Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2005, ISBN 011091063X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 24 a 113 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 2 Chwefror 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
Diwygiadau i Reoliadau 1993
(3) Yn rheoliad 5 -
(ii) yn lle "the list" rhodder "that list"; ac
(c) ar ôl paragraff (3), mewnosoder -
(4) Yn rheoliad 15(1), yn lle "section 22(8) or section 22A(10)", rhodder "section 22(8), section 22A(10) or section 22B(10)". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) 1993 ("Rheoliadau 1993"). Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 24 (Newid rhestrau) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992"). Mae adran 24 o Ddeddf 1992 yn caniatáu i'r Cynulliad wneud rheoliadau ynghylch newid rhestrau prisio a luniwyd o dan Bennod II (Rhestrau Prisio) o Ran I o Ddeddf 1992 a hynny gan swyddogion rhestru. Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau 1993. Yn benodol, mae rheoliad 3(2) yn diwygio'r diffiniad o "list" yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 1993, fel bod "list" at ddibenion y Rheoliadau hynny (heblaw mewn perthynas â rheoliad 5(1A), (3) a (3A)) yn golygu rhestr brisio a luniwyd o dan adran 22, adran 22A neu adran 22B o Ddeddf 1992. Mewnosodwyd adran 22B (Llunio a chynnal rhestrau newydd) yn Neddf 1992 gan adran 77 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae adran 22B yn ei gwneud yn ofynnol i'r swyddog rhestru dros awdurdod bilio i lunio a chynnal rhestrau prisio newydd ar gyfer yr awdurdod. Daw rhestrau a luniwyd o dan adran 22B o Ddeddf 1992 i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae rheoliad 3(3) yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 1993. Mae rheoliad 3(3)(a) yn mewnosod rheoliad 5(1A) newydd yn Rheoliadau 1993, a'i heffaith fydd, yn ddarostyngedig i bedair eithriad, na chaniateir gwneud cynnig i newid rhestr brisio a luniwyd o dan adran 22 neu adran 22A o Ddeddf 1992 yn ddiweddarach na 31 Rhagfyr 2005. Mae rheoliad 3(3)(b) yn diwygio rheoliad 5(3) o Reoliadau 1993 fel y bydd yn ymwneud yn unig â rhestrau prisio a luniwyd o dan adran 22 neu adran 22A o Ddeddf 1992. Mae rheoliad 3(3)(c) yn mewnosod rheoliad 5(3A) newydd yn Rheoliadau 1993. Mae rheoliad 5(3A) yn darparu, yn ddarostyngedig i reoliadau 5(4) ac 8(3)(a) o Reoliadau 1993, os bydd, o ran annedd a ddangosir mewn rhestr brisio adran 22B ar y diwrnod pan lunir y rhestr honno, awdurdod bilio neu berson â buddiant o'r farn bod y rhestr yn anghywir oherwydd bod y swyddog rhestru wedi dyfarnu band prisio anghywir, rhaid gwneud unrhyw gynnig i newid y rhestr o ran y mater hwnnw ddim diweddarach na 30 Medi 2006. Mae rheoliad 3(4) yn mewnosod cyfeiriad at adran 22B(10) o Ddeddf 1992 yn rheoliad 15(1) o Reoliadau 1993. Mae adran 22B(10) o Ddeddf 1992 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod bilio i adneuo copi o'r rhestr brisio a dderbynnir ganddo o dan adran 22B(9) o'r Ddeddf honno yn ei brif swyddfa. Mae rheoliad 15(1) yn ymwneud â'r terfyn amser o fewn pa bryd y mae swyddog rhestru (ar ôl iddo newid rhestr brisio) i gyflwyno hysbysiad i'r awdurdod bilio yn datgan effaith y newid hwnnw. Mae rheoliad 15(1) yn gorfodi'r awdurdod hwnnw i newid y copi o'r rhestr brisio a adneuwyd yn ei brif swyddfa. Notes: [1] 1992 p.14.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1993/290 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1994/1746, O.S. 1995/363, O.S. 1996/613, O.S. 1996/619, O.S. 2000/409 ac O.S. 2001/1439.back
ISBN 0 11 091063 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 10 February 2005 |