Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) (Diwygio 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) (Diwygio 2005, ISBN 011091080X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 6 a 138 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) (Diwygio) 2005, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn y gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Prif Reoliadau" yw Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002[3] ac mae cyfeiriad at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Prif Reoliadau sy'n dwyn y Rhif hwnnw. Diwygio'r Prif Reoliadau 2. Yn rheoliad 3(1) -
(b) yn y diffiniad o "lefel 4" a "lefel 5" yn lle'r geiriau "profion y CC" rhodder y geiriau "asesiadau gan athrawon"; ac (c) rhodder ar ôl y diffiniad o "anghenion addysgol arbennig" y canlynol -
3.
Yn rheoliad 4 -
(b) ar ôl paragraff (4) rhodder:
(b) o ran popeth arall, y flwyddyn ysgol 2005-06".
4.
Yn rheoliad 11, ar ôl paragraff (2) ychwaneger y canlynol -
5.
Yn rheoliad 12 -
(b) ym mharagraff (2) ym mhob un o'r is-baragraffau (a) i (ch) yn lle'r gair "profion" rhodder "asesiadau".
6.
Yn rheoliad 13 -
(b) ym mharagraff (2) o bob un o'r is-baragraffau (a) i (ch) yn lle'r gair "profion" rhodder "asesiadau".
7.
Yn rheoliad 30, ar ôl paragraff 1(b) rhodder:
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Gwnaed y Rheoliadau hyn o dan adrannau 6 a 138 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac maent yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002. Mae adran 6 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod addysg lleol lunio cynllun datblygu addysg (sy'n cael ei adnabod yng Nghymru wrth yr enw "cynllun strategol addysg") ar gyfer ei ardal. Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r gofyniad am gynllun llawn dilynol ac yn mewnosod gofyniad am drydydd cynllun atodol i'w lunio ar gyfer blwyddyn ysgol 2005-06. Hefyd, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ran y targedau sydd i'w gosod ar gyfer cyflawniadau disgyblion yng nghyfnodau allweddol dau a thri. Yn lle'r cyfeiriadau at brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol maent yn rhoi cyfeiriadau at asesiadau gan athrawon ac yn darparu bod targedau a osodwyd sy'n cyfeirio at ganlyniadau profion i'w darllen fel petaent yn cyfeirio at ganlyniadau asesiadau gan athrawon. Mae'r diwygiadau yn rhannol ganlyniadol i Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004. Mae'r Gorchymyn hwnnw'n pennu'r trefniadau asesu ar gyfer disgyblion sy'n astudio Cymraeg (fel iaith gyntaf), Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol dau. Mae'n disodli'r gofyniad i brofion gael eu rhoi i'r disgyblion hynny, fel y penderfynir ar lefelau eu cyrhaeddiad drwy asesiadau gan athrawon. Notes: [1] 1998 p.31. Ar gyfer ystyr "regulations" gweler adran 142.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 2, o dan y teitl; dylai'r dyddiad gwneud ddarllen "2 Mawrth 2005"; back [b] Amended by Correction Slip. Tudalen 4, dylai'r dyddiad llofnodi ddarllen "2 Mawrth 2005". back
ISBN 0 11 091080 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 8 March 2005 |