Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau Dodwy (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau Dodwy (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2005, ISBN 0110910842. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, a chan ei fod hefyd wedi'i ddynodi[3] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol i ddiogelu iechyd y cyhoedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn - Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau Dodwy (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
Dethol mangreoedd
(b) archwilio, cadw neu gopïo unrhyw gofnodion gan gynnwys cofnodion cyfrifiadurol, y maent yn ymddangos i'r arolygydd eu bod yn berthnasol, neu eu bod yn debygol o fod yn berthnasol; (c) cymryd a chadw y samplau hynny, gan gynnwys samplau o ieir dodwy, carcasau ieir dodwy a deunydd ysgarthol ac amgylcheddol, a hynny yn unol â'r Manylebion Technegol, yn ogystal â phob sampl arall y bydd yr arolygydd yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddibenion cymryd samplau, fel sy'n ofynnol gan Benderfyniad y Comisiwn; (ch) mynd â'r cerbydau hynny a'r cyfarpar hwnnw gydag ef neu hi y mae'r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol; (d) mynd gydag unrhyw berson arall y mae'r arolygydd yn ystyried ei fod yn angenrheidiol; ac (dd) ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd neu'r person sydd â gofal am y mangreoedd hynny, neu unrhyw gyflogai neu asiant i'r meddiannydd neu i'r person sydd â gofal am y mangreoedd, i ddarparu i'r arolygydd y cymorth, y cydweithrediad, yr wybodaeth a'r ddogfennaeth honno, gan gynnwys cofnodion, boed ar gyfrifiadur neu fel arall, y caiff yr arolygydd ofyn amdanynt yn rhesymol.
Tramgwyddau
(b) sydd yn methu â chydymffurfio â rheoliad 5(dd) uchod, a hynny heb esgus rhesymol; (c) sydd yn rhoi unrhyw wybodaeth i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, gan wybod bod yr wybodaeth honno yn anwir neu yn gamarweiniol; neu (ch) sydd, heb achos rhesymol, yn peidio â darparu dogfennaeth, gan gynnwys cofnodion neu wybodaeth, i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, pan fo'r person hwnnw yn gofyn iddo neu iddi wneud hynny;
yn euog o dramgwydd.
(b) unrhyw berson a oedd yn honni ei fod neu ei bod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath; neu (c) yn achos partneriaeth, partner neu berson a oedd yn honni i weithredu felly,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol neu'r bartneriaeth, yn euog o dramgwydd, a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn rhoi Penderfyniad y Comisiwn 2004/665/EC ar waith, sydd yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau gynnal arolwg o ba mor gyffredin y mae salmonela ymhlith heidiau dodwy (O.J. Rhif L 303/30) a hynny yn unol â manylebion technegol penodol y cyfeirir atynt yn Erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn. Mae'r Rheoliadau hyn -
(b) yn darparu pwerau i arolygwyr i fynd i fangreoedd lle y mae heidiau o ieir dodwy yn bresennol at ddibenion rhoi Penderfyniad y Comisiwn ar waith ac at ddibenion gorfodi (rheoliad 4); (c) yn darparu pwerau i arolygwyr gael gafael ar wybodaeth a dogfennaeth at ddibenion dethol mangreoedd i'w samplu, ac yn darparu pwerau i arolygwyr, pan fyddant yn mynd i fangreoedd, iddynt wneud ymchwiliadau, archwilio a chadw cofnodion, cymryd samplau, gofyn am gymorth, mynd gyda phersonau eraill a chymryd cyfarpar a cherbydau i'r mangreoedd, at ddibenion cyflawni'r gwaith o gymryd samplau o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 5); (ch) yn rhagnodi tramgwyddau a chosbau (rheoliadau 6 a 7); a (d) yn darparu i'r awdurdod lleol orfodi'r Rheoliadau ac eithrio pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyfarwyddo fel arall (rheoliad 8).
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi gogyfer â'r offeryn hwn. Gellir cael copïau gan Is-adran Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] O.S. 1999/2788.back
ISBN 0 11 091084 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 16 March 2005 |