Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2004, ISBN 011091032X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 74A, 77(4), 79(2) a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[2] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[3] mewn perthynas â mesurau sy'n berthnasol i fwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd, neu a roddir yn fwyd iddynt, a thrwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran olaf uchod (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan bwerau Deddf Amaethyddiaeth 1970 a bennir uchod), ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan adran 84(1) o'r Ddeddf honno a chan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[4]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2004, maent yn gymwys i Gymru'n unig a deuant i rym ar 24 Tachwedd 2004. Diwygiadau i Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001[5] yn unol â pharagraffau (2) i (4). (2) Yn rheoliad 12 (rheoli cynhyrchion sy'n cynnwys sylweddau annymunol ac y bwriedir eu defnyddio ar gyfer bwydydd anifeiliaid), ar ôl paragraff (6) ychwaneger y canlynol -
(b) porthiant a geir o brosesu pysgod neu anifeiliaid morol eraill; (c) blawd gwymon a deunyddiau porthiant sy'n deillio o wymon; neu (ch) porthiant cyflawn ar gyfer pysgod neu ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu ffwr.
(8) Rhaid i unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (7), os bydd arolygydd yn gofyn iddo wneud hynny, gaffael a chyflwyno i'r arolygydd ddadansoddiad er mwyn dangos bod yr arsenic inorganig a gynhwysir mewn cynnyrch a fwriedir ar gyfer porthiant a restrir ym mharagraff (7) yn dod o fewn y terfyn a bennir yn y cofnod perthnasol yng ngholofn 3 o Ran I o Atodlen 7.
(3) Yn lle rheoliad 13 (rheoli porthiant cyfansawdd sy'n cynnwys deunyddiau gwaharddedig) rhodder y canlynol -
13. - (1) Ni chaiff neb roi mewn cylchrediad i'w ddefnyddio fel porthiant, neu ddefnyddio fel porthiant, unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys -
(b) croen wedi'i drin â sylweddau barcio, gan gynnwys y gwastraff sy'n dod ohono; (c) hadau neu ddeunyddiau eraill ar gyfer lluosogi planhigion sydd, ar ôl eu cynaeafu, wedi'u trin yn benodol â chynhyrchion amddiffyn planhigion gyda'r bwriad o'u defnyddio ar gyfer lluosogi planhigion, neu sgil-gynhyrchion sy'n deillio ohonynt; (ch) pren, gan gynnwys blawd llif neu ddeunyddiau eraill sy'n deillio o bren, a gafodd ei drin â chadwolion pren fel y'u diffinnir yn Atodiad V o Gyfarwyddeb 98/8/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â gosod cynhyrchion bywleiddaidd ar y farchnad[6]; (d) yn ddarostyngedig i baragraff (3), gwastraff (pa un a yw wedi'i brosesu neu i'w brosesu ymhellach ai peidio) a geir o drin dwr gwastraff trefol, dwr gwastraff domestig, neu o drin dwr gwastraff diwydiannol (fel y diffinnir y termau "urban waste water", "domestic waste water" ac "industrial waste water" yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/271/EEC ynghylch trin dwr gwastraff), o ba le bynnag y daeth y dwr gwastraff dan sylw yn wreiddiol[7]; (dd) gwastraff trefol solet, megis gwastraff cartrefi, ond heb gynnwys gwastraff arlwyo fel y'i diffinnir gan Reoliad (EC) 1774/2002 sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta[8]; (e) deunydd pecynnu a rhannau o ddeunydd pecynnu cynhyrchion a ddefnyddir mewn amaethyddiaeth neu yn y diwydiant bwyd.
(2) At ddibenion paragraff (1) ystyr "gwastraff" fydd yr ystyr a roddir i "waste" yn nhestun Saesneg Erthygl 1 o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC [9]).
(4) Yn Rhan IX (Rheoliadau'r Gymuned Ewropeaidd sy'n rheoli ychwanegion) o Atodlen 3 -
(28) OJ No. L162, 30.4.2004, p.68. (29) OJ No. L239, 9.7.2004, p.8. (30) OJ No. L243, 15.7.2004, p.10. (31) OJ No. L247, 21.7.2004, p.8. (32) OJ No. L247, 21.7.2004, p.11. (33) OJ No. L269, 17.8.2004, p.3. (34) OJ No. L270, 18.8.2004, p.11.".
(5) Yn lle'r cofnodion sy'n ymwneud ag arsenig, fflworin, plwm, afflatocsin B1, gosipol rhydd ac endoswlffan a geir yng ngholofnau 1 i 3 o Ran 1 (Feeding Stuffs) o Atodlen 7 (prescribed limits for undesirable substances) rhaid rhoi'r cofnodion a geir yng ngholofnau 1 i 3 yn y drefn honno o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig, yn diwygio ymhellach Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (O.S. 2001/343 (Cy.15), fel y'i diwygiwyd eisoes), sef "Rheoliadau 2001", sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru'n unig. 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/100/EC (OJ Rhif L285, 01.11.2003, t.33) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L140, 30.05.2002, t.15) ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid, ac yn gweithredu hefyd Benderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC (OJ Rhif L067, 05.03.2004, t.31) sy'n mabwysiadu rhestr o ddeunyddiau y gwaherddir eu cylchredeg neu eu defnyddio at ddibenion maeth anifeiliaid. 3. Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2001 -
(b) drwy wneud diwygiadau manwl i'r rhestr o ddeunyddiau gwaharddedig a geir yn rheoliad 13 o Reoliadau 2001, a thrwy ymestyn y gwaharddiad presennol ar eu cylchredeg neu eu defnyddio mewn cysylltiad â bwydydd anifeiliaid cyfansawdd i gynnwys eu cylchredeg neu eu defnyddio fel deunyddiau bwyd anifeiliaid (paragraff (3)); (c) drwy ychwanegu at Ran IX o Atodlen 3 wyth o Reoliadau newydd y Comisiwn Ewropeaidd sy'n awdurdodi ychwanegion newydd neu ffordd newydd o ddefnyddio ychwanegion penodol mewn bwydydd anifeiliaid neu, yn ôl y digwydd, drwy wneud yr awdurdodiad a roddwyd dros dro i ychwanegyn yn awdurdodiad parhaol (paragraff (4)); (ch) drwy ddiwygio'r cyfyngiadau rhagnodedig ar gyfer sylweddau annymunol a geir yn Atodlen 7 i Reoliadau 2001 mewn perthynas ag arsenig, fflworin, plwm, afflatocsin B1, gosipol rhydd ac endoswlffan (paragraff (5)).
4.
Mae rheoliadau 3 i 5 hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i gyfeiriadau at y Rheoliadau Porthiant fel y maent yn ymddangos mewn amrywiol Reoliadau ac yn Neddf Amaethyddiaeth 1970. Notes: [1] 1970 p.40. Yn adran 66(1) caiff yr ymadroddion "the Ministers", "prescribed" a "regulations" eu diffinio; cafodd y diffiniad o "the Ministers" ei ddiwygio gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), Atodlen 5, paragraff 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r "Ysgrifennydd Gwladol", i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672. Cafodd adran 74 ei mewnosod gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (1972 p. 68), Atodlen 4, paragraff 6.back [4] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. O dan Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn Ewropeaidd mae "cyfraith bwyd" yn rhychwantu bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu a roddir yn fwyd iddynt.back [5] O.S. 2001/343 (Cy.15), a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2253 (Cy.163), O.S. 2001/3461 (Cy.280), O.S. 2002/1797 (Cy.172), O.S. 2003/1677 (Cy.180), O.S. 2003/1850 (Cy.200), O.S. 2003/3119 (Cy.297) ac O.S. 2004/1749 (Cy.186).back [6] OJ Rhif L123, 24.04.1998, t.1.back [7] OJ Rhif L135, 30.05.1991, t.40, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 98/15/EC, OJ Rhif L67, 07.03.1998, t.29.back [8] OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1.back [9] OJ Rhif L194, 25.07.1975, t.39, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) 1882/2003, OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1.back [10] OJ Rhif L67, 05.03.2004, t.31.back [11] O.S. 1999/1663, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1871, O.S. 2001/2253 (Cy.163), O.S. 2002/1797 (Cy.172), O.S. 2003/1677 (Cy.180), O.S. 2003/1850 (Cy.200), O.S. 2003/3119 (Cy.297) ac O.S. 2004/1749 (Cy.186).back [12] O.S. 1999/2325, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/656, O.S. 2000/2481, O.S. 2001/2253 (Cy.163), O.S. 2001/3461 (Cy.280), O.S. 2002/1797 (Cy.172), O.S. 2003/989 (Cy.138), O.S. 2003/1677 (Cy.180), O.S. 2003/1850 (Cy.200), O.S. 2003/3119 (Cy.297) ac O.S. 2004/1749 (Cy.186).back
ISBN 0 11091032 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 30 November 2004 |