Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2004, ISBN 0110910168. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(5) a (6) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970[1] sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 3 Tachwedd 2004. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru. Dynodi corff cyhoeddus 2. Mae PBS 2003 Limited[3], gan ei fod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel pe bai'n berson sy'n arfer swyddogaeth o natur gyhoeddus, yn gorff cyhoeddus at ddibenion Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970. Cyfyngiadau ar gytundebau - PBS 2003 Limited 3. Mae'r cytundebau y caniateir i PBS 2003 Limited ymrwymo iddynt yn rhinwedd y Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a ganlyn -
(b) rhaid bod unrhyw gytundeb felly wedi'i wneud mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae adran 1 o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 ("Deddf 1970") yn nodi at ba ddibenion y caiff Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol yng Nghymru (ymhlith eraill) ymrwymo mewn cytundeb â chorff cyhoeddus ynghylch cyflenwi nwyddau a gwasanaethau gan y Cyngor hwnnw. O dan adran 1(5) o Ddeddf 1970, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion Deddf 1970, y pŵer i bennu yn gorff cyhoeddus berson neu ddisgrifiad o bersonau yr ymddengys iddo eu bod yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus. Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dynodi PBS 2003 Limited yn gorff cyhoeddus o dan adran 1(5) o Ddeddf 1970. Yn erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, ceir cyfyngiadau ar y cytundebau y caniateir ymrwymo iddynt. Effaith y dynodiad hwnnw yw caniatáu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ddarparu gwasanaethau arlwyo a chynnal a chadw tiroedd (neu'r naill neu'r llall o'r gwasanaethau hynny) i PBS 2003 Limited drwy gytundeb sydd at unrhyw ddiben a ragnodir gan adran 1(1) o Ddeddf 1970. Notes: [1] 1970 p.39. Mae'r pŵer a roddwyd i'r Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol; gweler O.S. 1970/1681 a hefyd O.S. 1997/2971.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] Ymgorfforwyd PBS 2003 Limited yn gwmni preifat wedi'i gyfyngu gan gyfrannau ar 12 Rhagfyr 2002 ac fe'i cofrestrwyd o dan rif cwmni 4615908.back
ISBN 0 11091016 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 9 November 2004 |