Rheoliadau Cynllun y Taliad Sengl ac Amrywiol Gynlluniau Cymorth Uniongyrchol (Apelau) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynllun y Taliad Sengl ac Amrywiol Gynlluniau Cymorth Uniongyrchol (Apelau) (Cymru) 2004, ISBN 011091029X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn - Enwi a Chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun y Taliad Sengl ac Amrywiol Gynlluniau Cymorth Uniongyrchol (Apelau) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2004. Cymhwyso 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i benderfyniad perthnasol a wneir mewn perthynas â ffermwr sydd â'i ddaliad wedi'i leoli, naill ai yn gyfan gwbl neu'n rhannol, yng Nghymru. Dehongli 3. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y rheoliadau hyn at offeryn y Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hynny fel ei ddiwygir ar y dyddiad y mae'r rheoliadau hyn yn cael eu gwneud.
(b) codi ar unrhyw ffermwr, yr ystyrir ei apêl o dan y weithdrefn a sefydlwyd, unrhyw dâl y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei bennu (heb fod yn fwy na £100), mewn perthynas ag unrhyw gostau a dynnwyd ganddo wrth roi'r weithdrefn ar waith o ran yr apêl dan sylw.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i sefydlu gweithdrefn apelio ar gyfer ffermwyr sy'n gwrthwynebu ei benderfyniadiau o ran sut y mae'n gweinyddu Cynllun y Taliad Sengl ac amrywiol gynlluniau cymorth penodol eraill (sef yn benodol y Cynlluniau rheini sydd yn ymwneud â premiwm cnydau protein, y taliad arwynebedd am gnau, cymorth cnydau ynni, cymorth am datws starts, y premiwm godro (a thaliadau ychwanegol) a chymorth cynhyrchu hadau. Cyflwynir ac fe weithredir y cynlluniau yma gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. L270, 21.10.2003, t.1), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2237/2003 (O.J. Rhif L339, 24.12.2003, t.52), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 795/2004 (O.J. Rhif L141, 30.04.2004, t.1) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004 (O.J. Rhif L141, 30.04.2004, t.18). Caiff unrhyw weithdrefn apelio a sefydlir yn unol â'r rheoliadau yma fod yn ffurf unai cyflwyniad ar lafar neu yn ysgrifenedig i bersonau a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol gyda'r bwriad i'r personau hynny argymell i'r Cynulliad Cenedlaethol sut y dylai benderfynu'n derfynol ar y mater. Mae'r Rheoliadau yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu tâl a lwfansau i unrhyw bersonau a benodir felly, ac i godi tâl (nad sydd yn fwy na £100) yn sgîl costau'r weithdrefn. Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau o hwnnw gan Adran Amgylchedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S. 1999/2788) ("y Gorchymyn"). Mae pŵer y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir sydd wedi'i leoli o fewn y Deyrnas Unedig ond y tu allan i Gymru wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.back [3] OJ Rhif L339, 24.12.2003, t.52.back [4] OJ Rhif L141, 30.04.2004, t.1.back [5] OJ Rhif L141, 30.04.2004, t.18.back [6] OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.1 fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 864/2004 (O.J. L161, 30.04.2004, t.48).back
ISBN 0 11091029 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 17 November 2004 |