Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2005, ISBN 0110910737. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 303A(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1] ("y Ddeddf") ac sydd bellach yn arferadwy, mewn perthynas â Chymru, gan y Cynulliad Cenedlaethol[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Y personau a'r ymchwiliadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal, neu i fod yn un o'r personau a benodir felly sydd i gynnal, ymchwiliad cymwys, o fewn yr ystyr sydd i'r term "qualifying inquiry" yn adran 303A(1) o'r Ddeddf, sydd i ddechrau ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym. Y swm dyddiol safonol 3. Os bydd ymchwiliad cymwys yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005, £679 fydd y swm dyddiol safonol a ragnodir gan adran 303A(5) o'r Ddeddf. Dirymu ac arbed 4. Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002[3] wedi'u dirymu, ac eithrio mewn perthynas ag ymchwiliad cymwys yr oedd y Rheoliadau hymny yn gymwys iddo ac a ddechreuodd cyn 1 Ebrill 2005 ac sy'n parhau wedi'r dyddiad hwnnw. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 22 Chwefror 2005 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yr awdurdod i adfer y costau a dalwyd ganddo mewn cysylltiad ag ymchwiliadau neu wrandawiadau eraill sy'n ymwneud â chynlluniau datblygu unedol, cynlluniau lleol neu barthau cynllunio syml sydd ag effaith yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau yn rhagnodi swm dyddiol safonol y caniateir ei godi am bob diwrnod y mae person a benodir i gynnal ymchwiliad neu wrandawiad wrthi'n ei gynnal, neu sydd fel arall yn gwneud gwaith sy'n gysylltiedig ag ef. O ran ymchwiliad neu wrandawiad arall sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005, £679 yw'r swm a ragnodir gan y Rheoliadau hyn. Mae hynny'n disodli'r swm o £618, a ragnodwyd ar gyfer y flwyddyn 2004/2005 gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2801) (Cy.269), ac eithrio mewn perthynas ag ymchwiliad cymwys yr oedd y Rheoliadau hymny yn gymwys iddo ac a ddechreuodd cyn 1 Ebrill 2005 ac sy'n parhau wedi'r dyddiad hwnnw. Notes: [1] 1990 p.8. Mewnosodwyd adran 303A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gan adran 1 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) 1995 (p.49). Gweler adran 336(1) o Ddeddf 1990 i gael y diffiniad o "prescribed".back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau perthnasol i'r Cynulliad Cenedlaethol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac y maent bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) (Cy.5), erthygl 4; gweler y cofnod am Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8) yn Atodlen 3 i Orchymyn 2000.back [3] O.S. 2002/2801 (Cy.269).back
ISBN 0 11 091073 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 3 March 2005 |