Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004, ISBN 011091046X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu bwyd crai a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliad a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu fwyd anifeiliaid a roddir yn fwyd i anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd a rheoli a rheoleiddio'r canlynol, sef: gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu rhoi ar y farchnad neu eu symud ar draws ffiniau, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. O ran y Rheoliadau hyn -
(b) deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2004; ac (c) maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
(2) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â Rhif , oni nodir i'r gwrthwyneb, yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn; (c) mae unrhyw gyfeiriad at Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen yn y Rheoliadau hyn oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall.
(3) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 1829/2003.
(b) o'i gollfarnu ar dditiad i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu i'r ddau.
(2) Mae unrhyw berson sydd yn mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig y cyfeirir atynt yn Rhan II o'r Atodlen, neu'n methu â chydymffurfio â hi, yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na thri mis neu i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu i'r ddau.
(b) unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu unrhyw Ran ohoni yn gyfeiriad at y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1829/2003; (c) unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at "samples taken in a prescribed manner" yn gyfeiriad at samplau a gymerwyd mewn modd a ragnodir yn Rhan II o Atodlen 1 o Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999[6]; (ch) unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at "prescribed method of analysis" -
(ii) pan nad oes unrhyw ddull o'r fath yn bodoli, neu pan fo'r organedd penodol a addaswyd yn enetig heb ei awdurdodi, yn gyfeiriad at unrhyw ddull sy'n bodloni rheoliad 6(4)(b) o Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999[7].
(2) Y darpariaethau hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw -
(b) adran 77 (rhannu samplau a'u dadansoddi gan ddadansoddydd amaethyddol); (c) adran 78(2), (3), (4), (5), (6), (7), (8) a (10) (dadansoddiad pellach gan Fferyllydd y Llywodraeth); (ch) adran 79(4), (5), (6), (8) a (10) (darpariaethau atodol ynglyn â samplau a dadansoddi); (d) adran 80 (cychwyn erlyniadau); (dd) adran 81 (tramgwyddau oherwydd bai person arall); (e) adran 82 (amddiffyniad camgymeriad, damwain, etc.); (f) adran 83 (arfer pwerau gan arolygwyr); (ff) adran 110 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol).
Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999
(b) rheoliad 4 (dull anfon samplau), sy'n gymwys fel petai'r cyfeiriad at "subsection (1)(b) or (2) of section 77 of the Act" yn gyfeiriad at y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1829/2003; (c) rheoliad 5 (cymwysterau dadansoddydd amaethyddol), sy'n gymwys fel petai'r cyfeiriad at "the prescribed qualifications for an agricultural analyst or a deputy agricultural analyst for the purposes of section 67(5) of the Act insofar as it relates to feeding stuffs" yn gyfeiriad at y cymwysterau y mae eu hangen ar berson sy'n dadansoddi bwyd anifeiliaid at ddibenion y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1829/2003; (ch) rheoliad 6(4) (dulliau dadansoddi), sy'n gymwys fel petai'r cyfeiriad at "the Act" yn gyfeiriad at y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1829/2003; (d) rheoliad 7 (tystysgrif i'w defnyddio ar gyfer canlyniadau dadansoddiad), sy'n gymwys fel petai'r cyfeiriad at "section 77(4) of the Act" yn gyfeiriad at adran 77(4) o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir gan y Rheoliadau hyn; (dd) rheoliad 8 (terfyn amser ar gyfer dadansoddi'r cynnwys olew mewn bwyd anifeiliaid) sy'n gymwys fel petai'r cyfeiriad at sampl a gymerwyd "in the prescribed manner" yn gyfeiriad at sampl a gymerwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn; (e) Atodlen 1 (rheolau manwl ar gyfer samplu); (f) Atodlen 3 (ffurf safonol ar dystysgrif i'w defnyddio ar gyfer canlyniadau dadansoddiad) sy'n gymwys fel petai'r cyfeiriad at "Part IV of the Agriculture Act 1970" yn gyfeiriad at Reoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004.
Arolygu, atafaelu a dal gafael ar fwyd anifeiliaid a amheuir
(b) ym meddiant unrhyw berson, neu sydd wedi'i adneuo gydag ef neu wedi'i draddodi iddo er mwyn ei roi ar y farchnad neu er mwyn ei baratoi i'w roi ar y farchnad,
ac mae paragraffau (2) i (9) isod yn gymwys pan fo'n ymddangos i'r arolygydd, wrth gymryd yr holl wybodaeth sydd ar gael iddo i ystyriaeth, y gall y deunydd fethu â chydymffurfio â darpariaeth Gymunedol benodedig.
(ii) ei symud neu ei symud ac eithrio i rywle a bennir yn yr hysbysiad; neu
(b) atafaelu'r deunydd a'i symud er mwyn trefnu bod ynad heddwch yn ymdrin ag ef;
ac mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ofynion hysbysiad o dan is-baragraff (a) uchod, gan wybod hynny, yn euog o dramgwydd.
(b) os na chaiff ei fodloni ynglyn â hynny, mae i fod i atafaelu'r deunydd a'i symud oddi yno er mwyn trefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r deunydd hwnnw.
(4) Pan fo'r arolygydd yn arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (2)(b) neu (3)(b) uchod, mae i fod i hysbysu'r person y mae'r deunydd o dan ei ofal o'i fwriad i drefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r deunydd ac -
(b) caiff yr ynad heddwch hwnnw fod yn aelod o'r llys y mae unrhyw berson wedi'i gyhuddo ger ei fron o dramgwydd mewn perthynas â'r deunydd hwnnw ond nid oes rhaid iddo fod yn aelod o'r llys hwnnw.
(5) Os yw'n ymddangos i ynad heddwch, ar sail unrhyw dystiolaeth y mae'n barnu ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, fod unrhyw ddeunydd y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag ef o dan y rheoliad hwn yn methu â chydymffurfio â darpariaeth Gymunedol benodedig, yna, yn ddarostyngedig i baragraff (6) isod, mae i fod i gondemnio'r deunydd a gorchymyn -
(b) bod unrhyw dreuliau a dynnwyd yn rhesymol mewn cysylltiad â'r gwaith dinistrio neu waredu i fod i gael eu talu gan y gweithredydd.
(6) Yn achos deunydd y cyfeirir ato yn Erthygl 15.1 sy'n destun awdurdodiad a roddwyd o dan Reoliad 1829/2003 ac sydd wedi'i gynhyrchu yn unol ag unrhyw amodau sy'n ymwneud â'r awdurdodiad hwnnw, ond nad yw'n dwyn y label priodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 25, caiff yr ynad heddwch, yn ôl ei ddisgresiwn, orchymyn -
(b) bod y deunydd yn cael ei ryddhau a'i roi yng ngafael y gweithredydd.
(7) Os yw hysbysiad o dan baragraff (2)(a) uchod yn cael ei dynnu'n ôl, neu os yw'r ynad heddwch y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag unrhyw ddeunydd o dan y rheoliad hwn yn gwrthod ei gondemnio, neu'n gwrthod gwneud gorchymyn i'r deunydd gael ei labelu'n briodol, mae'r awdurdod gorfodi i fod i dalu iawndal i berchennog y deunydd am unrhyw ddibrisiant yn ei werth sy'n deillio o'r camau a gymerwyd gan yr arolygydd.
(b) os yw'n honni ei fod yn dwyn llofnod swyddog y mae'r hysbysiad yn datgan ei fod yn arolygydd (ac mae llofnod yn cynnwys ffacsimili o lofnod drwy ba fodd bynnag y mae wedi'i atgynhyrchu), mae i'w ystyried, oni phrofir i'r gwrthwyneb, yn hysbysiad sydd wedi'i ddyroddi'n briodol gan yr arolygydd; (c) mae i fod i gael ei roi i'r person y mae'r deunydd o dan ei ofal -
(ii) drwy ei adael yn ei swyddfa, neu ei anfon mewn llythyr rhagdaledig sydd wedi'i gyfeirio ato yn y swyddfa honno; (iii) yn achos cwmni neu gorff corfforaethol, drwy ei drosglwyddo i'w ysgrifennydd neu i'w glerc yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa, neu drwy ei anfon mewn llythyr rhagdaledig sydd wedi'i gyfeirio at yr ysgrifennydd neu'r clerc yn y swyddfa honno; (iv) yn achos unrhyw berson arall, drwy ei adael neu ei anfon mewn llythyr rhagdaledig sydd wedi'i gyfeirio ato yn ei breswylfan arferol neu ei breswylfan hysbys ddiwethaf; (v) pan nad yw'n ymarferol canfod, ar ôl ymchwiliad rhesymol, enw a chyfeiriad y person y dylid cyflwyno'r hysbysiad iddo, neu pan fo'r fangre lle mae bwyd anifeiliaid yn cael ei gadw heb ei meddiannu, caniateir i'r hysbysiad gael ei gyfeirio at "berchennog" neu "feddiannydd" y fangre lle mae'r bwyd anifeiliaid, a'i drosglwyddo i ryw berson yn y fangre honno, neu os nad oes unrhyw berson yn y fangre y gellir ei drosglwyddo iddo, drwy ei osod neu osod copi ohono ar ryw ran amlwg o'r fangre.
Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau
(b) blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,
p'un bynnag yw'r cynharaf.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn darparu ar gyfer gorfodi a gweithredu rhai darpariaethau penodedig (sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid) yn Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.1). Mae Rheoliadau ar wahân yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi'r rhan honno o Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 sy'n ymwneud â bwyd. Yn benodol mae'r Rheoliadau hyn -
(b) yn darparu bod awdurdodau gorfodi yn gorfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn a darpariaethau Pennod III o Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 (rheoliad 4); (c) yn pennu cosbau am fethu â chydymffurfio â rhai darpariaethau penodedig yn Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 (rheoliad 5 a'r Atodlen); (ch) yn cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Amaethyddiaeth 1970 gydag addasiad at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 6); (d) yn cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999 (rheoliad 7); (dd) yn darparu pwerau a gweithdrefn ar gyfer arolygu, atafaelu a dal gafael ar fwyd anifeiliaid a amheuir ac ar gyfer ei ddinistrio neu ei waredu drwy orchymyn ynad heddwch os nad yw'n cydymffurfio â darpariaethau penodedig Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 (rheoliadau 8 a 9); (e) yn darparu terfyn amser o dair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd neu flwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd, a hwnnw'n derfyn amser y mae rhaid cychwyn erlyniadau am dramgwyddau o dan y Rheoliadau o'i fewn (rheoliad 10).
Mae arfarniad rheoleiddiol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y rheoliadau hyn a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW. Notes: [1] O.S. 2003/2901.back [4] OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.1.back [5] Ei chyfeiriad yng Nghymru yw: Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.back [6] O.S. 1999/1663; O.S. 2002/1797 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back [8] O.S. 1999/1663; y diwygiadau perthnasol yw O.S. 2003/1677 (Cy.180) ac O.S. 2002/1797 (Cy.172).back
ISBN 0 11 091046 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 14 December 2004 |