Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cychwyn) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cychwyn) (Cymru) 2004, ISBN 0110910265. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 60 i 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004[1]: Enwi, cymhwyso a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cychwyn) (Cymru) 2004. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru. (3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf " ("the Act") yw Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Cychwyn y Ddeddf 2. Daw'r Ddeddf, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, i rym ar 10 Tachwedd 2004. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 9 Tachwedd 2004 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Daw'r Gorchymyn hwn â darpariaethau Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 nad ydynt eisoes mewn grym i rym ar 10 Tachwedd 2004. Notes: [1] 2004 p. 21 .back
ISBN 0 11091026 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 17 November 2004 |