Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004, ISBN 0110910273. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 36, 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004[1]: Cymhwyso, enwi a chychwyn 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchmyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 11 Tachwedd 2004. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Cynllun" yw'r cynllun a sefydlwyd o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947[2] ac a nodir yng Ngorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992[3]. Cadw'r cynllun pensiwn presennol 3. - (1) Er gwaethaf diddymu adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947[4]), bydd y Cynllun yn parhau mewn grym. (2) Bydd y deddfiadau a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn parhau i fod ag effaith at ddibenion y Cynllun fel pe na baent wedi'u diwygio neu eu diddymu, fel sy'n briodol, gan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Newid enw'r cynllun 4. - (1) Enw newydd y Cynllun fydd "Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru)". (2) Dehonglir unrhyw gyfeiriad at y Cynllun mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen arall (gan gynnwys y Cynllun ei hun) fel cyfeiriad at y Cynllun o dan ei enw newydd. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 9 Tachwedd 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod Cynllun Pensiwn y Dynion Tân ("y Cynllun"), a sefydlwyd o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947, yn parhau mewn grym er bod yr adran honno wedi'i diddymu gan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. At ddibenion y Cynllun, mae'r Gorchymyn hwn yn parhau i roi effaith i ddeddfiadau penodol a ddiwygiwyd neu a ddiddymwyd gan Ddeddf 2004. Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer newid enw'r Cynllun yn "Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru)". Dehonglir unrhyw gyfeiriad at y Cynllun mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen arall (gan gynnwys y Cynllun ei hun) fel cyfeiriad at y Cynllun o dan ei enw newydd. Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad yw'r offeryn yn effeithio o gwbl ar gostau busnesau, elusennau neu gyrff gwirfoddol. Notes: [1] 2004 p.21.back [3] O.S. 1992/129, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/2309, 1997/2851, 1998/1010, 2001/3649, 2001/3691 ac O.S. 2001/310.back [4] Diddymir Adran 26 gan adran 54 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ac Atodlen 2 iddi, ond mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn a'r Atodlen iddo yn parhau i roi effaith i'r adran honno at ddibenion y Cynllun.back [6] Diwygiwyd adran 26 gan adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1951 (p. 27); adran 42 o Ddeddf y Lluoedd wrth Gefn a'r Lluoedd Ategol (Diogelu Buddiannau Sifil) 1951 (p. 65); adran 33 o Ddeddf Dwyn 1968 (p. 60) ac Atodlen 3 iddi; adrannau 16 a 29 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 ac Atodlen 8 iddi (p. 11); adran 100 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1973 ac Atodlen 27 iddi (p. 38); adran 1 o Ddeddf Cymorth Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 1975 ac Atodlen 1 iddi (p. 18); adran 32 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43); adran 1 o Ddeddf Pensiynau'r Heddlu a'r Dynion Tân 1997 (p. 52) ac erthygl 2 o Orchymyn Cymorth Gwladol (Addasu Deddf Gwasanaethau Tân 1947) 1976 (O.S. 1976/551).back [7] Mewnosodwyd adran 27A gan adran 3 o Ddeddf Pensiynau'r Heddlu a'r Dynion Tân 1997 ac fe'i diwygiwyd gan erthygl 102 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Diwygiadau Canlyniadol a Diddymiadau) 2001 (O.S. 2001/3649).back [9] 1951 p.65; diwygir adrannau 46(3)(iii) a 61(1)(d), o 11 Tachwedd 2004, gan adran 53 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 a pharagraff 12 o Atodlen 1 iddi.back [11] 1971 p. 56; mewnosodwyd paragraff 16A o Atodlen 2 gan adran 29 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 a pharagraff 89 o Atodlen 6 iddi. Diwygir paragraffau 16, 16A a 44 o Atodlen 2, o 11 Tachwedd 2004, gan adran 53 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 a pharagraff 35 o Atodlen 1 iddi.back [12] 1971 p.56; mewnosodwyd paragraff 16A gan adran 29 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 ac Atodlen 6 iddi.back [13] 1972 p.11. O 11 Tachwedd 2004, diwygir adran 24(1)(a) gan adran 53 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, a pharagraff 37 o Atodlen 1 iddi.back
ISBN 0 11091027 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 17 November 2004 |