Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 1) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 1) 2005, ISBN 0110910575. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 73 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 1) 2005. (2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. (3) Mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf ac Atodlenni iddi. Darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Ionawr 2005 2. - (1) Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Ionawr 2005. (2) Daw'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod i rym at y dibenion a bennir yn ail golofn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 18 Ionawr 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi grym i ddapariaethau amrywiol Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 ("y Ddeddf") yng Nghymru a Lloegr. Mae cyfeiriadau at adrannau neu Atodlenni (oni nodir fel arall) yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf neu'r Atodlenni iddi. Daw darpariaethau'r Ddeddf a restrir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Ionawr 2005. Oni phennir fel arall yn ail golofn yr Atodlen, daw'r darpariaethau hynny i rym ar y dyddiad hwnnw at bob diben. Effaith y darpariaethau fydd fel a ganlyn. Mae adran 12 yn diffinio'r term "corff llywodraeth leol yng Nghymru" at ddibenion y Ddeddf. Mae hefyd yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad") bŵer i newid y rhestr o gyrff y'u diffinnir fel cyrff llywodraeth leol yng Nghymru. Mae adran 16 yn rhoi pŵer i Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddyroddi côd arferion archwilio sy'n rhagnodi'r ffordd y mae archwilwyr i gyflawni eu swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 2 o'r Ddeddf. Mae is-adrannau (1)-(3) o adran 20 yn rhoi pŵer i Archwilydd Cyffredinol Cymru i ragnodi graddfa neu raddfeydd o ffioedd sy'n daladwy am archwilio cyfrifon cyrff llywodraeth leol yng Nghymru o dan y Ddeddf. Dygir y darpariaethau hyn i rym mewn perthynas yn unig â ffioedd sy'n daladwy am archwilio cyfrifon a baratowyd mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005, sef y dyddiad y bwriedir dwyn gweddill darpariaethau'r Ddeddf i effaith. Mae is-adrannau (1), (2) a (5) o adran 21 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad i ddisodli'r raddfa neu'r graddfeydd a osodir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru gan ei raddfa neu ei raddfedydd ei hun, os yw o'r farn bod hynny'n angenrheidiol neu'n ddymunol. Mae Adran 39 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad i wneud rheoliadau sy'n rheoli cadw cyfrifon gan gyrff llywodraeth leol yng Nghymru, eu ffurf, a'u hardystio etc, ac yn rheoli arfer hawliau gan aelodau o'r cyhoedd o dan adrannau 29 - 31 o'r Ddeddf i gael mynediad i ddogfennau, ac i godi cwestiynnau a gwrthwynebiadau. Dygir y ddarpariaeth i rym yn unig er mwyn galluogi i reoliadau gael eu gwneud i reoli cyfrifon a datganiadau o gyfrifon a baratoir mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005. Mae adran 50 yn darparu bod Atodlen 1 yn effeithiol. Dygir hi i rym gan y Gorchymyn hwn ond yn unig at ddibenion dwyn i effaith ran o baragraff 7 o Atodlen 1, sy'n darparu ar gyfer adran 8A newydd i'w mewnosod ar ôl adran 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 ("Deddf 1999"). Mae'r adran 8A newydd o Ddeddf 1999 yn rhoi pŵer i Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddyroddi côd ymarfer sy'n rhagnodi'r ffordd y mae archwilwyr a benodwyd ganddo yn cyflawni eu swyddogaethau o dan adran 7 o Ddeddf 1999. Mae hefyd yn rhoi pŵer i Archwilydd Cyffredinol Cymru i ragnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd mewn perthynas ag archwilio cynlluniau perfformiad, gan archwilwyr a benodwyd ganddo, o dan Ran 1 o Ddeddf 1999. Yn rhinwedd yr adran 8A(4) newydd o Ddeddf 1999, mae gan y Cynulliad y pŵer i ragnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd amgen. Mae is-adrannau (6) i (8) o adran 54 yn rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol i ddiddymu neu ddiwygio darpariaethau blaenorol adran 54, drwy orchymyn a wnaed gan offeryn statudol. Mae adran 58 yn cynnwys darpariaethau o ran ffurf a chynnwys gorchmynion a rheoliadau y caiff y Cynulliad eu gwneud o dan Ran 2 o'r Ddeddf, ac o ran cynnwys gorchmynion neu reoliadau y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol eu gwneud o dan y Rhan honno. Mae adran 59 yn gosod y dehongliad o'r termau amrywiol at ddibenion Rhan 2 o'r Ddeddf. Mae adran 68 yn darparu ar gyfer gwneud cynlluniau trosglwyddo i drosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac yn gwneud Atodlen 3 yn effeithiol, sy'n gwneud darpariaeth bellach am y cynlluniau trosglwyddo hynny. Notes: [1] 2004 p. 23.back
ISBN 0 11 091057 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 25 January 2005 |