Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2005, ISBN 0110910672. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2], ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 25 Chwefror 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993[3]. Diwygio'r prif Reoliadau 3. - (1) Diwygir paragraff 1 o Ran I o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau fel a ganlyn: (2) Yn y nodyn sy'n dwyn y teitl "Rateable Value", yn lle "1st April 2000", rhodder "1 April 2005" ac, yn lle "1st April 1998", rhodder "1 April 2003". (3) Yn lle'r nodyn sy'n dwyn y teitl "Backdating of proposals and appeals", rhodder y canlynol -
(4) Ar ôl y nodyn sy'n dwyn y teitl "Proposals and appeals", mewnosoder y canlynol -
(5) Yn y nodyn sy'n dwyn y teitl "Charitable and discretionary relief", mewnosoder y canlynol ar ddiwedd y nodyn hwnnw -
(6) Dileer y paragraff sy'n dwyn y teitl "Transitional arrangements".
(4) Ar ôl y nodyn sy'n dwyn y teitl "Cynigion ac apelau" mewnosoder y canlynol -
(5) Ar ddiwedd y nodyn sy'n dwyn y teitl "Rhyddhad Elusennol a Dewisol", mewnosoder y canlynol -
(6) Dileer y paragraff sy'n dwyn y teitl "Trefniadau Trosiannol". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 ("y prif Reoliadau") yn darparu ynghylch cynnwys hysbysiadau sy'n galw am dalu ardrethi ac a ddyroddir gan awdurdodau bilio yng Nghymru. Maent yn darparu hefyd ynghylch rhoi gwybodaeth esboniadol yn yr iaith briodol ar y cyd â'r hysbysiadau hynny. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r wybodaeth esboniadol y mae'n rhaid i awdurdodau bilio yng Nghymru ei rhoi fel ei bod:
Notes: [1] 1988 p.41. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [2] 1993 p.38. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672.back [3] O.S. 1993/252 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/284; O.S. 1996/311; O.S. 1996/1880; O.S. 1997/356; O.S. 1998/155; O.S. 2000/793 (Cy.30) ac O.S. 2003/414 (Cy.59).back
ISBN 0 11 091067 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 23 February 2005 |