Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2005, ISBN 0110910710. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] o ran mesurau sy'n gysylltiedig â bwyd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru'n unig a deuant i rym ar 1 Mawrth 2005. Diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) 1995 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol 1995[3] yn unol â pharagraff (2) i'r graddau y maent yn gynmwys o ran Cymru. (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o "list of acceptable previous cargoes for liquid oils or fats" rhodder y diffiniad canlynol -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig, ac maent yn diwygio ymhellach Reoliadau Diogewlch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) 1995 (O.S. 1995/1763 fel y'i diwygiwyd eisoes) sy'n gymwys i Brydain Fawr gyfan. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/4/EC. Mae'r gyfarwyddeb honno'n diwygio Cyfarwyddeb 96/3/EC. Mae'r gyfarwyddeb honno'n caniatáu rhanddirymu darpariaethau penodol o Gyfarwyddeb y Cyngor 93/43/EEC sy'n ymwneud â hylendid deunyddiau bwyd o ran swmpgludo olew a braster hylif dros y môr (OJ Rhif L15, 22.1.2004, t.25) drwy roi diffiniad diwygiedig o'r ymadrodd "list of acceptable previous cargoes for liquid oils or fats" yn lle'r diffiniad presennol o'r ymadrodd hwnnw yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) 1995 (rheoliad 2(2)). Mae'r diffiniad diwygiedig bellach yn cyfeirio at y rhestr a roddir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC (OJ Rhif L21, 27.1.96, t.42) fel y'i disodlwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/4/EC. O ran olew a braster hylif sydd i'w prosesu ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu bwyta gan bobl, mae Pennod IV o Atodlen 1 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) 1995 yn darparu bod caniatâd i swmpgludo hwnnw ar longau mordwyol mewn tanciau nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig os yw nifer benodol o lwythi blaenorol a gludwyd yn y tanciau i gyd o'r "list of acceptable previous cargoes for liquid oils or fats" fel y'i diffiniwyd yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau hynny. Mae arfarniad rheoliadol wedi baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW. Notes: [1] O.S. 2003/2901.back [3] O.S.1995/1763, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/2537; y mae offerynnau diwygio eraill i'w cael, ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.back [4] OJ Rhif L21, 27.1.96, t.42.back [5] OJ Rhif .L15, 22.1.2004, t.25.back
ISBN 0 11 091071 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 3 March 2005 |