Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2005, ISBN 011091083. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1, 7 a 23(f) a (g) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1], ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978 2. - (1) Diwygir Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978[2] ("Gorchymyn 1978") mewn perthynas â Chymru yn unol â darpariaethau canlynol yr erthygl hon. (2) Ym mharagraff (2) o erthygl 6 o Orchymyn 1978 (sy'n pennu'r dyddiad hyd at ei ddiwedd y mae diheintyddion sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol yn aros yn gymeradwy), yn lle "31st August 2003" rhodder "30 June 2005". (3) Yn lle Atodlen 1 i Orchymyn 1978 (sy'n rhestru diheintyddion a gymeradwywyd) rhodder Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn. (4) Yn lle Atodlen 2 i Orchymyn 1978 (sy'n rhestru diheintyddion sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol) rhodder Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn. Dirymu 3. Dirymir y canlynol -
(b) Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) 1999 [4] i'r graddau y mae'n ymwneud â Chymru.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978 ("Gorchymyn 1978"), O.S. 1978/32 ac yn dirymu Gorchmynion diwygio blaenorol. Mae'n disodli Atodlenni 1 a 2 i Orchymyn 1978 gan roi yn eu lle'r Atodlenni a nodir yn y Gorchymyn hwn. Mae Atodlen 1 yn rhestru diheintyddion a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae Atodlen 2 yn rhestru diheintyddion, er nad ydynt bellach yn gymeradwy, gellir parhau i'w defnyddio fel diheintyddion a gymeradwywyd tan 30 Mehefin 2005. Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am y Gorchymyn hwn mewn ffurf ddrafft yn unol â Chyfarwyddeb 98/34/EC, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 98/48/EC. Mae Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] 1981. p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn (Trosgwlyddo Swyddogaethau) Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2004 (O.S. 2004/3004).back [2] O.S. 1978/32 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1978/934, O.S. 1999/919 ac O.S.2001/641 Cy.31).back
ISBN 0 11 091083
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 16 March 2005 |