Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2005, ISBN 011091077X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3) a (4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") [1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2005. (2) Yn y Gorchymyn hwn, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf a'r Atodlenni iddi. (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. Y Diwrnod penodedig 2. 28 Mai 2005 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym -
(b) adran 12 (effaith hawl mynediad ar hawliau a rhwymedigaethau perchenogion); (c) adran 13 (rhwymedigaeth meddianwyr); (ch) adran 14 (tramgwydd arddangos hysbysiadau ar dir mynediad sy'n ceisio darbwyllo'r cyhoedd i beidio â defnyddio'r tir); (d) adran 46(3) (sy'n cyflwyno Atodlen 4) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 4 y cyfeirir atynt ym mharagraff (e) o'r erthygl hon; (dd) adran 102 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 16 y cyfeirir atynt ym mharagraff (ff) o'r erthygl hon; (e) Atodlen 2 (y cyfyngiadau i sydd i'w cadw gan bobl sy'n arfer hawl mynediad); (f) paragraffau 2 (diwygio Deddf Coedwigaeth 1967 [2]) a 3 (diwygio Deddf Amaethyddiaeth 1967 [3]) o Atodlen 4; ac (ff) i'r graddau nad yw eisoes wedi dod i rym, Rhan I o Atodlen 16 (dirymu).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi grym i ddarpariaethau penodol Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") mewn perthynas â Chymru. Ar wahân i fân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol, mae'n rhoi grym i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ar 28 Mai 2005 -
(b) adrannau 12 a 13, sy'n ymwneud ag effaith yr hawl mynediad ar hawliau a rhwymedigaethau perchenogion a meddianwyr; (c) adran 14, sy'n creu tramgwydd newydd, sef arddangos hysbysiadau ar dir mynediad sy'n ceisio darbwyllo'r cyhoedd i beidio â defnyddio'r tir hwnnw; a (ch) Atodlen 2, sy'n cynnwys cyfyngiadau cyffredinol i'w cadw gan bobl sy'n arfer eu hawliau mynediad ar dir mynediad.
O ran Cymru, gan amlaf ystyr "tir mynediad" (diffinir "access land" yn adran 1(1) o'r Ddeddf) yw tir -
(b) a gafodd ei gyflwyno gan berson â hawl i wneud hynny o dan adran 16 o'r Ddeddf.
Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi llunio mapiau ar gyfer pob ardal yng Nghymru sy'n dangos yr ardaloedd lle bydd hawliau mynediad yn gymwys. Gellir edrych ar y fersiwn electronig o'r mapiau hynny yn eu ffurf derfynol yn swyddfa leol berthnasol CCGC y mae ei chyfeiriad i'w chael ar wefan CCGC yn www.ccw.gov.uk. Hefyd, gellir edrych ar y mapiau ar raddfa lai ar y wefan honno. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Rhoddwyd grym i ddarpariaethau canlynol Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yng Nghymru drwy orchymynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn -
Gwnaed y Gorchmynion Cychwyn canlynol o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 mewn perthynas â Lloegr -
Notes: [1] 2000 p.37.back
ISBN 0 11 091077 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 8 March 2005 |