Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2004, ISBN 0110910311. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 3(5)(a), 4 a 113 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1]a pharagraff 7 o Atodlen 1 iddi, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy) 1992 2. Mae Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy) 1992[2] wedi'i ddiwygio fel a ganlyn:
(c) ar ôl erthygl 3, mewnosoder yr erthygl ganlynol -
Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992
(b) has been a relevant absentee for the whole of the period since the dwelling last ceased to be his residence;".
Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) 1992
(b) a building or part of a building -
(ii) which is not a care home or independent hospital for the purposes of that paragraph.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn wedi'i wneud yn unol ag adrannau 3(5)(a), 4 a 113 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992") a pharagraff 7 o Atodlen 1 iddi, ac mae'n diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy) 1992 ("Gorchymyn 1992"), Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 a Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) 1992. Mae adran 3 o Ddeddf 1992 yn diffinio annedd at ddibenion darpariaethau'r dreth gyngor ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae erthygl 3 o Orchymyn 1992 yn ei gwneud yn ofynnol trin eiddo sengl sy'n cynnwys mwy nag un uned hunan gynwysedig fel pe bai wedi'i ffurfio o'r un nifer o anheddau â'r nifer o unedau hunan gynwysedig yn yr eiddo hwnnw. Diffinir eiddo sengl yng Ngorchymyn 1992 yn eiddo a fyddai, ar wahân i'r Gorchymyn hwnnw, yn un annedd o fewn ystyr "one dwelling" yn adran 3 o Ddeddf 1992. Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn mewnosod erthygl 3A newydd yng Ngorchymyn 1992. Bydd hynny'n sicrhau bod cartref gofal (o fewn ystyr "care home" yn adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, ac y mae person wedi'i gofrestru ar ei gyfer yn unol â Rhan 2 o'r Ddeddf honno), yn lle cael ei drin, at ddibenion y dreth gyngor, fel pe bai wedi'i ffurfio o anheddau ar wahân o fewn annedd, yn unol â nifer yr unedau hunan gynwysedig, yn cael ei drin fel nifer yr anheddau a geir wrth ychwanegu un at nifer yr unedau hunan gynwysedig a ddarperir i letya'r person a gofrestrwyd ar gyfer y cartref gofal. Mae adran 4 o Ddeddf 1992 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, i ragnodi drwy orchymyn ddosbarthiadau ar anheddau nad yw'r dreth gyngor yn daladwy ar eu cyfer. Mae Dosbarth I yn erthygl 3 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 yn esemptio rhag talu'r dreth gyngor annedd sydd heb ei meddiannu ac y mae ei pherchennog neu ei thenant bellach â'i unig neu ei brif breswylfa mewn man arall "not being a hospital, residential care home, nursing home, mental nursing home or hostel within the meaning of paragraphs 6, 7 or 8 of Schedule 1" i Ddeddf 1992, at y diben o dderbyn gofal personol y mae ei angen ar y perchennog neu'r tenant am rai resymau penodedig. Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn rhoi geiriad newydd ar gyfer Dosbarth I, sy'n cynnwys cyfeiriad at lety a ddarperir gan wasanaeth gofal cartref yn yr Alban. Mae adran 11 o Ddeddf 1992 ac Atodlen 1 iddi yn darparu y caiff disgrifiadau o bobl sy'n preswylio mewn annedd eu diystyru wrth benderfynu a yw'n gymwys rhoi gostyngiad ar swm y dreth gyngor sy'n daladwy mewn perthynas â'r annedd. Mae paragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992 yn darparu y caiff person ei ddiystyru os hostel yw ei unig neu ei brif breswylfa. Mae paragraff 7(2) yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddiffinio hostel drwy Orchymyn. Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn rhoi erthygl 6 (sy'n diffinio "hostel") newydd yng Ngorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) 1992 o ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed i baragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000. Mae'r diffiniad bellach yn rhoi, yn lle'r cyfeiriad at adran 49(1) o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol 1973, sydd wedi'i diddymu, gyfeiriad at adran 9(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000. Notes: [1] 1992 (p.14). Trosglwyddwyd y pwerau hyn, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn Atodlen 1.back [2] O.S. 1992/549, y mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud iddo gan Orchymyn Diwygio y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) 1997 (O.S. 1997/656).back [4] O.S. 1992/558 y mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud iddo gan Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) 1994 (O.S. 1994/539).back
ISBN 0 11091031 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 17 November 2004 |