Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004, ISBN 0110910451. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 18(1), (26)(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2] ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd[3] ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. O ran y Rheoliadau hyn -
(b) deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2004; ac (c) maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
(2) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn; (c) mae unrhyw gyfeiriad at Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn
(3) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 1829/2003.
(b) ar gollfarn ar dditiad i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd neu ddirwy neu'r ddau.
(2) Mae unrhyw berson sydd yn mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig y cyfeirir atynt yn Rhan II o'r Atodlen, neu'n methu â chydymffurfio â hi, yn euog o dramgwydd ac yn agored, ar gollfarn ddiannod, i garchariad nad yw'n fwy na chwe mis neu i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu i'r ddau.
(b) Adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall); (c) Adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf honno; (ch) Adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yn ystod busnes); (d) Adran 30(8) (sy'n ymwned â thystiolaeth ddogfennol) (dd) Adran 33(1) (rhwystro, etc swyddogion); (e) Adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd); (f) Adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd); (ff) Adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e); (g) Adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); (ng) Adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll); a (h) Adran 50 (cyflwyno dogfennau).
(2) Mae adran 34 (terfyn amser i erlyniadau) yn gymwys i dramgwyddau o dan reoliad 5 fel y mae'n gymwys i dramgwyddau y gellir eu cosbi o dan adran 35(2) o'r Ddeddf.
(2) Mae adran 9 o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel petai'n darllen fel a ganlyn -
(b) is in possession of, or has been deposited with or consigned to, any person for the purpose of placing it on the market;
and subsections (2) to (9) below apply where it appears to the authorised officer, taking account of all the information available to him, that the placing on the market of any food fails to comply with a specified Community provision.
(ii) either is not to be removed or is not to be removed except to some place specified in the notice; or
(b) seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace;
and any person who knowingly contravenes the requirements of a notice under paragraph (a) above is guilty of an offence.
(b) if he or she is not so satisfied, is to seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.
(4) Where an authorised officer exercises the powers conferred by subsection (2)(b) or (3)(b) above, he or she is to inform the person in charge of the food of his or her intention to have it dealt with by a justice of the peace and -
(b) that justice of the peace may, but need not, be a member of the court before which any person is charged with an offence in relation to that food.
(5) If it appears to a justice of the peace, on the basis of such evidence as he or she considers appropriate in the circumstances, that any food falling to be dealt with by him or her under this section fails to comply with a specified Community provision then subject to subsection (6) below he or she is to condemn the food and order -
(b) any expenses reasonably incurred in connection with the destruction or disposal to be defrayed by the operator.
(6) In the case of a food referred to in Article 3.1 which is the subject of an authorisation granted under Regulation 1829/2003 and has been produced in accordance with any conditions relating to that authorisation but does not bear the appropriate labelling as required by Article 13 the justice of the peace may, at his or her discretion, order -
(b) the release of the food into the custody of the operator.
(7) If a notice under subsection (2)(a) above is withdrawn, or the justice of the peace by whom any food falls to be dealt with under this section refuses to condemn it or to make an order for the proper labelling of the food, the food authority is to compensate the owner of the food for any depreciation in its value resulting from the action taken by the authorised officer.
Dirymu
(b) yn yr Atodlen, ar ôl eitem 6, rhodder y canlynol yn y golofn gyntaf: "6A. Article 8.1" ac yn yr ail golofn rhodder: "Requirement that labelling inform the final consumer of any characteristic or food property which renders a novel food or food ingredient no longer equivalent to an existing food or food ingredient.".
(2) Yn y Rheoliadau Bwyd (Darpariaethau sy'n ymwneud â Labelu) (Cymru 2004[8], mae rheoliad 8 drwy hyn wedi'i ddirymu.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn darparu ar gyfer gorfodi a gweithredu rhai darpariaethau penodedig (sy'n ymwneud â bwyd) yn Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.1). Mae Rheoliadau ar wahân yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi'r darpariaethau hynny yn Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid. Yn benodol mae'r Rheoliadau hyn -
(b) yn darparu bod awdurdodau bwyd yn gorfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn a darpariaethau Pennod II o Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 (rheoliad 4); (c) yn pennu cosbau am fethu â chydymffurfio â rhai darpariaethau penodedig yn Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003, unwaith y mae'r Rheoliadau mewn grym (rheoliad 5 a'r Atodlen); (ch) cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 gyda rhai addasiadau wrth eu cymhwyso at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliadau 6 a 7); (d) dirymu Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000 (rheoliad 8); (dd) gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Bwydydd Newydd a Chynhwysion Bwydydd Newydd 1997 a Rheoliadau Bwyd (Darpariaethau sy'n Ymwneud â Labelu) (Cymru) 2003 (rheoliad 9).
Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y rheoliadau hyn a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back [4] OJ Rhif L268, 18.10.03, t.1.back [5] Ei chyfeiriad yng Nghymru yw Llawr 11 , Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.back [7] O.S. 1997/1335, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/253, O.S. 2000/656, O.S. 2000/1925.back
ISBN 0 11 091045 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 14 December 2004 |