Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2005, ISBN 0110910796. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Aer Glân 1993[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol[2], ac yntau wedi'i fodloni y gall y dosbarthau ar leoedd tân sy'n cael eu hesemptio gan y Gorchymyn hwn gael eu defnyddio i losgi tanwydd nad yw'n danwydd awdurdodedig a hynny heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 5 Mawrth 2005. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru. Dosbarthau ar leoedd tân sy'n cael eu hesemptio rhag adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 2. Mae'r dosbarthau ar leoedd tân a ddisgrifir yn yr Atodlen, ar yr amodau sy'n cael eu pennu yno, yn cael eu hesemptio rhag darpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (sy'n gwahardd gollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg). Diwygio Gorchymyn cynharach 3. Yn y cofnod sy'n ymwneud â'r Dunsley Yorkshire Stove yn yr Atodlen i Orchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) 1999[3] -
(b) yn y golofn o dan y pennawd "Conditions", ar ôl "bearing the reference A/22160" rhodder ", as amended by the manufacturer's instructions dated 4 October 2004 bearing the reference D13 with regard to the Stove and Multifuel Stove and the manufacturer's instructions dated December 2004 bearing the reference GHD/DUN4B/1 with regard to the Multifuel Stove and Boiler".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 ("y Ddeddf") yn gosod gwaharddiad cyffredinol ar ollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg. Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn a wnaed o dan adran 21 o'r Ddeddf, esemptio dosbarthau penodedig ar leoedd tân rhag darpariaethau adran 20, os yw wedi'i fodloni y gallant gael eu defnyddio at losgi tanwydd nad yw'n danwydd awdurdodedig a hynny heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg. Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn esemptio'r dosbarthau ar leoedd tân a restrir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn rhag darpariaethau adran 20 o'r Ddeddf, yn ddarostyngedig i'r amodau yn yr ail golofn o'r Atodlen honno. Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn diwygio Gorchymyn cynharach a wnaed o dan adran 21 o'r Ddeddf drwy ychwanegu at y rhestr o leoedd tân esempt sydd wedi'u gwneud gan Dunsley Heat Limited a thrwy ddiwygio'r cyfarwyddiadau sy'n gymwys i osod, cynnal a defnyddio'r lleoedd tân hynny. Notes: [1] 1993 p.11.back [2] Trosglwyddwyd pwerau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back
ISBN 0 11 091079 6
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 8 March 2005 |