Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005, ISBN 0110910699. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu bwydydd crai, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 10 Chwefror 2005. Diwygio Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 2. - (1) Mae Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003[3] wedi'u diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5). (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) -
(3) Yn lle paragraff (1) o reoliad 3 (gwahardd mewnforio), rhoddir y paragraff canlynol -
(b) bod y costau, sy'n deillio o'r samplu, y dadansoddi a'r storio ac o ddyroddi'r dogfennau swyddogol sy'n mynd gyda'r cnau pistasio hynny a chopïau o dystysgrifau iechyd a'r dogfennau sy'n mynd gyda'r tystysgrifau hynny yn unol ag Erthygl 1.4 i 7 o Benderfyniad y Comisiwn, wedi'u talu.".
(4) Yn lle paragraff (4) o reoliad 4 (gorfodi), rhoddir y paragraff canlynol -
(b) Erthygl 1.5 ac 1.6 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud â samplu a dadansoddi'r llwythi hynny), ac eithrio'r gofyniad o dan Erthygl 1.5 i roi gwybodaeth benodedig i'r Comisiwn; ac (c) Erthygl 1.7 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud ag achosion o hollti llwythi).".
(5) Yn lle rheoliad 6 (ailanfon neu ddinistrio mewnforion anghyfreithlon), rhoddir y rheoliad canlynol -
(b) os -
(ii) nad yw'r costau hynny wedi'u talu,
dinistrio'r cnau pistasio o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Os yw hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan is-baragraff (a) o baragraff (1) ac nad yw'r cnau pistasio o dan sylw wedi'u hailanfon y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, caiff swyddog awdurdodedig yr awdurdod iechyd porthladd neu'r awdurdod bwyd y cyflwynwyd yr hysbysiad gan ei swyddog awdurdodedig ef, ar ôl ymgynghori'n briodol â'r person y mae'n ymddangos iddo mai ef yw mewnforiwr y cnau pistasio, gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddinistrio'r cnau pistasio o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.
(b) y cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl.
(4) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) neu (2) apelio i lys ynadon, a fydd yn penderfynu a ddylid cadarnhau neu ddiddymu'r hysbysiad.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/2288 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/245 ac O.S. 2004/1804). Rhoddodd y Rheoliadau hynny ar waith Benderfyniad y Comisiwn 97/830/EC sy'n diddymu Penderfyniad y Comisiwn 97/613/EC ac sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio sy'n tarddu o Iran, neu sydd wedi'u traddodi oddi yno (OJ Rhif L343, 13.12.97, t.30) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/429/EC (OJ Rhif L154, 30.04.2004 t.20). Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Benderfyniad y Comisiwn 2005/85/EC, a elwir "y Penderfyniad newydd", sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio sy'n tarddu o Iran, neu sydd wedi'u traddodi oddi yno (OJ Rhif L30, 3.2.2005, t.12). Diddymodd y Penderfyniad newydd Benderfyniad y Comisiwn 97/830/EC. 2. Y gwahaniaethau pwysig rhwng y Penderfyniad newydd a Phenderfyniad y Comisiwn 97/830/EC yw -
(b) bod Erthygl 3 o'r Penderfyniad newydd yn darparu bod costau penodol, sy'n ymwneud â'r rheolaethau mewnforio ar gnau pistasio Iranaidd a osodir gan y Penderfyniad a'r costau ynglyn â mesurau swyddogol a gymerir yn erbyn llwythi o gnau pistasio Iranaidd nad ydynt yn cydymffurfio â'r Penderfyniad, i'w talu gan y person sy'n gyfrifol am y llwyth.
3.
Mae'r newid a ddisgrifiwyd ym mharagraff 2(a) uchod wedi'i gyflawni drwy roi diffiniad o'r Penderfyniad newydd yn lle'r diffiniad o Benderfyniad y Comisiwn 97/830/EC yn rheoliad 2(1) o O.S. 2003/2288 a gwneud newidiadau canlyniadol i reoliadau 3(1) a 4(4) o'r offeryn hwnnw (rheoliad 2(2)(a), (3) a (4)). Notes: [1] O.S. 2003/2901.back [3] O.S. 2003/2288 (Cy.227), a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/245 (Cy.24) ac O.S. 2004/1804 (Cy.192).back [4] OJ Rhif L30, 3.2.2005, t.12.back [5] OJ Rhif L201, 17.7.98, t.93.back [6] OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.14.back
ISBN 0 11 091069 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 23 February 2005 |