Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Deddf Ymaelodi ynghylch y Weriniaeth Tsiec a Gwladwriaethau Eraill) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Deddf Ymaelodi ynghylch y Weriniaeth Tsiec a Gwladwriaethau Eraill) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004, ISBN 0110910079. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] mewn perthynas â mesurau sy'n gysylltiedig â bwyd (gan gynnwys diod), a chan gynnwys camau cynradd cynhyrchu bwyd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl yr ymgynghori sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Deddf Ymaelodi ynghylch y Weriniaeth Tsiec a Gwladwriaethau Eraill) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004, byddant yn gymwys i Gymru yn unig, a deuant i rym ar 31 Hydref 2004. Diwygio Rheoliadau Bwydydd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym 1990 2. - (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Bwydydd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym 1990[4]) yn unol â pharagraff (2). (2) Yn rheoliad 5 (labelu bwydydd sydd wedi'u rhewi'n gyflym), mewnosoder y paragraff a ganlyn ar y diwedd -
Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Wyau 1993
Diwygio Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn, mewn perthynas â Chymru yn unig, yn diwygio'r ddeddfwriaeth fwyd a bennir isod a wnaed yn angenrheidiol drwy ddiwygiadau i ddeddfwriaeth fwyd y Gymuned Ewropeaidd gan y Rheoliadau hynny a wnaed gan Ddeddf y Gymuned Ewropeaidd ynghylch amodau derbyn y Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia a'r addasiadau i'r Cytuniadau y seiliwyd yr Undeb Ewropeaidd arnynt (OJ Rhif L236, 23.9.2003, t.33) ("y Ddeddf"). 2. Mae'r Rheoliadau -
(ii) drwy hynny'n ychwanegu at restr yr ieithoedd (o dan baragraffau (2) a (3) o'r rheoliad hwnnw) y gellir dangos bod y bwyd o dan sylw wedi'i rewi'n gyflym ynddynt, ieithoedd Gwladwriaethau penodol sydd, yn rhinwedd y Ddeddf, yn dod yn Aelod-wladwriaethau newydd o'r Gymuned Ewropeaidd (rheoliad 2);
(b) yn diwygio is-baragraff (2) o baragraff 1 o Atodlen 10 (marcio cynhyrchion wyau) i Reoliadau Cynhyrchion Wyau 1993 (O.S. 1993/1520 fel y'i diwygiwyd eisoes) drwy roi manylion diwygiedig yn lle'r manylion (o dan baragraffau (a)(ii) a (b)(iii) o'r is-baragraff hwnnw) sy'n ofynnol, i bob llwyth o gynhyrchion wyau sy'n gadael sefydliad, i gael eu pennu ar label sy'n ymwneud â'r llwyth o dan sylw (rheoliad 3);
(ii) drwy hynny yn estyn rhychwant yr amddiffyniad ar allforion yn rheoliad 47 o'r Rheoliadau hynny drwy ei wneud yn gymwys os yw'r tramgwydd a gyhuddir yn ymwneud â'r gofyn i labelu yn y Rheoliadau ynghylch y dyddiad "use by" neu'r gofyn i labelu ynghylch bwyd a arbelydrwyd, y mae'r Wladwriaeth gyrchfan yn Wladwriaeth AEE a'i deddfwriaeth yn cydymffurfio â'r gofyniad cyfatebol a osodir yng Nghyfarwyddeb 2000/13/EC (fel y'i diwygiwyd gan y Ddeddf er mwyn darparu y caiff y labelu o dan sylw fod yn iaith un o'r Aelod-wladwriaethau penodol) (rheoliad 4);
(ch) yn diwygio is-baragraff (1) o baragraff 2 o Atodlen 3 (cynhyrchu cynhyrchion pysgodfeydd ac amodau eu rhoi ar y farchnad (a seiliwyd ar ddarpariaethau cyfatebol yr Atodiad i Gyfarwyddeb Cynhyrchion Pysgodfeydd)) i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998 (O.S. 1998/994 fel y'i diwygiwyd eisoes) drwy roi manylion diwygiedig yn lle'r manylion (o dan indent cyntaf a thrydydd indent yr is-baragraff hwnnw) sy'n ofynnol, i bob llwyth o gynhyrchion pysgodfeydd a anfonir o sefydliad, i gael eu pennu ar label sy'n ymwneud â'r llwyth o dan sylw neu yn y dogfennau sydd gyda'r llwyth (rheoliad 5);
(ii) drwy hynny yn estyn rhychwant yr amddiffyniad ar allforion yn rheoliad 8 o'r Rheoliadau hynny drwy ei wneud yn gymwys os yw'r tramgwydd a gyhuddir yn ymwneud ag un o'r gofynion a geir i labelu yn rheoliadau 4 a 5 o'r Rheoliadau hynny ynghylch defnyddio disgrifiadau a neilltuwyd, y mae'r Wladwriaeth gyrchfan yn Wladwriaeth AEE a'i deddfwriaeth yn cydymffurfio â'r gofyniad cyfatebol a osodir yng Nghyfarwyddeb 2000/114/EC (fel y'i diwygiwyd gan y Ddeddf er mwyn darparu y caiff y labelu o dan sylw fod yn iaith un o'r Aelod-wladwriaethau penodol) (rheoliad 7).
3.
Nid oes arfarniad rheoliadal wedi'i baratoi mewn perthynas â'r offeryn hwn gan na fydd ganddo effaith ar gostau busnes. Notes: [1] O.S.2003/2901.back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back [4] O.S.1990/2615, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [5] OJ Rhif L40, 11.2.89, t.34.back [6] OJ Rhif L236, 23.9.2003, t.33.back [7] O.S. 1993/1520, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [8] O.S. 1996/1499, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/249 (Cy.26); y mae offerynnau diwygio eraill i'w cael, ond heb fod yr un ohonynt yn berthnasol.back [9] O.S. 1998/994, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [10] O.S. 2000/1866 (Cy.125).back [11] O.S. 2003/3053 (Cy.291).back
ISBN 0 11091007 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 27 October 2004 |