Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004, ISBN 0110910214. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 108(3)(c), (7), (8), (9), (10) ac (11) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002[1]. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 10 Tachwedd 2004. (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys at ddibenion canfod cyraeddiadau disgyblion sydd ym mlwyddyn olaf yr ail gyfnod allweddol a hynny yn y pynciau Cymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth. (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn unig. (4) Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys at ddibenion canfod cyraeddiadau disgyblion yn y Gymraeg os yw'r disgyblion hynny yn dilyn y rhaglen astudio o'r enw "Cymraeg Ail Iaith"[2]. Dirymu 2. Dirymir Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 1997[3] a Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) (Diwygio) 1998[4]. Dehongli 3. - (1) Yn y Gorchymyn hwn -
(2) Mae cyfeiriadau at -
(b) lefelau cyrhaeddiad, targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio yn gyfeiriadau at y lefelau, y targedau a'r rhaglenni a osodir yn y dogfennau cysylltiedig.
(3) Os nad yw unrhyw rif cyfartalog y mae'n ofynnol ei benderfynu drwy'r Gorchymyn hwn yn Rhif cyfan, rhaid ei dalgrynnu i'r Rhif cyfan agosaf, gan dalgrynnu'r ffracsiwn un hanner i fyny i'r Rhif cyfan nesaf.
TC2 (darllen) 3; a TC3 (ysgrifennu) 3.
(4) Yn achos mathemateg, lefel cyrhaeddiad disgybl yn y pwnc yw cyfartaledd lefelau'r disgybl ym mhob TC ond â'i lefel yn TC2 (Rhif ac algebra) wedi'i phwysoli â ffactor o ddau. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion yng Nghymru yn unig. Mae'n dirymu ac yn disodoli Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 1997 (fel y'i diwygiwyd). Mae'n pennu'r trefniadau asesu ar gyfer disgyblion sy'n astudio Cymraeg (fel iaith gyntaf), Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol 2. Mae erthygl 2 yn dirymu Gorchymyn 1997 (fel y'i diwygiwyd). Mae erthygl 3 yn cynnwys diffiniadau o dermau a ddefnyddir yn y Gorchymyn. Mae erthygl 4 yn darparu i ddisgyblion gael eu hasesu gan athro ac mae'n gosod diben y gwaith asesu hwnnw. Mae erthygl 5 yn gosod y rheolau technegol ar gyfer penderfynu lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn ôl pwnc. Mae erthygl 6 yn gosod rheolau arbennig sy'n gymwys mewn perthynas â disgyblion nad ydynt yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (gan gynnwys disgyblion â datganiad anghenion addysgol arbennig). Mae erthygl 7 yn ei gwneud yn ofynnol i wneud trefniadau i werthuso'r trefniadau asesu. Mae erthygl 8 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud darpariaeth sy'n rhoi effaith i'r darpariaethau a wneir gan y Gorchymyn hwn neu i wneud darpariaeth sy'n ychwanegu mewn ffordd arall at y darpariaethau hynny. Yr unig newid sywleddol a wna'r Gorchymyn hwn yw nad yw bellach yn gwneud darpariaeth ar gyfer profion disgyblion. Yn unol â hynny, nid ailddeddfir erthyglau 5 a 6 o Orchymyn 1997. Notes: [1] 2002 p.32.back [2] Gweler O.S. 2000/1101 (Cy.79) a'r ddogfen a gyhoeddwyd o dan y teitl "Cymraeg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru", ISBN 0750424036.back [5] Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd i fodoli o dan adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 a chafodd ei enw presennol gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997 (p.44).back [6] Y Gorchmynion perthnasol ar gyfer yr ail gyfnod allweddol yw O.S. 2000/1101 (Cy.79) (Cymraeg), O.S. 2000/1154 (Cy. 85) (Saesneg), O.S. 2000/1100 (Cy.78) (Mathemateg) ac O.S. 2000/1099 (Cy.77) (Gwyddoniaeth).back
ISBN 0 11091021 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 17 November 2004 |