Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005, ISBN 0110910753. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13, 32, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1], adrannau 39 a 58 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004[2], ac, ar ôl ymghynghori yn unol ag adran 39(2) o'r Ddeddf honno, ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, y cymdeithasau hynny o awdurdodau lleol y mae'n ymddangos iddo eu bod yn ymwneud â hyn a'r cyrff hynny o gyfrifwyr y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn - Enwi a chychwyn 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig. Dehongli a chymhwyso 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) Ystyr unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at y "swyddog ariannol cyfrifol" yw -
(b) os nad yw'r person y cyfeirir ato ym mharagraff (a) yn alluog i weithredu oherwydd absenoldeb neu salwch, aelod o staff y person hwnnw a enwebwyd gan y person hwnnw at ddibenion adran 114 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[11] neu, os na wnaed enwebiad o'r fath o dan yr adran honno, y person a enwebwyd gan y person hwnnw at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i bob corff llywodraeth leol.
(b) Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Diwygio) (Cymru) 2001[12].
(2) Arbedir y Rheoliadau ym mharagraff (1) i'r graddau y maent yn gymwys i gyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n diweddu ar 31 Mawrth 2005 ac archwilio'r cyfrifon hynny.
(b) rheoli ariannol digonol ac effeithiol.
(2) Rhaid i'r corff llywodraeth leol gynnal adolygiad o leiaf unwaith mewn blwyddyn ar effeithiolrwydd ei system o reoli mewnol, a rhaid cynnwys datganiad ar reoli mewnol, a baratowyd yn ôl arferion priodol, lle bo'n berthnasol [13], ynghyd ag -
(b) unrhyw ddatganiad o gyfrifon os yw'r cyngor yn penderfynu gwneud hynny, unrhyw gyfrifon incwm a gwariant, datganiad o falansau neu gofnodion o dderbyniadau a thaliadau y mae'n rhwym arno i'w cyhoeddi neu eu harddangos yn unol â rheoliad 11.
Cofnodion cyfrifyddu a systemau rheoli
(b) ei systemau rheoli cyfrifyddu,
a bydd y swyddog hwnnw yn sicrhau bod y systemau rheoli cyfrifyddu a benderfynir gan y person hwnnw yn cael eu dilyn a bod cofnodion cyfrifyddu'r corff yn cael eu diweddaru a'u cynnal yn unol â gofynion unrhyw ddeddfiad ac arferion priodol.
(b) cofnod o asedau a rhwymedigaethau'r corff; ac (c) cofnod o incwm a gwariant y y corff mewn perthynas â hawliadau a wnaed ganddo, neu sydd i'w gwneud ganddo, am gyfraniad, grant neu gymhorthdal gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, unrhyw Weinidog y Goron neu gorff efallai bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Gweinidog hwnnw yn talu symiau o arian iddo.
(4) Rhaid i'r systemau rheoli cyfrifyddu a benderfynir gan y swyddog ariannol cyfrifol ar ran corff llywodraeth leol yn unol â pharagraff (1)(b) gynnwys -
(b) dynodi dyletswyddau swyddogion sy'n ymwneud â thrafodion ariannol a rhannu cyfrifoldebau'r swyddogion hynny mewn perthynas â thrafodion arwyddocaol; (c) gweithdrefnau i sicrhau nad yw symiau anghasgladwy, gan gynnwys dyledion drwg, yn cael ei diddymu ac eithrio gyda chymeradwyaeth y swyddog ariannol cyfrifol, neu aelod o staff y person hwnnw a enwebwyd at y diben hwn, ac y dangosir y gymeradwyaeth yn y cofnodion cyfrifyddu; a (ch) mesurau i sicrhau y rheolir risg yn briodol.
Archwilio mewnol
(b) rhoi'r cyfryw wybodaeth ac esboniad y mae'r corff hwnnw'n ystyried eu bod yn angenrheidiol at y diben hwnnw.
Datganiad o gyfrifon
(b) datganiad o gyfrifoldebau am y datganiad o gyfrifon; (c) y datganiadau cyfrifyddu canlynol hynny sy'n berthnasol i swyddogaethau corff llywodraeth leol -
(ii) cyfrif refeniw tai; (iii) mantolen gyfunol; (iv) datganiad o holl symud cronfeydd wrth gefn; (v) datganiad o lif arian; (vi) cyfrifyddu grŵp a datganiadau ariannol grŵp yn unol ag arferion priodol; (vii) unrhyw ddatganiadau eraill sy'n ymwneud â phob cronfa arall y mae'n ofynnol i'r corff o dan unrhyw ddarpariaeth statudol gadw cyfrifon ar wahân mewn perthynas â hi;
(ch) nodiadau i'r cyfrifon.
(2) Rhaid rhoi gyda'r datganiad sy'n ofynnol gan baragraff (1) nodyn o nifer y cyflogeion yn y flwyddyn y mae'r cyfrifon yn berthnasol iddi y disgynnodd eu tâl ym mhob cromfach o raddfa mewn lluosrifau o £10,000 gan ddechrau gyda £60,000; ac, at y dibenion hynny, ystyr "tâl" yw pob swm a dalwyd i gyflogai neu aelod, neu pob swm a all ddod i law cyflogai neu aelod, ac mae'n cynnwys symiau sy'n ddyledus fel lwfansau treuliau (i'r graddau y mae modd codi treth incwm arnynt yn y Deyrnas Unedig), ac amcangyfrif o werth ariannol unrhyw fuddiannau eraill a gafodd cyflogai neu aelod heblaw mewn arian parod.
(b) cyd-awdurdod; (c) pwyllgor awdurdod lleol yng Nghymru (gan gynnwys cyd-bwyllgor o ddau awdurdod lleol neu fwy yng Nghymru); (ch) Awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru; (d) awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; (dd) awdurdod tân ac achub.
(4) O ran cyngor cymuned, os yw incwm neu wariant gros (p'un bynnag yw'r uchaf) ar gyfer y flwyddyn yn £1,000,000 neu fwy, neu os oedd felly ar gyfer y ddwy flynedd yn union cyn hynny, bydd gofynion paragraffau (1) a (2) uchod yn gymwys i'r cyngor hwnnw mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw.
(b) pwyllgor cynllunio trwyddedu; a (c) bwrdd draenio mewnol.
(3) O ran cyngor cymuned, os yw incwm neu wariant gros (p'un bynnag yw'r uchaf) ar gyfer y flwyddyn, ac ar gyfer y ddwy flynedd yn union cyn hynny, yn llai na £1,000,000 ac os oedd:
(b) yn £100,000 neu fwy ar gyfer y flwyddyn ac ar gyfer pob un o'r ddwy flynedd yn union cyn hynny, rhaid i'r cyngor baratoi cyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau'r cyngor o ran y cyfnod hwnnw ar y ffurf a bennir mewn unrhyw Ffurflen Flynyddol fel sy'n ofynnol gan arferion priodol; neu (c) yn llai na £100,000 ar gyfer y flwyddyn neu ar gyfer unrhyw un o'r ddwy flynedd yn union cyn hynny, rhaid i'r cyngor baratoi yn unol ag unrhyw Ffurflen Flynyddol ac ar y ffurf a bennir ynddi, fel sy'n ofynnol gan arferion priodol;
(ii) cyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau'r cyngor mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw.
(4) Mae'r Rheoliad hwn yn gymwys ar gyfer y flwyddyn sy'n diweddu ar 31 Mawrth 2006, a'r blynyddoedd sy'n dilyn.
(b) os nad oes angen paratoi datganiad o gyfrifon, bod y cyfrif incwm a gwariant a'r datganiad o falansau, neu (c) os nad oes angen paratoi cyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau, bod cofnod o dderbyniadau a thaliadau'r corff,
yn cael eu paratoi yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(b) yn dilyn cymeradwyaeth yn unol ag is-baragraff (a), rhaid i'r datganiad o gyfrifon gael ei lofnodi a'i ddyddio gan y person sy'n llywyddu yn y pwyllgor neu'r cyfarfod lle rhoddwyd y gymeradwyaeth honno.
(4) Mewn perthynas â'r holl gyrff llywodraeth leol y cyfeirir atynt yn rheoliad 8(2) a (3) -
(b) yn dilyn cymeradwyaeth yn unol ag is-baragraff (a), rhaid i'r datganiad o gyfrifon os bydd y cyngor yn penderfynu hynny, y cofnodion o'r derbyniadau a thaliadau neu'r cyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau, yn ôl y digwydd, gael eu llofnodi a'u dyddio gan y person sy'n llywyddu yn y pwyllgor neu'r cyfarfod lle rhoddwyd y gymeradwyaeth honno.
(5) Dylid darllen y cyfeiriad ym mharagraff (3)(a) at "30 Mehefin" mewn perthynas â'r flwyddyn sy'n diweddu gyda 31 Mawrth 2006 fel cyfeiriad at "31 Gorffennaf".
(b) cytuno ar gamau gweithredu i sicrhau y gellir rhoi cymeradwyaeth ac yn ddarostyngedig i is-baragraffau (c) ac (ch) i gytuno ar ddyddiad newydd ar gyfer y gymeradwyaeth am y datganiad o gyfrifon, neu'r cyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau neu'r cofnod o dderbyniadau a thaliadau yn ôl y digwydd; (c) at ddibenion is-baragraff (b) dylid gosod dyddiad cymeradwyaeth newydd:
(ii) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol mewn amgylchiadau eithriadol, er gwaethaf ymdrechion gorau'r corff llywodraeth leol, ni all ddatrys materion perthnasol i ganiatáu i benderfyniad gael ei wneud yn unol â'r terfyn amser yn is-baragraff (i);
(ch) os na all y corff llywodraeth leol gymeradwyo'r cyfrifon yn unol ag is-baragraff (c)(i) rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gynnal cyfarfod a phenderfynu'r rhesymau pam na all gymeradwyo'r cyfrifon a chyhoeddi datganiad yn nodi'r rhesymau hynny.
Cyhoeddi datganiad o gyfrifon etc
(b) sicrhau bod copïau ar gael i'w prynu gan unrhyw berson wrth dalu swm y caiff corff llywodraeth leol yn rhesymol ei wneud yn ofynnol.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i -
(b) corff llywodraeth leol y cyfeirir ato yn rheoliad 7(4) mewn perthynas â'r cyfrifon am gyfnod y cyfeirir ato yn y rheoliad hwnnw.
(3) Dylid darllen y cyfeiriad ym mharagraff (1) at "30 Medi" mewn perthynas â'r flwyddyn sy'n diweddu ar 31 Mawrth 2006 fel cyfeiriad at "31 Hydref".
(b) cadw copïau fel eu bod ar gael i'w prynu gan unrhyw berson wrth dalu swm y caiff corff llywodraeth leol yn rhesymol ei wneud yn ofynnol.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i -
(b) corff llywodraeth leol y cyfeirir ato yn is-baragraffau (a) neu (b) o reoliad 8(3), mewn perthynas â'r cyfrifon am gyfnod y mae'r rheoliad hwnnw yn gymwys iddo.
(3) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl ar ôl gorffen archwiliad, a beth bynnag cyn 31 Rhagfyr yn union ar ôl diwedd blwyddyn, rhaid i gorff llywodraeth leol y cyfeirir ato yn rheoliad 8(3)(c), mewn perthynas â'r cyfrifon am gyfnod y cyfeirir ato yn y rheoliad hwnnw, arddangos hysbysiad sy'n cynnwys yr wybodaeth ofynnol mewn lle neu leoedd amlwg yn ardal y corff am gyfnod o 14 o ddiwrnodau o leiaf a chadw copïau fel eu bod ar gael i'w prynu gan unrhyw berson wrth dalu swm y caiff y corff llywodraeth leol yn rhesymol ei wneud yn ofynnol.
(b) y lle a'r amser pan fyddant ar gael; (c) enw a chyfeiriad yr archwilydd; (ch) y darpariaethau a gynhwysir yn adran 30 a 31 o Ddeddf 2004; a (d) y dyddiad a bennwyd o dan reoliad 12.
(3) Rhaid i gorff llywodraeth leol y mae rheoliad 11(2) yn gymwys iddo neu y cyfeirir ato yn rheoliad 11(3) arddangos hysbysiad sy'n cynnwys -
(b) yn hytrach na'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 2(b) uchod, manylion am y dull y dylid rhoi hysbysiad o fwriad i archwilio'r cyfrifon a'r dogfennau eraill.
(4) Rhaid i gorff llywodraeth leol wrth roi hysbysiad drwy hysbyseb neu arddangos hysbysiad o dan baragraff (1) neu (3) uchod hysbysu'r archwilydd ar unwaith yn ysgrifenedig bod hysbysiad wedi cael ei roi neu ei arddangos.
(b) manylion unrhyw fater y bwriedir y gall yr archwilydd wneud adroddiad mewn perthynas ag ef o dan adran 22 o'r Ddeddf honno.
(2) Ym mharagraff (1) os yw hysbysiad yn ymwneud â blwyddyn ariannol sy'n cychwyn cyn 1 Ebrill 2005 gall gynnwys yn ychwanegol at y materion hynny yn is-baragraffau (a) a (b) fanylion am unrhyw berson yr honnir y dylai'r archwilydd ardystio o dan adran 18 o Ddeddf 1998 bod swm neu gyfanswm o golled neu ddiffyg yn ddyledus oddi wrtho, a maint y swm hwnnw, ar yr amod nad yw'r hysbysiad yn ymwneud ag awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru[14].
(b) y cyfeiriad a'r amser lle ceir arfer yr hawliau hynny.
(2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl ar ôl gorffen archwiliad, rhaid i gorff y mae rheoliad 11(2) yn gymwys iddo neu gorff y cyfeirir ato yn rheoliad 11(3) arddangos hysbysiad mewn lle neu leoedd amlwg yn ardal y corff am gyfnod o 14 o ddiwrnodau o leiaf yn datgan bod yr archwiliad wedi'i gwblhau a bod y datganiad o gyfrifon, os yw'r cyngor yn penderfynu hynny, y cyfrif incwm a gwariant a'r datganiad o falansau, neu'r cofnod o dderbyniadau a thaliadau, yn ôl y digwydd, sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn ar gael i'w gweld gan etholwyr llywodraeth leol a chan gynnwys -
(b) y cyfeiriad a'r amser lle ceir arfer yr hawliau hynny.
(3) Os rhoddir unrhyw hysbysiad drwy hysbyseb neu os arddangosir unrhyw hysbysiad yn unol â pharagraff (1) neu (2) uchod, rhaid i'r datganiad o gyfrifon, y cyfrif incwm a gwariant a'r datganiad o falansau, neu'r cofnod o dderbyniadau a thaliadau, yn ôl y digwydd, y trefnwyd eu bod ar gael i'w gweld -
(b) os adolygir hwy fel a ddisgrifir yn is-baragraff (a) uchod, gael esboniad gyda hwy o ran y manylion perthnasol a newidiwyd o ganlyniad i adroddiad yr archwilydd; ac (c) os adolygir hwy fel a ddisgrifir yn is-baragraff (a) uchod, gael datganiad gyda hwy eu bod wedi cael eu paratoi ar ddyddiad y ddogfen wreiddiol ac nid ar ddyddiad yr adolygiad ac yn unol â hynny nad ydynt yn ymwneud â digwyddiadau rhwng y dyddiadau hynny.
(4) Os oes angen diwygiad o sylwedd o ganlyniad i adroddiad yr archwilydd i'r datganiad o gyfrifon, y cyfrif incwm a gwariant a'r datganiad o falansau neu'r cofnod o dderbyniadau a thaliadau ("y cyfrifon"), rhaid i'r swyddog ariannol cyfrifol roi adroddiad am y diwygiad i'r corff llywodraeth leol neu i bwyllgor y corff llywodraeth leol hwnnw a gymeradwyodd y cyfrifon yn unol â rheoliad 9(3) neu (4) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(b) sicrhau bod copïau ar gael i'w prynu gan unrhyw berson wrth dalu swm y caiff y corff llywodraeth leol yn rhesymol ei wneud yn ofynnol.
Cyd-bwyllgorau etc
(b) os yw'r pwyllgor, y bwrdd neu'r awdurdod yn gorff y mae rheoliad 7(3) yn gymwys iddo, wrth roi hysbysiad o dan reoliad 17(1), gopi o'r datganiad o gyfrifon.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr "awdurdod cyfansoddol" yw unrhyw sir, bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned sydd â hawl am y tro i benodi aelodau o'r pwyllgor, y bwrdd neu'r awdurdod o dan sylw ac mewn perthynas ag Awdurdod Parc Cenedlaethol mae'n cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(b) yn achos corff y mae rheoliad 11(2) yn gymwys iddo neu gorff y cyfeirir ato yn rheoliad 11(3), arddangos hysbysiad mewn lle neu leoedd amlwg yn ardal y corff,
ynghylch hawl unrhyw etholwr llywodraeth leol yn yr ardal y mae'r cyfrifon yn ymwneud â hi i ymddangos gerbron yr archwilydd a gwrthwynebu unrhyw rai o'r cyfrifon hynny. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 39 a 58 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 ("Deddf 2004"). Maent yn gwneud darpariaeth o ran cyfrifon ac archwilio cyrff llywodraeth leol yng Nghymru y mae'n ofynnol archwilio eu cyfrifon yn unol â Rhan 2 o Ddeddf 2004 (heblaw byrddau prawf lleol). Mae'r Rheoliadau'n disodli Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio 1996 (fel y'u diwygiwyd) ("Rheoliadau 1996") a dirymir hwy, ynghyd hefyd â Rheoliadau diwygio, o 1 Ebrill 2005 ymlaen (yn ddarostyngedig i arbedion penodol mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol sy'n diweddu ar 31 Mawrth 2005). Mae'r Rheoliadau hyn yn wahanol ar lawer cyfrif i Reoliadau 1996. Ymhlith y newidiadau sy'n werth sylwi arnynt y mae'r canlynol: gofyniad newydd penodol i gyrff llywodraeth leol fod yn gyfrifol am eu rheolaeth ariannol a'u system reoli mewnol (rheoliad 4); gofyniad i ddilyn arferion archwilio mewnol priodol (rheoliad 6); cynyddu'r trothwy ariannol pan fydd yn ofynnol i gynghorau cymuned ddarparu datganiad o gyfrifon o £500,000 i £1 filiwn; cynyddu'r trothwy ariannol pan fydd angen i gynghorau cymuned baratoi cyfrifon incwm a gwariant o £50,000 i £100,000 (rheoliad 8) a gwneud y dyddiadau cau yn gynharach yn raddol dros gyfnod ar gyfer cymeradwyo a chyhoeddi datganiadau o gyfrifon i brif awdurdodau (rheoliadau 9 a 10). Mae rheoliad 1 yn darparu y daw'r Rheoliadau i rym ar 1 Ebrill 2005 a'u bod yn gymwys yng Nghymru yn unig. Mae rheoliad 2 yn ymwneud â dehongli'r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau a'u cymhwysiad. Mae rheoliad 3 yn ymwneud â dirymu Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio 1996 (a'r Rheoliadau diwygio), sy'n rheoli'r cyfrifon a'r archwilio yn y cyrff y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt. Mae'r rheoliad hwn hefyd yn cynnwys darpariaeth arbed mewn perthynas â Rheoliadau 1996 i'r graddau y maent yn berthnasol i'r flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2005. Mae rheoliad 4 yn gosod gofyniad newydd ar gyrff llywodraeth leol, yn ei gwneud yn benodol am y tro cyntaf eu bod yn gyfrifol am sicrhau bod eu rheolaeth ariannol yn ddigonol ac yn effeithiol a bod ganddynt system gadarn o reoli mewnol y maent yn eu hadolygu'n rheolaidd. Mae rheoliad 4 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol dyroddi datganiad ar reoli mewnol gyda'r datganiadau ariannol. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r cofnodion cyfrifyddu a'r systemau rheoli sydd i'w cadw gan y cyrff y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt. Mae'r rheoliad hefyd yn pennu pan fydd y swyddog ariannol cyfrifol yn gwneud penderfyniadau ynghylch y cofnodion cyfrifyddu a'r systemau rheoli cyfrifyddu bod y person hwnnw yn gwneud hynny ar ran y corff llywodraeth leol. Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r system archwilio fewnol y dylid ei chynnal yn unol ag arferion priodol gan y cyrff y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt. Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth o ran cyrff penodol y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt mewn cysylltiad â pharatoi datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn. Nid yw'r rhwymedigaeth hon yn gymwys i gynghorau cymuned y mae eu hincwm neu wariant gros (p'un bynnag yw'r uchaf) ar gyfer y flwyddyn berthnasol, ac a oedd am y ddwy flynedd flaenorol, yn llai na £1 filiwn. Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth o ran y datganiadau cyfrifyddu y mae'n rhaid eu paratoi gan gyrff penodol y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, sef cyrff nad yw'r gofynion a nodir yn rheoliad 7 yn ymwneud â hwy. Cynyddir y trothwy ariannol pan fydd angen i gynghorau cymuned baratoi cyfrifon incwm a gwariant a datganiadau o falansau o £50,000 i £100,000. Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â llofnodi a chymeradwyo'r amrywiol ffurfiau o gyfrifon y mae'n ofynnol eu paratoi o dan y Rheoliadau hyn. Mae'r rheoliad hefyd yn cyflwyno gofyniad newydd ar gyfer person sy'n llywyddu pwyllgor neu gyfarfod i lofnodi'r datganiadau cyfrifyddu ar ôl iddynt gael cymeradwyaeth gan y pwyllgor neu'r cyfarfod a gymeradwyodd y datganiadau hynny. Yn achos cyrff sy'n ddarostyngedig i rwymedigaeth i baratoi datganiad o gyfrifon o dan reoliad 7(1) o'r Rheoliadau hyn y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cymeradwyo'r cyfrifon yw 30 Mehefin yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol. Mae hyn yn newid y dyddiad o 30 Medi yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol. Er mwyn cynorthwyo cyrff llywodraeth leol i addasu i'r amserlen newydd, mae'r amserlen i'w chyflwyno'n raddol dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyhoeddi datganiadau o gyfrifon a baratowyd o dan reoliad 7. Y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid eu cyhoeddi yw 30 Medi yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol. Mae hyn yn newid y dyddiad o 31 Rhagfyr yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol. Er mwyn cynorthwyo cyrff llywodraeth leol i addasu i'r amserlen newydd, mae'r amserlen i'w chyflwyno'n raddol dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyhoeddi cyfrifon y mae'n ofynnol eu paratoi o dan reoliad 8. Y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid eu cyhoeddi yw 31 Rhagfyr yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol. Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag arfer hawliau etholwyr llywodraeth leol. O dan ddarpariaethau adran 30(2) o Ddeddf 2004, mae gan etholwr llywodraeth leol neu gynrychiolydd y person hwnnw hawl i holi'r archwilydd am y cyfrifon ac, o dan ddarpariaethau adran 31(1), caiff etholwr llywodraeth leol fynd gerbron yr archwilydd a gwneud gwrthwynebiadau o ran materion penodol mewn perthynas â'r cyfrifon. Mae'r rheoliad hwn yn darparu y bydd yn rhaid i'r archwilydd bennu dyddiad y ceir arfer yr hawliau hyn ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw, a bydd yn rhaid i'r archwilydd hysbysu'r corff llywodraeth leol o'r dyddiad hwnnw. Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â threfniadau sydd i'w gwneud ar gyfer caniatáu i'r cyhoedd archwilio'r cyfrifon a dogfennau eraill. Rhaid iddynt fod ar gael ar gyfer eu harchwilio gan y cyhoedd am 20 o ddiwrnodau gwaith cyn y dyddiad a bennwyd gan yr archwilydd o dan ddarpariaethau rheoliad 12. Mae rheoliad 14 yn darparu na chaiff y cyfrifon a'r dogfennau eraill y trefnwyd eu bod ar gael i'w harchwilio'n gyhoeddus eu newid ar ôl trefnu eu bod ar gael, ac eithrio gyda chydsyniad yr archwilydd. Mae rheoliad 15 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyhoeddi gwybodaeth sy'n ymwneud â hawl y cyhoedd I archwilio'r cyfrifon a dogfennau eraill. Rhaid bod yr wybodaeth ar gael i'r cyhoedd o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn dechrau'r cyfnod pan drefnir bod y cyfrifon a dogfennau eraill ar gael yn unol â rheoliad 13. Mae rheoliad 16 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chynnwys unrhyw hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad arfaethedig a roddir gan etholwr llywodraeth leol i'r archwilydd. Mae rheoliad 17 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â rhoi hysbysiad bod archwiliad wedi'i gwblhau a bod y cyfrifon ar gael i'w harchwilio gan etholwyr llywodraeth leol. Mae rheoliad 18 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyhoeddi'r llythyr archwiliad blynyddol a gaiff cyrff llywodraeth leol oddi wrth eu harchwilydd. Mae rheoliad 19 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyd-bwyllgorau, byrddau ar y cyd, ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol o ran adneuo dogfennau penodol ynghylch eu cyfrifon a'u harchwiliadau gyda phob awdurdod cyfansoddol. Mae rheoliad 20 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr hysbysiad y mae'n rhaid ei roi gan gorff llywodraeth leol os bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyfarwyddo archwilydd i gynnal archwiliad eithriadol o gyfrifon y corff hwnnw. Mae rheoliad 21 yn datgan bod mynd yn groes i reoliadau penodol yn dramgwydd, fel a ddarperir gan adran 39(3) o Ddeddf 2004. Mae rheoliad 22 yn diwygio Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001, drwy ddibynnu ar bwerau yn Neddf Llywodraeth Leol 2000 i ychwanegu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn at y rhestr o swyddogaethau o dan y Rheoliadau hynny nad ydynt efallai yn gyfrifoldeb gweithrediaeth na chyfrifoldeb Bwrdd yn ôl eu trefn. Notes: [1] 2000 p.22.back [4] 2000 p.43. Gweler adrannau 12 a 59 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.back [13] Gweler adran 21(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.22), a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3239 (Cy. 319) fel y'i diwygiwyd gan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2004 (O.S. 2004/1010 (Cy.107)).back [14] Gweler O.S. 2000/3335 mewn perthynas ag awdurdodau heddlu yng Nghymru.back [15] O.S. 2001/2291 (Cy.179).back [16] O.S. 2001/2284 (Cy.173).back
[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 19, rheoliadau 22(2), llinell tri; dylai "Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2004" ddarllen "Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cyrmu) 2005". back
ISBN 0 11 091075 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 4 March 2005 |