Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005, ISBN 0110910621. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2] ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3] ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005, maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig a deuant i rym ar 28 Chwefror 2005. Diwygiadau i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998 2. Diwygir Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998[4] i'r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru, yn unol â rheoliadau 3 i 6. 3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli) -
(b) ar ddiwedd y diffiniad o "the Directive" ychwaneger y geiriau "as amended by Commission Directive 2004/1/EC"[6].
4.
Yn y darpariaethau canlynol, rhodder y ffigur "2006" yn lle'r ffigur "2005" -
(b) rheoliad 5(1)(b)(i); (c) rheoliad 8A(1); (ch) yn adran A o Ran I o Atodlen 1, yn eitem 40 yng ngholofn 4 (cyfyngiadau a manylebau).
5.
Yn Rhan 1 o Atodlen 2, yn eitem 27A yng ngholofn 4 (cyfyngiadau a manylebau), ar ôl y geiriau "For use only as a blowing agent" ychwaneger y geiriau "Use prohibited as from 2 August 2005".
(b) the date of filling (or subject to paragraph (24) of this regulation a coded indication of the date of filling) of the material or article concerned appeared on the adhesive, material or article at the time of sale; and (c) the labelling or marking with the particulars mentioned in subparagraph (b) at the time of sale complied with the requirements as regards labelling relating to durability contained in Article 2.1(a) of Directive 2000/13/EC of the European Parliament and of the Council.";
(b) hepgorer paragraff (20);
(b) the date of filling (or subject to paragraph (24) of this regulation a coded indication of the date of filling) of the material or article concerned appeared on the plastic material or article at the time of sale, and (c) the labelling or marking with the particulars mentioned in subparagraph (b) at the time of sale complied with the requirements as regards labelling relating to durability contained in Article 2.1(a) of Directive 2000/13/EC of the European Parliament and the Council.
(24) For the purposes of paragraph (19)(b) and paragraph (23)(b) of this regulation the date signified by a coded indication shall have been made available on request to the Food Standards Agency and the enforcement authority.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig, ac maent yn diwygio ymhellach Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998 (O.S.1998/1376, "Rheoliadau 1998"), sy'n rhychwantu'r cyfan o Brydain Fawr. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/13/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/16/EC sy'n ymwneud â defnyddio deilliannau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L51, 22.2.2002, t.27) a hefyd yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/1/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC mewn perthynas â defnyddio asodicarbonamid fel cyfrwng chwythu (OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18). 2. Mae'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 1998 drwy -
(b) gwahardd defnyddio cyfrwng chwythu asodicarbonamid o 2 Awst 2005 ymlaen (rheoliad 5); (c) diwygio'r amddiffyniad sydd ar gael o dan reoliad 10 paragraff (19) o Reoliadau 1998 i ganiatáu ar gyfer defnyddio cod dyddiad fel dewis amgen i'r dyddiad llenwi sy'n ymddangos ar ddeunyddiau ac eitemau a orchuddiwyd â haenau arwyneb, a bod yr amddiffyniad hwnnw yn amodol ar i ystyr y cod fod wedi cael ei ddatgelu i'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdod gorfodi pan ofynnwyd amdano (rheoliad 6(a)); (ch) creu amddiffyniad sy'n ymwneud ag asodicarbonamid yn debyg i'r un sy'n gymwys i ddeunyddiau ac eitemau a orchuddiwyd â haenau arwyneb (rheoliad 6(c)).
3.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/13/EC yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p. 16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau "yr Ysgrifennydd Gwladol" i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999.back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back [4] O.S. 1998/1376, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1263 (Cy.70), O.S. 2002/2834 (Cy. 272) ac O.S. 2003/302 (Cy.44).back [5] OJ Rhif L27, 30.1.2004, t.46.back [6] OJ Rhif L7, 13.1.2004, t.45.back
ISBN 0 11 091062 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 8 February 2005 |