Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2005, ISBN 0110910540. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537A(1) a (2), a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 18 Ionawr 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru. Diwygio Rheoliadau 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003[3] fel a ganlyn. (2) Ar ddiwedd rheoliad 3, ychwaneger y geiriau ", a hynny ar ffurf y gall peiriant ei phrosesu". (3) Yn Rhan 2 o'r Atodlen -
(b) yn lle paragraff 1(b), rhodder -
(c) pa un a gafodd y disgybl ei sgrinio i ganfod unrhyw anghenion o ran sgiliau sylfaenol llythrennedd a Rhif edd ar ddechrau ei raglen o weithgareddau dysgu yn y chweched dosbarth ac, os felly, pa un a oedd ei sgiliau sylfaenol mewn perthynas â llythrennedd a Rhif edd -
(ii) wedi'u hasesu, a nodwyd bod sgiliau sylfaenol y disgybl -
(bb) ar lefel mynediad 1, (cc) ar lefel mynediad 2, (chch) ar lefel mynediad 3, (dd) ar lefel 1, neu (dddd) yn uwch na lefel 1; neu
(iii) yn anhysbys neu gwrthododd y disgybl i gael ei asesu.";
(c) ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau "Mewn perthynas â", yn lle'r geiriau "cwrs neu weithgaredd dysgu arall", rhodder "gweithgaredd dysgu";
(f) os cwblhaodd neu os tynnodd y disgybl yn ôl o'r gweithgaredd dysgu, y dyddiad y cwblhaodd neu y tynnodd y disgybl yn ôl o'r gweithgaredd dysgu, a pha un a yw'r disgybl wedi dechrau astudio gweithgaredd dysgu newydd.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ddarparu gwybodaeth ragnodedig am y disgyblion sydd yn yr ysgol i'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol, a hynny ar gais ysgrifenedig yr awdurdod. Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2003 drwy:
Notes: [1] 1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan Ddeddf Addysg 1997 (1997 p.44), adran 20, ac fe'i disodlwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (1998 p.31), adran 140(1) ac Atodlen 30, paragraffau 57 a 153. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1) o Ddeddf 1996.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 2003/3237 (Cy.317).back
ISBN 0 11 091054 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 17 January 2005 |