Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Diwygio) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Diwygio) 2005, ISBN 0110910869. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16BB(4), 17 a 126(4) a pharagraffau 2, 3 a 4 o Atodlen 7A i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a dehongli 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005. (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004[2]. Diwygio rheoliad 1(2) o'r Prif Reoliadau 2. - (1) Yn rheoliad 1(2) o'r Prif Reoliadau mewnosodir y diffiniad canlynol yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor
(2) Hepgorir y geiriau canlynol o'r diffiniad o "aelod" ("member"): "neu aelod o Fwrdd CIC yn ôl y digwydd".
(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 8 (aelodau sy'n gymwys i'w hailethol), tymor gwasanaethu unrhyw aelod, a benodwyd neu a ailbenodwyd ar 1 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny, yw rhwng un a phum mlynedd yn ôl yr hyn a bennwyd gan y corff penodi adeg penodi'r aelod hwnnw. (2) Pan fydd Cyngor newydd i'w sefydlu o dan adran 20A(2)(b) o'r Ddeddf ar gyfer ardal neu ran o ardal Cyngor sy'n bodoli eisoes, caiff y Cynulliad benderfynu y bydd swydd unrhyw aelod o'r Cyngor sy'n bodoli eisoes yn dod i ben yn union cyn sefydlu'r Cyngor newydd. (3) Pan fydd Cyngor yn cael ei ddiddymu o dan adran 20(A)(2)(b) o'r Ddeddf, caiff y Cynulliad benderfynu y bydd swydd ynrhyw aelod o'r Cyngor a ddiddymwyd yn dod i ben yn union."
Ychwanegu rheoliad 3A at y Prif Reoliadau
Gweddill ei dymor gwasanaethu cyfredol fydd tymor gwasanaethu unrhyw aelod sydd eisoes wedi'i benodi gan y corff sy'n penodi ar 31 Mawrth 2005."
Diwygio rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau
(3) Yn dilyn y rheoliad 8(2) newydd mewnosodir
Ychwanegu rheoliad 8A at y Prif Reoliadau.
(1) Caiff yr aelodau hynny a benodwyd cyn 1 Ebrill 2005, yn unol â rheoliad 3A, fwrw gweddill eu tymor gwasanaethu cyfredol, er y gall hynny olygu y byddant yn treulio mwy na'r uchafswm o ddeng mlynedd a ragnodir yn rheoliad 8 uchod. (2) Pan fydd yr aelodau hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod wedi treulio eu tymor gwasanaethu cyfredol, byddant, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliad 8."
Diwygio rheoliad 12 o'r Prif Reoliadau
Ychwanegu rheoliad 23A at y Prif Reoliadau
(1) Rhaid i'r Bwrdd wneud darpariaeth ynglyn â thrin ac ystyried cwynion a wneir am y ffordd y mae unrhyw swyddogaeth sydd gan Gyngor neu'r Bwrdd yn cael ei harfer. (2) Cyn bod y weithdrefn gwynion a lunnir gan y Bwrdd yn unol â pharagraff (1) uchod yn cael ei gweithredu, rhaid i'r Bwrdd sicrhau bod y weithdrefn yn cael ei chymeradwyo'n gyntaf gan y Cynulliad."
Diwygio rheoliad 24 o'r Prif Reoliadau
(3) Bydd tymor gwasanaethu aelod o'r Bwrdd yn gyfnod hyd at dair blynedd, fel a bennir adeg ei benodi."
Diwygio Rheoliad 26 o'r Prif Reoliadau (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004 (O.S. 2004/905) (Cy.89) ("y Prif Reoliadau"). Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod diffiniad, sef "aelod o'r Bwrdd" ac yn diwygio'r diffiniad o "aelod" yn rheoliad 1(2) o'r Prif Reoliadau. Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn rhoi fersiwn ddiwygiedig o reoliad 3 o'r Prif Reoliadau yn lle'r hen un. Mae'r prif newid yn newid tymor gwasanaethu aelodau o Gyngor Iechyd Cymuned i gyfnod rhwng un a phum mlynedd, fel a bennir adeg eu penodi. Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 3A newydd yn y Prif Reoliadau. Mae hwn yn darparu mai'r cyfnod sydd heb ddirwyn i ben o dymor cyfredol penodiad aelodau o Gyngor Iechyd Cymuned a benodwyd ar 31 Mawrth 2005 neu cyn hynny yw eu tymor gwasanaethu. Mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 8(1), yn disodli rheoliad 8(2) ac yn ychwanegu paragraff (3) newydd at reoliad 8 o'r Prif Reoliadau. Effaith y newidiadau yw darparu mai deg yw uchafswm nifer y blynyddoedd y caiff person wasanaethu fel aelod o Gyngor Iechyd Cymuned. Caiff pob gwasanaeth fel aelod o Gyngor neu Gynghorau Iechyd Cymuned, heb ystyried unrhyw ad-drefniadau, ei agregu wrth gyfrifo'r cyfnod hwyaf o ddeng mlynedd. Mae rheoliad 6 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 8A newydd yn y Prif Reoliadau. Mae rheoliad 8A newydd yn darparu bod aelodau o Gyngor Iechyd Cymuned a oedd wedi'u penodi cyn 1 Ebrill 2005 yn cael treulio gweddill eu tymor gwasanaethu cyfredol hyd yn oed os byddai hynny'n golygu y byddent yn treulio mwy na'r uchafswm rhagnodedig o ddeng mlynedd. Mae rheoliad 7 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 12(3) o'r Prif Reoliadau i'w gwneud yn glir y byddai swyddogion i Gyngor Iechyd Cymuned yn ogystal ag aelodau yn cael eistedd ar gydbwyllgor. Mae rheoliad 8 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 23 o'r Prif Reoliadau i wneud sefydlu gweithdrefn gwynion yn un o swyddogaethau Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru. Mae rheoliad 9 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod yn y Prif Reoliadau reoliad 23A newydd sy'n ymdrin â sefydlu gweithdrefn gwynion sydd i'w dilyn mewn perthynas â chwynion am Gynghorau, aelodau unigol a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru. Mae rheoliad 10 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 24 o'r Prif Reoliadau. Y prif newidiadau yw darparu mai dim ond aelodau a swyddogion Cyngor Iechyd Cymuned y caniateir eu penodi i Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru, ac y bydd tymor penodiad aelodau o'r Bwrdd yn gyfnod hyd at dair blynedd. Mae rheoliad 11 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 26 o'r Prif Reoliadau i'w gwneud yn glir mai aelodau o Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru yw'r "aelodau" y cyfeirir atynt. Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi a'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Notes: [1] 1977 p.49. Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) a chan baragraff 37(6) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) a chan adran 1 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 (p.4) ("Deddf 2003"). Mewnosodwyd Adran 16BB(4) gan adran 6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17). Mewnosodwyd Atodlen 7A gan adran 1 o Ddeddf 2003. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 17 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [2] O.S. 2004/905 (Cy.89).back
ISBN 0 11 091086 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 16 March 2005 |