Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005, ISBN 0110910605. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 15 Ionawr 2005 ac maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at un o offerynnau'r Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn.
(b) os yw o leiaf 6 metr (ond yn llai na 10 metr) ei led; (c) os yw o leiaf 0.05 hectar o ran maint; ac (ch) os yw'n ffinio -
(ii) â choetir; (iii) â chwrs dŵr; neu (iv) â darn o dir yr hysbyswyd o dan adran 28(1)(b) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981[8] ei fod yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Safonau ychwanegol cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da mewn perthynas â neilltir
(b) sy'n cael ei gyfrif yn neilltir at ddibenion Erthygl 54 o Reoliad y Cyngor,
i'r graddau y mae gofynion Atodlen 1 neu 2 yn anghydnaws â'r gofynion amgylcheddol neu'r gofynion coedwigo a bennwyd yn unol â'r Erthyglau hynny.
(b) er diogelu'r amgylchedd; (c) os sefydliad addysgol yw'r ffermwr, er mwyn ei gwneud yn hwylus iddo gyflawni ei bwrpas addysgol; (ch) am fod un o'r canlynol yn digwydd yn ystod y cyfnod neilltuo -
(ii) bod gwaith cynnal a chadw'r biblinell, y cebl neu'r peilon yn cael ei wneud neu y bydd yn cael ei wneud o dan awdurdod statudol ar y neilltir penodol; neu (iii) bod gwaith cloddio archeolegol yn cael ei wneud, neu y bydd yn cael ei wneud, ar y tir;
(d) er iechyd neu ddiogelwch pobl neu anifeiliaid;
(6) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu bod unrhyw esemptiad a roddir yn unol â pharagraff (5) yn effeithiol tan ddyddiad a bennir yn yr esemptiad, neu hyd nes bod achlysur penodol, a bennir yn yr esemptiad, wedi digwydd.
(b) pan fo'r cais wedi'i wneud ar sail is-baragraff (c) paragraff cyntaf Erthygl 33 o Reoliad y Comisiwn 795/2004, ynglyn â'r rhesymau a roddwyd ganddo dros ddymuno cyfnewid tir anghymwys am dir cymwys ar ei ddaliad; ac (c) ynglyn â'r canlynol -
(ii) os na fwriedir cyfnewid unrhyw dir, ni fydd cymeradwyo'r cais yn arwain at gynnydd sylweddol yn arwynebedd cyfan y tir sy'n gymwys at ddibenion hawliau neilltir.
(5) Pan fo cymeradwyaeth wedi'i rhoi o dan baragraff (4) ond bod unrhyw ddatganiad a oedd wedi'i gynnwys gan y ffermwr yn y cais, neu unrhyw wybodaeth a oedd wedi'i rhoi mewn cysylltiad â'r cais, yn anwir mewn unrhyw fanylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddirymu'r gymeradwyaeth honno.
Cadw cofnodion a dal gafael arnynt gan gasglwr a chan brosesydd
(b) seithfed pen-blwydd dyddiad eu creu.
(4) Ar unrhyw ddydd y mae prosesydd yn prynu, prosesu, dinistrio, gwerthu neu fel arall yn gwaredu unrhyw gynhyrchion a geir drwy brosesu deunyddiau crai o'r fath, rhaid iddo wneud cofnod sy'n dangos -
(b) maint y deunyddiau crai a broseswyd ganddo ynghyd â maint a math y cynhyrchion terfynol, y cydgynhyrchion a'r sgil-gynhyrchion a gafwyd o'r prosesu; (c) maint y deunyddiau crai a gollwyd yn ystod y prosesu; (ch) maint y deunyddiau crai a ddinistriwyd, os o gwbl, ynghyd â'r rheswm dros eu dinistrio; (d) maint a math y cynhyrchion a werthwyd neu a waredwyd fel arall ganddo a'r pris a gafwyd amdanynt; ac (dd) enwau a chyfeiriadau unrhyw brynwyr neu broseswyr dilynol y mae'n gwerthu iddynt y deunyddiau crai hynny neu'r cynhyrchion hynny a gafwyd drwy'r prosesu.
(5) Rhaid i brosesydd ddal ei afael ar y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) am ddwy flynedd o'r naill neu'r llall o'r dyddiadau canlynol -
(b) pan fo'r cofnodion yn ymwneud â gwerthu neu waredu fel arall gynhyrchion a gafwyd drwy brosesu'r deunyddiau crai hynny, y dyddiad y cafodd y cynhyrchion hynny eu gwerthu neu eu gwaredu fel arall, yn ôl y digwydd.
Opsiynau rheoli ar gyfer tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu 1. - (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4), ar gyfer pob cae neu ran o gae sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu mewn blwyddyn galendr benodol, rhaid i ffermwr, yn ystod y flwyddyn honno, gydymffurfio â'r amodau sy'n gymwys i un o'r opsiynau rheoli canlynol (fel y'u nodir ym mharagraffau 2, 3 a 4 yn ôl eu trefn) -
(b) opsiwn yr aildyfiant naturiol; neu (c) yr opsiwn gorchudd adar gwyllt.
(2) Yn 2005, ar gyfer pob rhan o gae y mae rheoliad 3 yn gymwys iddo ac sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu yn y flwyddyn honno, caiff ffermwr gydymffurfio â'r amodau sy'n gymwys i opsiwn y lleiniau o dan 10 metr (fel y'i nodir ym mharagraff 5).
(b) wedi sicrhau cydsyniad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol i'r cynllun,
rhaid i'r ffermwr reoli'r tir yn unol â'r cynllun rheoli hwnnw yn lle cydymffurfio â'r amodau a nodir ym mharagraffau canlynol yr Atodlen hon a fyddai fel arall yn gymwys.
(b) nad yw'n gymysgedd o un math o gnwd a hadau codlysiau yn unig, cymysgedd o rawnfwydydd a hadau codlysiau yn unig, nac yn gymysgedd o rawnfwydydd a hadau codlysiau yn unig, nac yn gymysgedd o gnydau bresych a hadau codlysiau yn unig; ac (c) na fyddai'n ymarferol cynaeafu'r cnydau ohonynt ar wahân;
(b) cymysgedd o hadau porfa a hadau planhigion llydanddail brodorol nad ydynt yn cael eu defnyddio'n gyffredin ar gyfer cynhyrchiant amaethyddol (pan nad yw'r cymysgedd hwnnw yn cynnwys mwy na 50 y cant yn ôl pwysau o hadau codlysiau); (c) hadau mwstard; neu (ch) hadau phacelia; ac
(6) Ym mharagraffau 2(1)(b), 3(1)(b), 4(1)(c) a 5(1)(b), ystyr "y cyfnod perthnasol" ("the relevant period") mewn perthynas â chae neu ran o gae (yn ôl y digwydd) sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu -
(b) pan fo'r ffermwr yn bwriadu neilltuo'r cae neu ran o gae (yn ôl y digwydd) oddi wrth waith cynhyrchu yn y flwyddyn ganlynol (ond nad yw'n bwriadu ei neilltuo at ddiben di-fwyd), yw'r cyfnod neilltuo cyfredol.
Opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau
(b) yn ddarostyngedig i baragraffau 8, 12 a 13, cynnal a chadw'r gorchudd glas ar ôl hynny tan ddiwedd y cyfnod perthnasol; ac (c) torri neu ddifa'r gorchudd glas yn unol â pharagraff 6.
(2) Nid yw'r gofyniad i sefydlu gorchudd glas yn unol â pharagraff (1)(a) yn gymwys -
(ii) pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol; a
(b) yn 2006 ac ym mhob blwyddyn ar ôl hynny -
(ii) pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol yn y flwyddyn o dan sylw.
Opsiwn yr aildyfiant naturiol
(b) yn ddarostyngedig i baragraffau 8, 12 a 13, cynnal a chadw'r gorchudd glas ar ôl hynny tan ddiwedd y cyfnod perthnasol; ac (c) torri neu ddifa'r gorchudd glas yn unol â pharagraff 6.
(2) Nid yw'r gofyniad i sefydlu gorchudd glas yn unol â pharagraff (1)(a) yn gymwys -
(ii) pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol; a
(b) yn 2006 ac ym mhob blwyddyn ar ôl hynny -
(ii) pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol yn y flwyddyn o dan sylw.
Opsiwn y gorchudd adar gwyllt
(ii) sefydlu gorchudd glas erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol drwy hau cymysgedd perthnasol o hadau.
(b) pan fo gorchudd glas wedi'i sefydlu erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol yn unol ag is-baragraff (a)(i) -
(ii) amnewid y gorchudd glas hwnnw drwy hau gorchudd glas newydd sy'n cynnwys cymysgedd perthnasol o hadau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol a dinistrio'r gorchudd glas sydd i'w amnewid;
(c) yn ddarostyngedig i baragraffau 8, 12 a 13, cynnal a chadw'r gorchudd glas a sefydlwyd o dan baragraff (a)(ii) neu (b)(ii) tan ddiwedd y cyfnod perthnasol; ac
(ii) bod y ffermwr heb gynaeafu unrhyw ran o'r gorchudd glas, nac wedi caniatáu i unrhyw ran ohono gael ei gynaeafu neu ei bori, yn y flwyddyn gyfredol.
(2) Nid yw'r gofyniad i sefydlu gorchudd glas yn unol ag is-baragraff (1)(a) yn gymwys -
(ii) pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol; a
(b) yn 2006 ac ym mhob blwyddyn ar ôl hynny -
(ii) pan fo'r cae neu'r rhan o gae wedi'i reoli neu wedi'i rheoli yn ystod y flwyddyn flaenorol honno yn unol ag opsiwn y gorchudd adar gwyllt; a (iii) pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol yn y flwyddyn o dan sylw.
Opsiwn y lleiniau o dan 10 metr
(ii) drwy ganiatáu aildyfiant naturiol yn dilyn y cnwd diwethaf a gynhyrchwyd ar y rhan honno o'r cae o dan sylw yn y flwyddyn flaenorol;
(b) yn ddarostyngedig i baragraffau 8, 12 a 13, cynnal a chadw'r gorchudd glas tan ddiwedd y cyfnod perthnasol; ac
(2) Nid yw'r gofyniad i sefydlu gorchudd glas yn unol ag is-baragraff (1)(a) yn gymwys yn 2005 -
(b) pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol.
Torri neu ddifa'r gorchudd glas
(b) difa'r gorchudd glas rhwng 15 Gorffennaf a 31 Awst (yn gynhwysol) yn ystod y cyfnod neilltuo cyfredol.
(2) Caiff ffermwr (pan fo'n torri'r gorchudd glas mewn cae neu ran o gae yn unol ag is-baragraff (1)(a)) yn achos cae sydd i'w neilltuo yn y flwyddyn ganlynol, adael heb ei dorri 25% o'r arwynebedd sydd wedi'i neilltuo yn y cae hwnnw, ar yr amod bod unrhyw arwynebedd a adewir heb ei dorri yn unol â'r paragraff hwn ac sydd hefyd wedi'i adael heb ei dorri yn ystod y ddwy flynedd flaenorol yn unol â'r paragraff hwn (neu baragraff 7(2)(b) o Atodlen 2 i Reoliadau Taliadau Arwynebedd Âr 1996) yn cael ei dorri yn unol ag is-baragraff (1) yn y flwyddyn ganlynol.
(b) 2 fetr o led, pan fo'r llain o dir sydd wedi'i neilltuo yn ffinio â thir a blannwyd â chnwd hadau; neu (c) 5 metr, mewn unrhyw fan lle gall fod yn bosibl i gerbydau fynd ar y tir hwnnw o ffordd neu drac sy'n gyfagos â'r tir hwnnw, ar yr amod bod y llain yn cael ei haredig a'i gadael yn fraenar.
(3) Yn is-baragraff (2), ystyr "cnwd hadau" yw cnwd a dyfir fel bod modd cynaeafu hadau'r cnwd a'u hau i sefydlu cnwd pellach.
(b) yn achos yr esemptiad yn is-baragraff (2), tan ddiwedd y flwyddyn gyfredol.
(4) Ym mhob cae neu ran o gae y gweithredir unrhyw un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1) neu (2), a lle mae ffermwr wedi dewis peidio â sefydlu gorchudd glas ar lain o dir yn unol â pharagraff 7(2), nid oes rhaid iddo gynnal a chadw unrhyw orchudd glas sydd wedyn yn ymsefydlu ar y llain honno. Yr amodau sy'n gymwys i bob darn o dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu 9. Mae darpariaethau paragraffau 10 i 15 o'r Atodlen hon yn gymwys i bob darn o dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ac sy'n cael ei reoli gan ffermwr yn unol ag unrhyw un o ddarpariaethau paragraffau 1 i 8. Gwahardd hau, a pharatoi ar gyfer hau, cnwd ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu, a gwahardd trin y tir hwnnw 10. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau 11 a 12, yn ystod y cyfnod neilltuo cyfredol, rhaid i ffermwr beidio â hau, na gwneud unrhyw waith paratoi ar gyfer hau, cnwd ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu na thrin y tir hwnnw mewn unrhyw ffordd arall . (2) mae unrhyw gyfeiriad at ddyddiad ym mharagraff 11 neu 12 yn gyfeiriad at y dyddiad hwnnw sy'n dod o fewn y cyfnod neilltuo cyfredol. Esemptiadau rhag y gwaharddiad ar hau, a pharatoi ar gyfer hau, cnwd ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu 11. - (1) Caiff ffermwr wneud paratoadau ar gyfer hau ar neu ar ôl 15 Gorffennaf. (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff ffermwr hau unrhyw hadau ar neu ar ôl 15 Gorffennaf os yw'r hadau yn cael eu hau er mwyn cynhyrchu cnwd i'w gynaeafu yn y flwyddyn ganlynol. (3) Pan fo ffermwr yn hau tir glas ar dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu yn unol â'r esemptiad yn is-baragraff (2), rhaid iddo beidio â phori unrhyw anifeiliaid ar y tir hwnnw yn ystod gweddill y flwyddyn gyfredol. Trin tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu at ddibenion rheoli chwyn 12. Caiff ffermwr drin y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ar unrhyw bryd ar neu ar ôl 1 Gorffennaf at ddibenion rheoli chwyn. Amnewid y gorchudd glas a newid opsiynau rheoli 13. - (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), yn ystod unrhyw gyfnod y mae'n ofynnol i ffermwr gynnal a chadw gorchudd glas mewn cae neu ran o gae, caiff roi gorchudd arall, serch hynny, yn lle'r gorchudd glas hwnnw ar yr amod bod yr hadau yn cael eu hau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl difa'r gorchudd glas sy'n bodoli eisoes. (2) Rhaid i'r hadau sydd i'w hau er mwyn sefydlu gorchudd glas newydd yn lle'r hen un -
(b) bod ym mhob achos arall -
(ii) yn gymysgedd perthnasol o hadau.
(3) O ran y cae neu'r rhan o gae lle mae'r gorchudd glas wedi'i amnewid, rhaid i ffermwr gydymffurfio â'r amodau hynny a nodwyd yn Rhan A o'r Atodlen hon ac sy'n ymwneud ag un o'r opsiynau rheoli canlynol -
(b) pan fo'r hadau a heuwyd yn gymysgedd perthnasol o hadau, opsiwn y gorchudd adar gwyllt.
(4) Pan fo ffermwr yn amnewid gorchudd glas yn unol ag is-baragraff (1), rhaid iddo beidio â phori unrhyw anifeiliaid ar y tir hwnnw, na chynaeafu unrhyw gnydau a gynhyrchir ar y tir hwnnw, yn ystod gweddill y flwyddyn gyfredol.
(b) rhoi ar y farchnad unrhyw doriadau, neu gnydau, a gynaeafir o'r gorchudd glas ar neu ar ôl 15 Ionawr yn y flwyddyn ganlynol.
(3) Rhaid i ffermwr sicrhau na chaiff unrhyw doriadau o'r gorchudd glas eu symud oddi ar y neilltir o dan sylw ac eithrio yn unol ag is-baragraff (2) neu gyda chydsyniad ymlaen llaw gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(b) ei fod yn cael ei daenu fesul dogn na fyddai'n difa'r gorchudd glas hwnnw; ac (c) yn achos tail a slyri, nad ydynt yn cael eu taenu -
(ii) o fewn 50 metr i unrhyw dyllau turio.
(4) Rhaid i ffermwr beidio â storio na dadlwytho na gwaredu fel arall unrhyw wastraff ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu, ac eithrio ei fod yn cael storio gwastraff organig mewn cae sy'n cynnwys neu'n ffurfio rhan o'r neilltir lle mae'r gwastraff organig hwnnw i'w daenu ganddo ar y cae hwnnw yn unol ag is-baragraff (3). Taenu gwrteithiau a gwastraff ar dir sydd wedi'i neilltuo ar gyfer darparu cnydau di-fwyd Dim ond ar dir sydd wedi'i neilltuo ar gyfer darparu cnydau di-fwyd y caiff ffermwr daenu gwrtaith neu wastraff cyhyd -
(b) â bod dull ei daenu yn gyson â'r Code of Good Agricultural Practice for the Protection of Water a gymeradwywyd o dan Orchymyn Dŵr (Atal Llygredd) (Cod Ymarfer) 1998[16].
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Ionawr 2005. Maent yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. Rhif L 270, 21.10.2003, t. 1) ("Rheoliad y Cyngor"), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 795/2004 (O.J. Rhif L 141, 30.4.2004, t. 1) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1973/2004 (O.J. Rhif L 345, 20.11.2004, t. 1) ("Rheoliad y Comisiwn 1973/2004") ynglyn â'r rhwymedigaeth i neilltuo tir o dan y Cynllun Taliad Sengl newydd ar gyfer ffermwyr ("y Cynllun"). Daeth y Cynllun ei hun i rym ar 1 Ionawr 2005. Mae rheoliad 3 yn pennu isafswm maint ac isafswm lled y tir y caniateir ei neilltuo mewn sefyllfaoedd penodol fel y'u caniateir o dan Erthygl 54(4) o Reoliad y Cyngor. Wrth wneud hynny, mae'n rhan-ddirymu'r ddarpariaeth yn Erthygl 54(4) sydd fel arall yn pennu isafswm maint ac isafswm lled y tir y caniateir ei neilltuo. Mae rheoliad 4, fel y'i darllenir gydag Atodlenni 1 a 2, yn pennu'r cyflyrau amaethyddol ac amgylcheddol da sy'n gymwys i dir sy'n cael ei neilltuo o dan y Cynllun. Mae'r rhain yn gymwys yn ychwanegol at y cyflyrau amaethyddol ac amgylcheddol da sy'n gymwys yn rhinwedd Rheoliadau Cynllun y Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004 / 3280 (Cy.284)). Mae rheoliad 5 yn caniatáu i ffermwyr wneud cais i dir na ellir ei neilltuo o dan y Cynllun gael ei gyfrif yn dir y caniateir ei neilltuo o dan y Cynllun. Mae Erthygl 33 o Reoliad y Comisiwn 795/2004 yn pennu ym mha achosion y gellir caniatáu hynny. Mewn rhai achosion, gall hyn olygu cyfnewid tir. Mae rheoliad 6 yn pennu darpariaethau ynglyn â deunyddiau crai a dyfir ar dir sydd wedi'i neilltuo ar gyfer darparu deunyddiau i weithgynhyrchu o fewn y Gymuned Ewropeaidd gynhyrchion nad ydynt wedi'u bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl neu anifeiliaid ("deunyddiau crai sy'n cael eu cynhyrchu at ddibenion di-fwyd") ac mae'n eu pennu fel a ganlyn -
(b) mae'n pennu darpariaethau ynglyn â phwyso deunyddiau crai penodol sy'n cael eu cynhyrchu at ddibenion di-fwyd os ydynt i gael eu defnyddio at unrhyw un o'r dibenion a bennir yn Erthygl 146(1) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004 (paragraff (2)); (c) mae'n pennu'r dull annatureiddio sydd i'w defnyddio ar gyfer grawnfwydydd a hadau olew os ydynt i'w defnyddio at unrhyw un o'r dibenion a bennir yn Erthygl 146(1)(a) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004 (paragraff (3)); ac (ch) mae'n pennu dyddiad ym mlwyddyn y cais, sef 15 Mai, fel y diwrnod olaf erbyn pryd y mae rhaid i gontractau a wneir rhwng ffermwyr a chasglwyr neu broseswyr ynghylch deunyddiau crai sy'n cael eu cynhyrchu at ddibenion di-fwyd gael eu hadneuo gyda'r Cynulliad Cenedlaethol (paragraff (4)) a dyddiad yn y flwyddyn ganlynol, sef 31 Ionawr, fel y diwrnod olaf erbyn pryd y mae rhaid i wybodaeth benodol ynglyn â'r deunyddiau hynny gael ei hadneuo yn swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol (paragraff (5)).
Mae rheoliad 7 yn pennu'r cofnodion y mae rhaid i gasglwyr a phroseswyr cyntaf eu cadw ynghylch unrhyw ddeunyddiau crai a gynhyrchwyd at ddibenion di-fwyd ac a brynwyd ganddynt ac yn pennu hyd y cyfnod y dylid cadw'r cofnodion hynny. Notes: [1] O.S. 1999/2788.back [3] O.J. Rhif L 141, 30.4.2004, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1974/2004 (O.J. Rhif L 345, 20.11.2004, t. 85).back [4] O.J. Rhif L 345, 20.11.2004, t. 1.back [5] O.J. Rhif L 270, 21.10.2003, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 864/2004 (O.J. Rhif L 161, 30.4.2004, t. 48, fel y mae wedi'i gywiro drwy gorigendwm yn O.J. Rhif L 206, 9.6.2004, t. 20).back [6] O.J. Rhif L 160, 26.6.1999, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor.back [7] O.S. 2004 / 3280 (Cy.284).back [9] O.J. Rhif L160, 26.6.99, t.80, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1783/2003 (O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.70).back [14] O.S. 1996/3142, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [15] O.S. 1996/3142, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
ISBN 0 11 091060 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 1 February 2005 |