Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2005, ISBN 0110910559. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (4) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod o'r farn y caiff Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, a chan gofio am ei amcanion cyffredinol, gyflawni yn briodol y swyddogaethau ychwanegol a roddir iddo drwy hyn ac ar ôl ymgynghori fel y mae'n ymddangos iddo ei fod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2005 a daw i rym ar 21 Ionawr 2005. Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2002 2. Diwygir Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000[3] fel a ganlyn. 3. Yn erthygl 2 -
(b) yn lle'r diffiniad o "athro neu athrawes gymwysedig" rhodder y diffiniad canlynol -
4.
Yn Rhan II o'r Atodlen -
(b) y dyddiad pryd y cyflogwyd y person am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan baragraff 4 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003[5]; a (c) y dyddiad pryd y cyflogwyd y person am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn rhinwedd rheoliad 18(2)[6] o Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003.";
(b) hepgorer paragraff 14(d) a'r "a" o'i flaen;
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000 ("Gorchymyn 2000"). Mae'r Gorchymyn hwnnw'n ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ("y Cyngor") gynnal cofnodion sy'n ymwneud â chategorïau o bersonau a bennir. Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gynnwys yn y cofnodion y dyddiad y cyflogwyd person am y tro cyntaf fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn unol â darpariaethau Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003, fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004. Bydd hyn yn galluogi'r Cyngor i fonitro a ganiateir i berson barhau dan gyflogaeth fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan y Rheoliadau hynny. Mae'r Rheoliadau hynny yn gosod terfynau ar y cyfnodau pan geir cyflogi person, sydd heb wasanaethu cyfnod ymsefydlu, yn athro cyflenwi neu'n athrawes gyflenwi. Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau eraill i Orchymyn 2000. Mae'n cyfyngu manylion academaidd a chymwysterau proffesiynol person a gaiff eu cynnwys yn y cofnodion i gymwysterau sy'n berthnasol i gyflogaeth fel athro neu athrawes. Mae hefyd yn gwneud diwygiadau yn sgil Deddf Addysg 2002, ac yn disodli'r cyfeiriadau yng Ngorchymyn 2000 at Ddeddf Diwygio Addysg 1988 gan gyfeiriadau at Ddeddf 2002. Notes: [1] 1998 p.30. Mae'r darpariaethau perthnasol yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o'r Ddeddf a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 2000/1941 (Cy.139) a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2497 (Cy.201).back [4] 2002 p.32. Gweler Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) 2004, O.S. 2004/1729 (Cy. 173).back [5] O.S. 2003/543 (Cy.77). Amnewidiwyd paragraff 4 o Atodlen 1 gan O.S. 2004/872 (Cy.87).back [6] Mewnosodwyd rheoliad 18(2) gan O.S. 2004/872 (Cy.87).back [7] Gweler Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004, 2004/1744 (Cy. 183).back
ISBN 0 11 091055 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 25 January 2005 |