Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2005, ISBN 0110910567. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 4(1), (2) a (3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 21 Ionawr 2005. Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 2. Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000[3] fel a ganlyn. 3. Yn Atodlen 1 -
(b) y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan baragraff 4 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003[4]; a (c) y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn rhinwedd rheoliad 18(2)[5] o Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003."; a
(b) hepgorer paragraff 14(d) a'r "a" o'i flaen.
4.
Yn Atodlen 2 -
(b) y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan baragraff 4 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003; a (c) y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn rhinwedd rheoliad 18(2) o Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003."; a
(b) hepgorer paragraff 6(d) ar "a" o'i flaen.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau ) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 ("Rheoliadau 2000") mewn perthynas â materion penodol sydd i'w cofnodi ar y gofrestr a gedwir gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ("y Cyngor"). Mae'r gofrestr i ddangos y dyddiad y cyflogwyd person am y tro cyntaf fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn unol â darpariaethau Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003, fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004 ("y Rheoliadau Ymsefydlu"). Bydd hyn yn galluogi'r Cyngor i fonitro a ganiateir i berson barhau dan gyflogaeth fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan y Rheoliadau Ymsefydlu. Mae'r Rheoliadau Ymsefydlu yn gosod terfynau ar y cyfnodau pan geir cyflogi person, sydd heb wasanaethu cyfnod ymsefydlu, yn athro cyflenwi neu'n athrawes gyflenwi. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Atodlenni 1 a 2 i Reoliadau 2000 fel nad oes angen mwyach i'r Cyngor gofnodi ar y gofrestr y dyddiad pryd y dechreuodd cwrs hyfforddi cychwynnol athrawon ar gyfer athro neu athrawes a phryd y cwblhawyd y cwrs. Notes: [1] 1998 p.30. Mae adrannau 2 i 7 yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adran 9. Diwygir adran 4 yn rhagolygol gan baragraff 4(2) o Atodlen 12 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32), a diwygiwyd hi gan baragraff 77 o Atodlen 21 i'r Ddeddf honno. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 43(1).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.back [3] O.S. 2000/1979 (Cy.140), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2496 (Cy.200) ac O.S. 2004/1741 (Cy. 180).back [4] O.S. 2003/543 (Cy. 77). Amnewidiwyd paragraff 4 o Atodlen 1 gan O.S. 2004/872 (Cy.87).back [5] Mewnosodwyd Rheoliad 18(2) gan O.S. 2004/872 (Cy. 87).back
ISBN 0 11 091056 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 25 January 2005 |