Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005, ISBN 0110910591. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau o'r farn y caiff Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, ar y cyd â'i holl swyddogaethau eraill, gyflawni'n briodol swyddogaethau ychwanegol a roddir drwy hyn, ac yntau wedi ymgynghori fel yr ymddengys ei bod yn briodol iddo ei wneud yn unol ag adran 7(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1988, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005 a daw i rym ar 9 Chwefror 2005. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn -
Swyddogaethau Ychwanegol (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi swyddogaethau ychwanegol i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Ymhlith swyddogaethau'r Cyngor y mae sefydlu a chynnal cofrestr athrawon, cyhoeddi Cod Ymarfer, gosod safonau ymddygiad ac arferion proffesiynol a ddisgwylir gan athrawon cofrestredig, arfer pwerau disgyblu mewn perthynas ag athrawon cofrestredig a phobl sy'n gwneud cais am gael eu cofrestru a rhoi cyngor am faterion addysgu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Cyngor wedi'i bennu'n awdurdod dynodedig at ddibenion Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005 a wnaed o dan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae'r Rheoliadau hynny yn rhoi effaith i Gyfarwyddeb 89/48/EEC ar system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfernir ar ôl cwblhau addysg a hyfforddiant proffesiynol sy'n para am dair blynedd o leiaf. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi swyddogaeth gweithredu fel awdurdod dynodedig i'r Cyngor. Ac yntau'n awdurdod dynodedig, mae'r Cyngor i ymdrin â cheisiadau oddi wrth bobl sydd wedi cymhwyso mewn gwladwriaeth berthnasol (aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd, Gwlad yr Iâ, Norwy, Liechtenstein a'r Swistir) am gael cydnabod eu cymwysterau proffesiynol. Hefyd, rhoddir swyddogaeth ychwanegol i'r Cyngor, sef rhoi gwybodaeth a chyngor i'r cyhoedd am ofynion cydnabod yng Nghymru gymwysterau addysgu a gafwyd mewn gwladwriaeth berthnasol. Notes: [1] 1998 p.30. Mae'r darpariaethau perthnasol yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o'r Ddeddf a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2940 (Cy.281)). Diwygiwyd adran 7(3) gan baragraff 78 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] OJ Rhif L19, 24.1.89, t.16.back
ISBN 0 11 091059 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 31 January 2005 |