Rheoliadau Gofal Dydd (Eu Cymhwyso i Ysgolion) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gofal Dydd (Eu Cymhwyso i Ysgolion) (Cymru) 2005, ISBN 0110910613. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 104 o Ddeddf Plant 1989[1], a pharagraff 1(1) o Atodlen 9A iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Dydd (Eu Cymhwyso i Ysgolion) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Ionawr 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
Y rheidrwydd i gofrestru gofal dydd mewn ysgolion o dan Ran XA
(b) os gwneir cais felly cyn 1 Ebrill 2005, hyd nes y diwrnod y caiff y ceisydd ei hysbysu o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag ef; (c) os gwneir cais felly cyn 1 Ebrill 2005, ac os penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag ef oedd ei wrthod neu ei ganiatáu yn amodol, a'r amodau hynny'n rhai nad ydynt oll wedi eu cytuno'n ysgrifenedig rhwng y ceisydd a'r Cynulliad Cenedlaethol, hyd nes diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau o'r dyddiad yr hysbyswyd yr ymgeisydd o'r penderfyniad hwnnw; (ch) os bydd y ceisydd sydd am gofrestru yn apelio yn erbyn penderfyniad y mae is-baragraff (c) yn gymwys iddo, dyddiad gollwng yr apêl neu, os na chaiff ei ollwng, y dyddiad y caiff yr apelydd ei hysbysu o'r penderfyniad mewn perthynas ag ef;
pa ddyddiad bynnag sydd ddiweddaraf. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'n rhaid i bob person sy'n rhoi gofal dydd i blant sy'n iau nag wyth mlwydd oed gofrestru o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989. Effaith y Rheoliadau hyn fydd ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a oedd gynt yn esempt o'r rheidrwydd cofrestru hwn i wneud felly os prif bwrpas y gofal dydd yw gofalu am blant, a hynny ag eithrio wrth roi addysg iddynt. Rhaid i ysgolion sydd yn rhoi gofal dydd am y tro cyntaf ar 31 Ionawr 2005 neu ar ôl hynny fod wedi'u cofrestru'n ddarparwyr gofal dydd cyn iddynt agor ar gyfer busnes. O ran ysgolion a oedd yn darparu gofal dydd cyn 31 Ionawr 2005 ac a fydd yn parhau i wneud hynny ar ôl y dyddiad hwnnw, mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaethau trosiannol. O dan y darpariaethau trosiannol hyn, caiff ysgolion felly barhau i ddarparu gofal o'r fath hyd at 1 Ebrill 2005 ac, os ydynt yn gwneud cais i gofrestru cyn y dyddiad hwnnw, cânt barhau i wneud hynny ar ôl y dyddiad hwnnw hyd nes y bydd y cais wedi ei benderfynu, neu, os gwneir apêl yn erbyn y penderfyniad, hyd nes y bydd yr apêl wedi ei benderfynu neu wedi ei ollwng. Bydd ysgolion sy'n methu â gwneud cais o'r fath cyn 1 Ebrill 2005 yn cyflawni tramgwydd o dan adran 79D(5) o'r Ddeddf os byddant yn parhau i ddarparu gofal dydd ar ôl y dyddiad hwnnw. Notes: [1] 1989 p.41. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd cynnwys y Ddeddf yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (gweler erthygl 2(a) o Orchymyn 1999 ac adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)). Mewnosodwyd Atodlen 9A i'r Ddeddf gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p. 14), adran 79 ac Atodlen 3.back
ISBN 0 11 091061 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 2 February 2005 |