwyddyn; a
(b) canran y busnesau hyn a oedd yn agored i arolygiad wedi'i raglennu neu weithgarwch gorfodi arall a arolygwyd/a oedd yn destun gweithgarwch gorfodi arall, o ran:
DANGOSYDDION Y BUDD-DALIADAU TAI A BUDD-DALIADAU'R DRETH GYNGOR
Rhif y dangosydd
Prif ddangosydd
NS20
Diogelu'r budd-dal tai:
(a) nifer yr hawlwyr yr ymwelwyd â hwy fesul 1,000 baich achos;
(b) nifer yr ymchwilwyr i dwyll a gyflogwyd fesul 1,000 baich achos;
(c) nifer yr ymchwiliadau i dwyll fesul 1,000 baich achos; ac
(ch) nifer yr erlyniadau a'r sancsiynau fesul 1,000 baich achos.
NS21
Cyflymder y prosesu:
(a) cyfartaledd yr amser a gymerwyd i brosesu hawliadau newydd; a
(b) cyfartaledd yr amser a gymerwyd i brosesu hysbysiadau o newidiadau mewn amgylchiadau.
NS22
Cywirdeb y prosesu:
(a) canran yr achosion lle'r oedd y swm o fudd-dal a gyfrifwyd i fod yn ddyledus yn gywir ar sail yr wybodaeth a oedd ar gael adeg gwneud y penderfyniad, a hynny ar gyfer sampl o achosion a wiriwyd ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud; a
(b) y ganran o ordaliadau budd-dal tai a adenillwyd.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu dangosyddion perfformiad, ar gyfer Cymru, y cyfeirir atynt wrth fesur perfformiad cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, wrth arfer eu swyddogaethau, o 1 Ebrill 2005.
Drwy gyfeirio at yr Atodlenni, mae erthygl 2 yn nodi pa ddangosyddion perfformiad a gaiff eu defnyddio i fesur perfformiad pa swyddogaethau ar gyfer y gwahanol awdurdodau gwerth gorau.
Mae Atodlenni 1 i 8 yn manylu ar y dangosyddion rhagnodedig ar gyfer y gwahanol swyddogaethau fel a ganlyn:
Atodlen 1 - Gwasanaethau Cymdeithasol
Atodlen 2 - Tai
Atodlen 3 - Addysg
Atodlen 4 - Rheoli gwastraff
Atodlen 5 - Trafnidiaeth/Priffyrdd
Atodlen 6 - Diogelu'r cyhoedd
Atodlen 7 - Effeithlonrwydd Ynni
Atodlen 8 - Budd-daliadau Tai a Budd-daliadau'r Dreth Gyngor
Dirymir Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2002 gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) (Dirymu) 2005 a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2005.