Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Pasbortau Ceffylau (Cymru) 2005, ISBN 0110910664. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo yn rhinwedd yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, rhychwantu a chychwyn 1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pasbortau Ceffylau (Cymru) 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau yn gymwys mewn perthynas â Chymru ac yn dod i rym ar 9 Chwefror 2005.
ystyr "awdurdod lleol" ("local authority") yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
ystyr "ceffyl" ("horse") yw anifail o rywogaeth y ceffyl neu'r asyn neu groesfridau o'r rhywogaethau hynny, ond nid yw'n cynnwys sebras;
ystyr "ceidwad" ("keeper") yw person sydd wedi'i benodi gan y perchennog i fod â gofal y ceffyl o ddydd i ddydd;
mae i "corff sy'n dyroddi pasbortau" ("passport-issuing organisation") yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 3;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
mae "gwerthu" ("sell") yn cynnwys unrhyw drosglwyddo perchenogaeth;
ystyr "pasbort" ("passport") yw -
(a) dogfen adnabod i geffyl a ddyroddwyd gan gorff sy'n dyroddi pasbortau sy'n cynnwys yr holl wybodaeth sy'n ofynnol gan reoliad 8(2) neu 8(3); neu
(b) yn achos dogfen adnabod o'r fath a ddyroddwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym ond nad yw'n cynnwys y tudalennau yn Adran IX o'r pasbort, y ddogfen honno gyda thudalennau Adran IX ynghlwm yn unol â rheoliad 9,
ac ystyr "tudalennau Adran IX" yw'r tudalennau hynny.
Cyrff a awdurdodwyd i ddyroddi pasbortau 3.
- (1) Mae'r cyrff canlynol (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel "cyrff sy'n dyroddi pasbortau") wedi'u hawdurdodi i ddyroddi pasbortau -
(a) cyrff a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn i ddyroddi pasbortau;
(b) cyrff sy'n cynnal neu'n sefydlu llyfrau gre i gofrestru ceffylau ac a gydnabyddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 3 o Reoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) 1992[3] neu gan unrhyw awdurdod arall yn y Deyrnas Unedig â'r cymhwysedd i gydnabod cyrff o'r fath yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 90/427/EEC ar 26 Mehefin 1990 ar amodau sootechnegol sy'n llywodraethu masnach rhyng-Gymunedol mewn ceffyleg[4];
(c) cyrff a gydnabyddir mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig neu Aelod-wladwriaeth arall o dan ddeddfwriaeth sy'n gweithredu naill ai -
(i) Penderfyniad y Comisiwn 92/353/EEC (sy'n nodi'r meini prawf ar gyfer cymeradwyo neu gydnabod cyrff a chymdeithasau sy'n cynnal neu'n sefydlu llyfrau gre ar gyfer ceffylau cofrestredig[5]); neu
(ii) Penderfyniad y Comisiwn 2000/68/EC (sy'n diwygio Penderfyniad y Comisiwn 93/623/EEC a sefydlwyd ar gyfer adnabod ceffylau ar gyfer bridio a chynhyrchu [6]); ac
(ch) cymdeithasau neu gyrff rhyngwladol sy'n rheoli neu'n rheoleiddio ceffylau ar gyfer cystadlu neu rasio ac a gofrestrwyd gyda'r Cynulliad Cenedlaethol i ddyroddi pasbortau neu a gofrestrwyd o dan ddarpariaethau statudol cyfatebol sydd mewn grym yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol drwy hysbysiad ysgrifenedig dynnu awdurdodiad yn ôl o dan baragraff (1)(a) neu gofrestriad o dan baragraff (1)(ch) os yw wedi'i fodloni ar sail resymol nad yw cymdeithas neu gorff yn cydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn.
(3) Ni chaiff neb ddyroddi dogfen sy'n honni drwy dwyll ei bod yn basbort.
Pwerau a dyletswyddau cyrff sy'n dyroddi pasbortau 4.
- (1) Y corff sy'n dyroddi pasbortau yw'r "awdurdod cymwys" at ddibenion y pasbort.
(2) Caiff corff sy'n dyroddi pasbortau ddileu pasbort a ddyroddwyd ganddo os yw wedi'i fodloni ar sail resymol -
(a) na chydymffurfiwyd â darpariaethau'r Rheoliadau hyn, neu
(b) na chafodd y pasbort ei gwblhau yn briodol neu a ffugiwyd mewn unrhyw fodd.
(3) Pan dychwelir pasbort am fod y ceffyl wedi marw, rhaid i'r corff sy'n dyroddi pasbortau farcio'r pasbort yn unol â hynny ond caiff wedyn ei ddychwelyd i'r perchennog os yw ei reolau'n caniatáu hynny.
Cofnodion 5.
- (1) Rhaid i gorff sy'n dyroddi pasbortau gadw cofnodion -
(a) o'r wybodaeth a geir mewn ceisiadau am basbortau a thudalennau Adran IX;
(b) o unrhyw newid ym mherchenogaeth ceffyl; ac
(c) o farwolaeth ceffyl.
(2) Rhaid iddo gadw'r cofnod hwn am dair blynedd ar ôl marwolaeth y ceffyl.
(3) Rhaid i gorff sy'n dyroddi pasbortau roi gwybodaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol o'i gofnodion yn y ffurf a chyda'r mynychder y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad ysgrifenedig.
Gwneud cais am basbort 6.
- (1) Rhaid gwneud cais am basbort -
(a) gan berchennog y ceffyl;
(b) yn ysgrifenedig i gorff sy'n dyroddi pasbortau; ac
(c) yn y fformat a bennir gan y corff hwnnw.
(2) Ni chaiff neb wneud cais am fwy nag un pasbort (heblaw am basbort yn lle un arall) ar gyfer ceffyl.
Terfynau amser ar gyfer cael pasbort 7.
- (1) Rhaid i berchennog ceffyl a anwyd ar neu cyn 30 Tachwedd 2004 nad oes ganddo basbort eisoes ar gyfer y ceffyl hwnnw wneud cais am basbort iddo cyn 14 Chwefror 2005, neu erbyn chwe mis ar ôl ei eni, p'un bynnag yw'r diweddaraf.
(2) Rhaid i berchennog ceffyl a anwyd ar ôl 30 Tachwedd 2004 gael pasbort iddo ar neu cyn 31 Rhagfyr ym mlwyddyn ei eni, neu erbyn chwe mis ar ôl ei eni, p'un bynnag yw'r diweddaraf.
Dyroddi pasbort 8.
- (1) Pan ddaw cais i law'r corff sy'n dyroddi pasbortau, ar yr amod y cydymffurfir â'i ofynion, rhaid iddo ddyroddi pasbort wedi'i gwblhau'n briodol yn y fformat a nodir yn yr Atodlen.
(2) Yn achos ceffyl sydd naill ai wedi'i gofrestru neu sy'n gymwys i'w gofnodi mewn llyfr gre corff cydnabyddedig yn unol ag Erthygl 2(c) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/426/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu symud a mewnforio ceffylau o drydydd gwledydd[7], rhaid i'r pasbort gynnwys yr holl adrannau a bennir yn yr Atodlen.
(3) Ym mhob achos arall rhaid i'r pasbort gynnwys o leiaf Adrannau I i IV a IX ond caiff gynnwys mwy o Adrannau neu'r holl Adrannau
Tudalennau Adran IX mewn pasbortau sydd eisoes ar gael 9.
- (1) Yn achos ceffyl a anwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym ac y mae ganddo eisoes ddogfen adnabod a ddyroddwyd gan gorff sy'n dyroddi pasbortau sy'n cynnwys yr holl wybodaeth sy'n ofynnol gan reoliad 8(2) neu 8(3) ac eithrio tudalennau Adran IX, caiff pasbort gynnwys y ddogfen adnabod honno ynghyd â'r tudalennau Adran IX a gafodd y perchennog oddi wrth gorff sy'n dyroddi pasbortau, ar yr amod bod y ceisydd -
(a) yn gwneud cais amdanynt cyn 14 Chwefror 2005, a
(b) yn eu rhwymo wrth y ddogfen adnabod.
(2) Mae rheoliad 6 yn gymwys i gais am dudalennau Adran IX fel y mae'n gymwys i gais am basbort.
(3) Rhaid i dudalennau Adran IX gynnwys yr un Rhif neu'r un cod alffaniwmerig ag sydd yn Adran II o'r ddogfen adnabod wreiddiol.
Adnabod 10.
- (1) Rhaid i'r corff sy'n dyroddi pasbortau pan fydd yn dyroddi pasbort ddynodi'r ceffyl â Rhif neu god alffaniwmerig nas defnyddiwyd cyn hynny gan y corff hwnnw.
(2) Rhaid iddo gofnodi'r Rhif neu'r cod alffaniwmerig yn Adran II o'r pasbort.
Iaith pasbortau 11.
- (1) Rhaid i Adrannau I i VIII o'r pasbortau a ddyroddir yng Nghymru fod yn Saesneg a Ffrangeg.
(2) Rhaid i Adran IX fod yn Saesneg.
(3) Caiff pasbort neu unrhyw ran ohono hefyd fod mewn iaith ychwanegol.
Ceffylau sy'n dod i Gymru 12.
- (1) Rhaid i berchennog ceffyl (neu, yn achos perchennog sy'n byw y tu allan i Gymru, y ceidwad) y daethpwyd â'r ceffyl i mewn i Gymru heb basbort (neu gyda dogfen a fyddai'n basbort oni bai am y ffaith nad yw'n cynnwys tudalennau Adran IX) wneud cais am basbort neu am dudalennau Adran IX o fewn 30 diwrnod ar ôl dod â'r ceffyl i mewn i Gymru.
(2) Rhaid i basbort neu dudalennau Adran IX a ddyroddwyd yn dilyn cais a wnaed o dan baragraff (1) ddatgan na fwriedir cigydda'r ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl.
(3) Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â cheffyl sy'n aros yng Nghymru am lai na 30 diwrnod.
Datganiad ynghylch cigydda ceffylau i'w bwyta gan bobl 13.
- (1) Rhaid i berchennog ceffyl neu gynrychiolydd y perchennog, pan ddaw pasbort neu dudalennau Adran IX i law, lofnodi'r datganiad yn Adran IX, Rhan II neu III - A, a fwriedir cigydda'r ceffyl i'w fwyta gan bobl neu beidio.
(2) Pan werthir y ceffyl, rhaid i'r datganiad gael ei lofnodi gan bob perchennog dilynol neu gynrychiolydd y perchennog.
(3) Os llofnodir y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) na fwriedir cigydda'r ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl, yna ni ellir newid y datganiad hwnnw.
(b) newid unrhyw gofnod a wnaed yn Adran I o'r pasbort;
(c) newid unrhyw fanylion yn Adran II neu III o'r pasbort onis awdurdodwyd hynny'n ysgrifenedig gan gorff sy'n dyroddi pasbortau;
(ch) gwneud cofnod yn Adran IV o'r pasbort ac eithrio ei fod yn unol â rheolau a rheoliadau'r corff sy'n dyroddi pasbortau, ac ni chaiff neb newid unrhyw gofnod; neu
(d) newid unrhyw fanylion yn Adran V, VI, VII, VIII neu IX o'r pasbort; neu
(dd) newid datganiad yn Adran IX na fwriedir cigydda ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl (ond os yw'r datganiad yn dangos y bwriedir cigydda'r ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl, caiff perchennog rywbryd wedyn ddatgan na fwriedir cigydda'r ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl, ac yn yr achos hwnnw ni fwriedir cigydda'r ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl).
(2) Ni chaiff neb fod â dogfen yn ei feddiant sydd drwy dwyll yn honni ei bod yn basbort.
(3) Mewn achosion yn erbyn person am dramgwydd o fethu cydymffurfio â pharagraff (2) mae'n amddiffyniad i'r person hwnnw brofi nad oedd yn ymwybodol nad oedd y ddogfen yn basbort.
Rhoi pasbort o'r newydd yn lle un a gollwyd neu a ddifrodwyd 15.
- (1) Os cafodd pasbort ei golli neu ei ddifrodi rhaid i berchennog y ceffyl, o fewn 30 diwrnod o ddarganfod y golled neu'r difrod, wneud cais am basbort o'r newydd ar gyfer y ceffyl hwnnw -
(a) os yw'r corff a ddyroddodd y pasbortau yn wreiddiol yn hysbys i'r perchennog, i'r corff hwnnw; neu
(b) os nad yw'r corff a ddyroddodd y pasbortau yn wreiddiol yn hysbys, i unrhyw gorff sy'n dyroddi pasbortau.
(2) Rhaid i'r corff sy'n dyroddi pasbortau y gwneir cais iddo yn unol â pharagraff (1) ddyroddi pasbort o'r newydd wedi'i farcio â'r gair "Duplicate".
(3) Os yw'r holl wybodaeth wreiddiol yn Adran IX yn ddarllenadwy rhaid i'r pasbort o'r newydd ailadrodd yr wybodaeth honno.
(4) Os yw unrhyw wybodaeth yn Adran IX yn annarllenadwy rhaid i'r corff sy'n dyroddi pasbortau ddangos yn y pasbort o'r newydd na fwriedir cigydda'r ceffyl i'w fwyta gan bobl drwy gwblhau Rhan II o'r Adran honno.
Cyfyngiadau ar y defnydd o geffylau heb basbortau 16.
Os dylid bod wedi dyroddi pasbort ar gyfer ceffyl, ar ôl 28 Chwefror 2005 ni chaiff neb -
(a) defnyddio'r ceffyl at ddibenion cystadlu neu fridio;
(b) symud y ceffyl allan o'r Deyrnas Unedig; neu
(c) symud y ceffyl i fangre ceidwad newydd,
oni bai fod pasbort gyda'r ceffyl.
Gofynion gan bersonau sy'n rhoi cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol 17.
- (1) Os yw cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol i gael ei roi i geffyl, rhaid i'r person y mae pasbort y ceffyl yn ei feddiant drefnu ei fod ar gael i'r llawfeddyg milfeddygol neu berson arall sy'n rhoi'r cynnyrch.
(2) Rhaid i'r llawfeddyg milfeddygol neu berson arall sy'n rhoi'r cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol -
(a) ei fodloni ei hun mai'r ceffyl a ddisgrifir yn y pasbort yw'r ceffyl;
(b) os yw'r pasbort yn cynnwys Adrannau V a VI, gofnodi yn yr adran briodol unrhyw frechlyn a roddir, ac os yw'n cynnwys Adran VII, gofnodi canlyniadau o unrhyw brofion iechyd labordy a wnaed ar gyfer clefyd trosglwyddadwy; ac
(c) os yw'r pasbort yn dangos y bwriedir cigydda'r ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl, gwblhau Rhan III - B o Adran IX o'r pasbort os yw'r cynnyrch a roir yn cynnwys sylwedd nas ceir yn Atodiadau I, II, III neu IV o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2377/90 [8] i'w roi i geffylau.
(3) Mewn achos ceffyl na chafwyd pasbort hyd yn hyn mewn perthynas ag ef neu nad yw ar gael am unrhyw reswm, neu os nad yw'r llawfeddyg milfeddygol mewn perthynas ag ef neu berson arall sy'n rhoi'r cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol wedi'i fodloni mai'r ceffyl yw'r un a ddisgrifir yn y pasbort, rhaid i'r llawfeddyg milfeddygol neu'r person arall sy'n rhoi'r cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol roi i'r ceidwad -
(a) cofnod ysgrifenedig o'r driniaeth o unrhyw gynnyrch sy'n cynnwys sylwedd nas ceir yn Atodiadau I, II, III neu IV i Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2377/90 i'w roi i geffylau, a hysbysiad ysgrifenedig fod yn rhaid ei gofnodi yn y pasbort; a
(b) os yw'r cynnyrch a roir yn cynnwys sylwedd a bennir yn Atodiad IV i Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2377/90 wedi cael ei roi, lofnodi'r datganiad yn y pasbort na fwriedir cigydda'r ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl.
(4) Rhaid i'r ceidwad gofnodi unrhyw wybodaeth a gafwyd o dan baragraff (3) yn y pasbort pan ddaw'r pasbort i law'r ceidwad.
Dyletswyddau perchenogion 18.
- (1) Ar ôl 28 Chwefror 2005 ymlaen ni chaiff neb werthu ceffyl heb basbort.
(2) Pan werthir ceffyl, rhaid i'r gwerthwr roi'r pasbortau i'r prynwr neu, mewn arwerthiannau, rhaid i'r arwerthwr roi'r pasbort i'r prynwr.
(3) Rhaid i'r perchennog newydd neu gynrychiolydd y perchennog, o fewn 30 diwrnod o'r prynu anfon at y corff sy'n dyroddi pasbortau a ddyroddodd y pasbort -
(a) enw a chyfeiriad y perchennog newydd; a
(b) enw a Rhif adnabod neu god alffaniwmerig adnabod y ceffyl yn ôl y cofnod yn Adran II o'r pasbort,
(c) a rhaid iddo gwblhau Adran I o'r pasbort yn unol â rheolau'r corff sy'n dyroddi pasbortau.
(4) Rhaid i berson sydd â phasbort yn ei feddiant ei ddangos ar archiad rhesymol i'r corff sy'n dyroddi pasbortau a'i dyroddodd, ac ar archiad rhesymol rhaid iddo ei roi i'r corff hwnnw.
(5) Rhaid i berchennog ceffyl sy'n marw neu sy'n cael ei gigydda anfon y pasbort i'r awdurdod sy'n dyroddi pasbortau o fewn 30 diwrnod ar ôl iddo farw.
Cigydda ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl 19.
Ar ôl 28 Chwefror 2005 ni chaiff neb gigydda ceffyl i'w fwyta gan bobl neu ei draddodi ar gyfer cigydda o'r fath onid yw ei basbort gydag ef a bod y datganiad yn Adran IX yn dangos y bwriedir cigydda'r anifail i'w fwyta gan bobl.
Pwerau mynediad 20.
- (1) Rhaid i arolygydd, wrth ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos ei awdurdod, gael hawl ar bob adeg resymol, i fynd i unrhyw fangre (ac eithrio unrhyw fangre lle nad oes unrhyw geffyl yno ac a ddefnyddir fel annedd yn unig) at ddibenion gweinyddu a gorfodi'r Rheoliadau hyn; ac yn y rheoliad hwn mae "mangre" yn cynnwys unrhyw gerbyd neu gynhwysydd.
(2) Caiff arolygydd -
(a) gofyn am gael gweld pasbort;
(b) cyflawni unrhyw ymholiadau;
(c) cael gafael ar ac archwilio a chopïo unrhyw gofnod a gedwir (ym mha ffurf bynnag y cedwir hwy) o dan y Rheoliadau hyn;
(ch) symud y cyfryw gofnodion er mwyn gwneud copïau ohonynt;
(d) cael gafael ar, archwilio a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi'i ddefnyddio mewn cysylltiad â'r cofnodion; ac at y diben hwn caiff ofyn i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, i roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y bydd yn rhesymol i'r arolygydd ofyn amdano ac, os cedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ofyn i'r cofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno;
(dd) marcio unrhyw anifail neu beth arall at ddibenion eu hadnabod; ac
(e) mynd â'r personau canlynol gydag ef -
(i) y personau eraill y mae'r arolygydd hwnnw'n barnu eu bod yn angenrheidiol; a
(ii) unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd sydd â buddiant priodol mewn gweinyddu'r Rheoliadau hyn.
(3) Ni chaiff neb ddifwyno, difodi neu ddileu unrhyw farc a roddwyd o dan baragraff (2) ac eithrio o dan awdurdod ysgrifenedig arolygydd.
(4) Os bydd arolygydd yn mynd i unrhyw fangre nad yw wedi'i meddiannu, rhaid i'r arolygydd ei gadael wedi'i diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno gyntaf.
(5) Yn y rheoliad hwn ystyr "arolygydd" yw person a benodwyd at y diben gan awdurdod lleol neu'r Cynulliad Cenedlaethol i orfodi'r Rheoliadau hyn.
(a) rhwystro'n fwriadol unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn;
(b) heb achos rhesymol, fethu â rhoi i unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn, unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw yn rhesymol ofyn amdano neu amdani er mwyn i'r person hwnnw gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;
(c) rhoi i unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn, unrhyw wybodaeth y mae'r person hwnnw sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol; neu
(ch) methu â dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn.
Tramgwyddau 22.
- (1) Tramgwydd yw i unrhyw berson neu gorff fethu â chydymffurfio â'r canlynol -
(a) rheoliad 3(3) (dyroddi dogfen sy'n honni ei bod yn basbort);
(b) rheoliad 6(2) (gwneud cais am fwy nag un pasbort ar gyfer ceffyl);
(c) rheoliad 7 (terfynau amser ar gyfer cael pasbort);
(ch) rheoliad 12(1) (dod â cheffyl i Gymru);
(d) rheoliad 13(1), 13(2) neu 13(3) (llofnodi'r datganiad ynghylch cigydda ceffyl i'w fwyta gan bobl);
(dd) rheoliad 14(1) (addasu pasbort) neu 14(2) (bod â meddiant dogfen yr honnir ei bod yn basbort);
(e) rheoliad 15(1) (gwneud cais am basport yn lle un arall);
(f) rheoliad 16 (cyfyngiadau ar y defnydd o geffyl heb basbort);
(ng) rheoliad 19 (cigydda ceffyl i'w fwyta gan bobl);
(h) rheoliad 21 (rhwystro).
(2) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran -
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu
(b) unrhyw berson a oedd yn cymryd arno ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(3) At ddibenion paragraff (2), ystyr "cyfarwyddwr", mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
(4) Os bydd corff nad yw'n gorff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a phrofir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw swyddog o'r corff hwnnw, bydd y swyddog hwnnw yn ogystal â'r corff yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
Cosbau 23.
- (1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o fethu cydymffurfio â rheoliad 3(3) (dyroddi dogfen sy'n honni ei bod yn basbort), rheoliad 17(2)(c) neu 17(4) (cwblhau pasbort ar ôl rhoi cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol) neu reoliad 19 (cigydda ceffyl i'w fwyta gan bobl) yn atebol -
(a) ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis, neu'r ddau; neu
(b) ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu'r ddau.
(2) Bydd person sy'n euog o unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Gorfodi 24.
- (1) Yr awdurdod lleol fydd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod dyletswydd i orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn i'w chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.
Dirymu 25.
Dirymir Gorchymyn Pasbortau Ceffylau 1997[9] a Gorchymyn Pasbortau Ceffylau (Diwygio) 1998[10] i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11]
Cyfarwyddiadau cyffredinol I.
Rhaid i basbortau gynnwys yr holl gyfarwyddiadau sydd eu hangen er mwyn eu defnyddio a manylion yr awdurdod cymwys a'u dyroddodd.
II.
Gwybodaeth a ddangosir ar basbortau.
A. Rhaid i basportau gynnwys yr wybodaeth ganlynol -
1.
Adran I:
Y perchennog
Rhaid datgan enw'r perchennog neu enw ei asiant.
2.
Adrannau II a III:
Adnabod
Rhaid i'r awdurdod cymwys ddynodi'r ceffyl.
3.
Adran IV:
Cofnodion o wiriadau adnabod
Rhaid i'r awdurdod cymwys gadw cofnod o'r gwiriadau a wnaed o ran adnabod y ceffyl pan fo cyfreithiau a rheoliadau yn gwneud hynny'n ofynnol.
4.
Adrannau V a VI:
Cofnod brechiadau
Rhaid cofnodi pob brechiad yn Adran V (ffliw'r ceffylau yn unig) ac yn Adran VI (pob brechiad arall).
5.
Adran VII:
Profion iechyd mewn labordai
Rhaid cofnodi canlyniadau yr holl brofion a wneir i ganfod clefydau trosglwyddadwy.
6.
Adran IX:
Triniaeth Feddyginiaethol
Rhaid cwblhau Rhan I a Rhan II neu Ran III o'r Adran hon yn briodol yn unol â'r cyfarwyddiadau a geir yn yr Adran hon.
B. Caniateir cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn pasbortau -
Adran VIII:
Gofynion iechyd sylfaenol
Mae Adran VIII yn datgan y gofynion iechyd sylfaenol.
Mae'n rhestru'r clefydau y mae'n rhaid eu nodi ar y dystysgrif iechyd.
SECTION I
Details of ownership
Détails de droit de proprieté
1.
For competitive purposes, the nationality of the horse is that of its owner.
1.
Pour les compétitions, la nationalité du cheval est celle de son propriétaire.
2.
On change of ownership the passport must immediately be lodged with the issuing organisation, association or official agency, giving the name and address of the new owner, for re-registration and forwarding to the new owner.
2.
En cas de changement de propriétaire, le passeport doit être immédiatement déposé auprés de l'organisation, l'association ou le service officiel l'ayant délivré avec le nom et l'adresse du nouveau proprietaire afin de le lui transmettre aprés réenregistrement.
3.
If there is more than one owner or the horse is owned by a company, then the name of the individual responsible for the horse must be entered in the passport together with his nationality. If the owners are of different nationalities, they have to determine the nationality of the horse.
3.
S'il y a plus d'un propriétaire ou si le cheval appartient a une société, le nom de la personne responsable pour le cheval doit être inscrit dans le passeport ainsi que sa nationalité. Si les propriétaires sont de nationalités différentes, ils doivent préciser la nationalité du cheval.
4.
When the Federation equestre internationale approves the leasing of a horse by a national equestrian federation, the details of these transactions must be recorded by the national equestrian federation concerned.
4.
Lorsque la Fédération equestre internationale approuva la location d'un cheval par une Fédération equestre nationale, les détails de ces transactions doivent étre enregistrés par la Fédération equestre nationale interessée.
Date d'enregistrement par l'organisation, l'association ou le service official
Nom du propriétaire
Adresse du propriétaire
Nationalité du propriétaire
Signautre du propriétaire
Cache de l'organisation, association ou service officiel et signature
Date of registration, by the organisation, association or official agency
Name of owner
Address of owner
Nationality of owner
Signature of owner
Organisation, association or official agency stam and signature
SECTION II
(1) No d'identification:
Identification No:
(2) Nom:
Name:
(3) Sexe:
Sex:
(4) Robe:
Colour:
(5) Race:
Breed:
(6) par:
by:
(7a) et:
and:
(7b) par:
by:
(8) Date de naissance:
Date of foaling:
(11) Certificat d'origine valide le par:
Origin certificate validated on by:
(9) Lieu d'élevage:
Place where bred:
- Nom de l'autorité compétente:
Name of the competent authority:
- Adresse:
Address:
- No de téléphone:
Telephone number:
(10) Naisseur(s):
Breeder(s):
- No de télécopie:
Fax number:
- Signature:
(nom en lettres capitales et qualite du signataire
Signature:
(Name in capital letters and capacity of signatory)
(21) Signature et cachet du vétérinaire agréé (ou de l'autorité competente)
Signature and stamp of qualified veterinary surgeon (or competent authority)
(en lettres capitales)
(in capital letters)
SECTION IV
Contrôles d'identité du cheval décrit dans ce passeport
Identification of the horse described in this passport
L'identité du cheval doit être controlée chaque fois que les lois et réglements l'exigent: signer cette page signifie que le signalement du cheval présenté est conforme à celui de la page du signalement.
The identity of the horse must be checked each time this is required by rules and regulations and certified that it conforms with the description given on the diagram page of its passport.
Date
Ville et pays
Motif du contrôle (concours, certificat sanitaire etc)
Signature, nom en capitales et qualité de la personne ayant vérifié l'identité
Town and country
Purpose of control (event, health certificate, etc)
Signature, name (printed) and status of official verifying the identification
SECTION V
Grippe équine seulement
Equine influenza only
Enregistrement des vaccinations
Vaccination record
Toute vaccination subie par le cheval doit être portée dans le cadre ci-dessous de façon lisible et précise avec le nom et la signature du vétérinaire.
Details of every vaccination which the horse undergoes must be entered clearly and in detail, and certified with the name and signature of veterinarian.
Date
Lieu
Pays
Vacin/Vaccine
Nom en capitales et signature du véterinaire
Place
Country
Name (printed) and signature of veterinarian
Nom
Numéro du lot
Name
Batch number
SECTION VI
Maladies autres que la grippe équine
Diseases other than equine Influenza
Enregistrement des vaccinations
Vaccination record
Toute vaccination subie par le cheval doit être portée dans le cadre ci-dessous de façon lisible et précise avec le nom et la signature du vétérinaire.
Details of every vaccination which the horse undergoes must be entered clearly and in detail, and certified with the name and signature of veterinarian.
Date
Lieu
Pays
Vacin/Vaccine
Nom en capitales et signature du véterinaire
Place
Country
Name (printed) and signature of veterinarian
Nom
Numéro du lot
Maladie(s)
Name
Batch number
Disease(s)
SECTION VII
Contrôles sanitaires effectués par des laboratoires
Laboratory health test
Le résultat de tout contrôle effectué par un vétérinaire pour une maladie transmissible ou par un laboratoire agrée par le service vétérinaire gouvernmental du pays doit être noté clairement et en détails par le vétérinaire qui représente l'autorité demandant le contrôle.
The result of every test carried out for a transmissible disease by a veterinarian or a laboratory authorised by the government veterinary service of the country must be entered clearly and in detail by the veterinarian acting on behalf of the authority requesting the test.
Date
Maladie transmissibles concernées
Nature de l'examen
Résultat de l'examen
Laboratoire officiel d'analyse du prélèvement
Nom en capitales et signature du vétérinaire
Transmissible disease tested for
Type of Test
Result of test
Official laboratory to which sample is sent
Name (printed) and signature of veterinarian
SECTION VIII
Exigences sanitaires de base
Les exigences ne sont pas valables pour l'introduction dans la Communauté
Basic health requirements
These requirements are not valid to enter the Community
Je soussigné [12] certifie que l'équidé décrit dans le passeport No . . . . . . . . . . . délivré par . . . . . . . . . . . satisfait aux conditions suivantes:
I, the undersigned [13], hereby certify that the equid described in passport No . . . . . . . . . . . issued by . . . . . . . . . . . satisfies the following conditions:
(a) il a été examiné ce jour, ne présente aucun signe clinique de maladie et est apte au transport; it has been examined this day, presents no clinical sign of disease and is fit for transport;
(b) il n'est pas destiné à l'abattage dans le cadre d'un programme national d'éradication d'une maladie transmissible; it is not intended for slaughter under a national eradication programme for a transmissible disease;
(c) il ne provient pas d'une exploitation faisant l'objet de mesures de restriction pour des motifs de police sanitaire et n'a pas été en contact avec des equides d'une telle exploitation; it does not come from a holding subject to restrictions for animal health reasons and has not been in contact with equidae on such a holding;
(d) à ma connaissance, il n'a pas été en contact avec des équidés atteints d'une maladie transmissible au cours des 15 jours précédant l'embarquement. To the best of my knowledge, it has not been in contact with equidae affected by a transmissible disease during the 15 days prior to loading.
LA PRéSENTE CERTIFICATION EST VALABLE 10 JOURS À COMPTER DE LA DATE DE SA SIGNATURE PAR LE VéTéRINAIRE OFFICIEL.
THIS CERTIFICATION IS VALID FOR 10 DAYS FROM THE DATE OF SIGNATURE BY THE OFFICIAL VETERINARIAN.
Date
Lieu
Pour des raisons épidémiologiques partulières, un certificat sanitaire separé accompagne le présent passeport
Nom en capitales et signature du vétérinaire officiel
Date
Place
For particular epidemiological reasons, a separate health certificate accompanies this passport
Name in block letters and signature of official veterinarian
Oui/non (barrer la mention inutile)
Yes/no (delete as appropriate)
Oui/non (barrer la mention inutile)
Yes/no (delete as appropriate)
Oui/non (barrer la mention inutile)
Yes/no (delete as appropriate)
Oui/non (barrer la mention inutile)
Yes/no (delete as appropriate)
Oui/non (barrer la mention inutile)
Yes/no (delete as appropriate)
Oui/non (barrer la mention inutile)
Yes/no (delete as appropriate)
Maladies dont l'inclusion dans le certificat zoosanitaire joint au passeport doit être envisageé
Diseases for which an endorsement must be made on the health certificate attached to the passport
Date and place of issue of this section: . . . . . . . . . . .
Competent authority issuing this section of the identification document: . . . . . . . . . . .
Part II (excludes the animal definitively from slaughter for human consumption, must be reconfirmed when the animal changes ownership)
I, the undersigned owner (2)/ representative of the owner (2) declare that the animal described in this identification document is not intended for slaughter for human consumption(3)
Date and Place
Name in capitals and signature of the owner of the animal or his/her representative
Name in capitals and signature of representative of competent authorities
Part III - A (only valid in connection with information in Part III - B)
I, the undersigned owner (2) / representative of the owner (2) declare that the animal described in this identification document is intended for slaughter for human consumption(4)
Date and Place
Name in capitals and signature of the owner of the animal or his/her representative
Name in capitals and signature of representative of competent authorities
Part III - B (information compulsory for equidae identified in accordance with Part III - A)
Date of last treatment with a medicinal product containing substances not included in Annex I, II, III or IV of Regulation (EEC) No 2377/90
[dd/mm/yyyy]
Place
- Country Code
- Postcode
- Place
Substance(s) incorporated in the medicinal product which is/are not included in Annex I, II, III or IV of Regulation (EEC) No 2377/90 (5)(6)
Name: . . . . . (7)
Address: . . . . . (7)
Postcode: . . . . . (7)
Place: . . . . . (7)
Tel: . . . . . (8)
Signature
(1) Identification number as indicated in Section II (1) of the identification document.
(2) Delete what is not applicable.
(3) The animal may be treated with medicinal products containing substances listed in Annex I, II, III or IV to Regulation (EEC) No 2377/90 and other substances. Recording of medicinal treatment in Part III - B is optional. The animal shall never be slaughtered for human consumption.
(4) The animal may be treated with medicinal products containing substances listed in Annex I, II or III to Regulation (EEC) No 2377/90 and other substances excluding those listed in Annex IV to that Regulation. The animal can only be slaughtered for human consumption after the completion of the general withdrawal period of six months following the date of the last treatment, certified obligatory in Part III - B, with medicinal products containing substances other than those listed in Annex I, II or III to Regulation (EEC) No 2377/90.
(5) Verify through published Annexes to Regulation (EEC) No 2377/90.
(6) This information is optional. However, this information may allow the reduction of the withdrawal period, if the specified substance is included in Annex I, II or III to Regulation (EEC) No 2377/90 after it was administered. The minimum withdrawal times would then be those established in Article 4(4) or Directive 81/851/EEC.
(7) Name, address, postcode and place in printed letters.
(8) Telephone number including country code and regional code.
(9) Not required where this Section is issued together with the identification document.
Mae'r rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 90/426/EC (OJ Rhif L224, 18/8/1990, t. 42), Cyfarwyddeb y Cyngor 90/427/EEC (OJ Rhif L224, 18/8/1990, t. 55) a Phenderfyniadau'r Comisiwn 92/353/EEC (OJ Rhif L192, 11/07/1992, t. 63), 93/623/EEC (OJ Rhif L298, 3/12/93, t. 45) a 2000/68/EC (OJ Rhif L23, 28.1.2000, t.72). Maent yn dirymu a disodli Gorchymyn Pasbortau Ceffylau 1997 a Gorchymyn Pasbortau Ceffylau (Diwygio) 1998 i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru.
Mae'r Rheoliadau'n pennu pa gyrff a awdurdodir i ddyroddi pasbortau a rhoi pwerau a dyletswyddau iddynt (rheoliadau 3 i 5), yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwneud cais am basbortau a'u dyroddi (rheoliadau 6 i 11 a'r Atodlen) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceffylau sy'n dod i Gymru (rheoliad 12).
Maent yn gwneud gofynion ynghylch y datganiad sydd i'w wneud ar y pasbort mewn perthynas â chigydda ceffylau i'w bwyta gan bobl (rheoliad 13).
Maent yn gwahardd difwyno pasbortau, yn ei gwneud yn dramgwydd i feddu pasbort ffug a yn gwneud darpariaeth i gael pasbortau yn lle'r rhai a gollwyd (rheoliadau 14 a 15).
Rhaid i'r pasbortau fod gyda'r ceffylau pan ddefnyddir hwy at ddibenion penodol (rheoliad 16).
Maent yn gosod dyletswyddau ar lawfeddygon milfeddygol i farcio'r pasbort pan fyddant yn rhoi meddyginiaethau milfeddygol (rheoliad 17).
Maent yn gwneud darpariaeth ynghylch gwerthu ceffyl (rheoliad 18) ac ynghylch cigydda ceffyl (rheoliad 19).
Maent yn cynnwys darpariaethau penodol ynghylch pwerau mynediad a rhwystro (rheoliadau 20 a 21).
O dan reoliadau 22 a 23, mae torri'r Rheoliadau yn dramgwydd y gellir ei gosbi -
(a) ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis, neu'r ddau, a
(b) ar gollfarn ar dditiad i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd neu ddirwy neu'r ddau.
Gorfodir hwy gan yr awdurdod lleol (rheoliad 24).
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac mae ar gael oddi wrth yr Is-adran Iechyd Anifeiliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.