Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004, ISBN 0110910060. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer ei bwerau o dan adrannau 7(2), 13A(2) a (6) a 13B(7) o Ddeddf Caffael Tir 1981[1], a pharagraff 4A(2), (7) ac (8) o Atodlen 1 iddi, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Hydref 2004. (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol, naill ai -
ac y mae'n ystyried defnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig, neu'n ystyried trafodion o dan y weithdrefn honno[4].
(b) yn achos paragraff (2)(b), cyhoeddi am y tro cyntaf yr hysbysiad o baratoi'r gorchymyn prynu gorfodol ar ffurf ddrafft yn unol â pharagraff (2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.
Dehongli
(2) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at adrannau yn cyfeirio at adrannau Deddf Caffael Tir 1981, ac mae cyfeiriadau at Atodlen 1 yn cyfeirio at Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.
(b) y cyfeirnod a roddwyd i'r cyflwyniad; (c) y cyfeiriad y dylid anfon cyfathrebu ysgrifenedig at y Cynulliad Cenedlaethol; ac (ch) teitlau neu ddisgrifiadau y datganiadau sy'n bodoli eisoes a fydd yn cael eu hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol fel sylwadau wrth benderfynu ar y cyflwyniad.
Sylwadau
(b) dewis trin unrhyw ddatganiad o dan baragraff (1) fel ei sylwadau mewn perthynas â'r cyflwyniad at ddibenion is-baragraff (a); ac, os digwydd hynny, rhaid i'r awdurdod caffael hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol a phawb sy'n parhau i wrthwynebu yn unol â hynny.
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed o dan baragraff (4) os yw'n derbyn y sylwadau hynny fwy na 14 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad dechrau.
(b) dewis trin y gwrthwynebiad o dan baragraff (3) fel sylwadau'r gwrthwynebydd hwnnw at ddibenion is-baragraff (a); ac, os digwydd hynny, rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol a'r awdurdod caffael yn unol â hynny.
(7) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaed o dan baragraff (6) os yw'r sylwadau yn dod i law mwy na 15 o ddiwrnodau gwaith ar ôl iddo anfon copi o'r sylwadau o dan baragraff (4)(a), neu hysbysiad o dan baragraff (4)(b), at y sawl sy'n parhau i wrthwynebu.
(b) mwy na 10 niwrnod gwaith ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon hysbysiad o dan reoliad 6(3) o'r Rheoliadau hyn, os na wnaed sylwadau o dan baragraff (6)(a).
(10) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn i'r awdurdod caffael, a phob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, ddarparu copïau ychwanegol o sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn unrhyw amserlen resymol y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei phennu.
(b) copi o unrhyw sylwadau a wnaed gan y sawl sy'n parhau i wrthwynebu at yr awdurdod caffael; ac (c) hysbysiad at bob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu a'r awdurdod caffael na wnaed unrhyw sylwadau eraill o fewn y cyfnod a ganiateir gan y rheoliad hwn.
Sylwadau trydydd partïon
(b) hysbysiad na wnaed sylwadau o dan baragraff (1) o fewn y cyfnod a ganiateir.
(4) Caiff yr awdurdod caffael wneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw sylwadau a wnaed o dan baragraff (1).
(b) archwilio safle, os bydd hynny'n briodol; ac (c) cyflwyno adroddiad ysgrifenedig, ynghyd ag argymhelliad, i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â'r cyflwyniad.
Archwilio safleoedd
(b) archwiliad yng nghwmni yr awdurdod caffael a phob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, neu eu cynrychiolwyr,
o dir sy'n destun i'r gorchymyn prynu gorfodol ac o'r ardal gyfagos.
(b) pob un o'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu; ac (c) unrhyw berson arall a ganiatawyd i wneud sylwadau o dan reoliad 6.
(2) Os bydd person sydd â'r hawl i gael hysbysiad o'r penderfyniad eisiau gwneud cais am gyfle i archwilio unrhyw adroddiad neu sylw a ystyriwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol wrth ddod i'w benderfyniad, neu i gael copïau ohonynt, rhaid iddo wneud cais ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 6 wythnos i'r dyddiad y cafodd ei hysbysu o'r penderfyniad; ac, os gwneir cais o'r fath, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl derbyn y cais, wneud trefniadau ar gyfer yr archwiliad neu, a hynny heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl iddo dderbyn y cais, anfon y copi y gofynnwyd amdano at y person hwnnw. (o dan Reoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") yn cydnabod cael eich gwrthwynebiad i [gadarnhau] [wneud](b) y Gorchymyn uchod. Mae'n ystyried a ddylai gwrthwynebiadau gael eu trafod drwy weithdrefn sylwadau ysgrifenedig. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn eich bod yn parhau i wrthwynebu at ddibenion [adran 13A o][paragraff 4A o Atodlen 1 i](b) Ddeddf Caffael Tir 1981. Mae hyn yn golygu bod gennych yr hawl i gael lleisio'ch sylwadau sy'n gwrthwynebu [cadarnhau] [gwneud](b) y Gorchymyn mewn ymchwiliad. Mae'r hawl honno yn golygu bod gennych chi, neu eich cynrychiolydd, yr hawl yn yr ymchwiliad hwnnw i -
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu defnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig i drafod gwrthwynebiadau i [gadarnhau] [wneud](b) y Gorchymyn dim ond os ydych chi, a phawb arall sy'n parhau i wrthwynebu, yn cydsynio â hynny. NODIADAU AR DDEFNYDDIO'R FFURFLEN GYDSYNIO
(b) Dileer unrhyw ddeunydd amherthnasol. (c) Mewnosoder y cyfeiriad y dylid dychwelyd yr hysbysiad iddo. (ch) Mewnosoder dyddiad dychwelyd ar gyfer yr hysbysiad.
Crynodeb o'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig (1) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ei bod hi'n briodol i ddefnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig, bydd yn anfon ffurflen gydsynio at bob un o'r rhai sy'n parhau i wrthwynebu er mwyn ceisio cael eu cydsyniad i ddefnyddio'r weithdrefn. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn medru penderfynu a fydd yn defnyddio'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig oni bai bod pob un o'r rhai sy'n parhau i wrthwynebu yn cydsynio. Os bydd y weithdrefn i'w defnyddio, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi dyddiad dechrau ar gyfer cychwyn y weithdrefn a bydd yn nodi pa ddogfennau sy'n bodoli sydd i'w hystyried yn ychwanegol at y sylwadau a fydd yn dilyn. (2) Os bydd yr awdurdod caffael yn dewis rhoi sylwadau, rhaid iddo wneud hynny dim hwyrach na 14 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad dechrau (gellir diystyru'r sylwadau os derbynnir hwy fwy na 14 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad dechrau) a rhaid iddo wneud copïau o'r sylwadau ar gyfer pob un sy'n parhau i wrthwynebu. (3) Mae gan bob un sy'n parhau i wrthwynebu yr hawl wedyn i ymateb gyda sylwadau pellach, y gellir eu diystyru os derbynnir hwy fwy na 15 o ddiwrnodau gwaith ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o sylwadau'r awdurdod caffael at y sawl sy'n gwrthwynebu o dan baragraff (2) uchod. (4) Wedyn, caiff yr awdurdod caffael ymateb gyda sylwadau pellach, y gellir eu diystyru os derbynnir hwy fwy na 10 niwrnod gwaith ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o sylwadau'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu at yr awdurdod, o dan baragraff (3) uchod. (5) Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol ddisgresiwn i estyn y terfynau amser hyn, os bydd hynny'n briodol. (6) Ni chaniateir gwneud sylwadau llafar, ond caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu sylwadau ysgrifenedig gan drydydd partïon. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r weithdrefn sylwadau ysgrifenedig ("y weithdrefn") y gellir ei defnyddio wrth benderfynu a ddylid awdurdodi prynu tir yn orfodol os Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") yw'r awdurdod caffael neu gadarnhau ac y mae gweithdrefnau Deddf Caffael Tir 1981 ("y Ddeddf") yn gymwys. Gellir penderfynu ar y gwrthwynebiadau o ran cadarnhau gorchymyn prynu gorfodol a wneir o dan Ran II o'r Ddeddf (fel a ddiffinnir yn adran 13A(1) o'r Ddeddf) na chawsant eu tynnu'n ôl ac na ellir eu diystyru ("gwrthwynebiadau sy'n parhau") yn ôl gweithdrefn a ragnodwyd gan reoliadau (adran 13A o'r Ddeddf). Dyma ddewis amgen i gynnal ymchwiliad, ar yr amod bod pawb sy'n parhau i wrthwynebu yn cydsynio yn y modd a ragnodwyd. Yn yr un modd, gellir penderfynu ar y gwrthwynebiadau sy'n parhau o ran gwneud gorchymyn prynu gorfodol o dan Atodlen 1 i'r Ddeddf (fel a ddiffinnir ym mharagraff 4A(1) o Atodlen 1 i'r Ddeddf) yn ôl y weithdrefn honno (paragraff 4A o Atodlen 1 i'r Ddeddf). Mae prif gamau'r weithdrefn yn cynnwys -
(b) dim ond os bydd yr holl wrthwynebwyr hynny yn cydsynio y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio'r weithdrefn. Nid oes rheidrwydd arno i ddefnyddio'r weithdrefn ond, os yw'n penderfynu y dylai'r weithdrefn fod yn gymwys, bydd yn rhoi dyddiad dechrau ar gyfer y weithdrefn (rheoliad 4); (c) bydd unrhyw ddogfennau a gyflwynir gan yr awdurdod caffael i'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu ar adeg gwneud gorchymyn prynu gorfodol neu baratoi gorchymyn o'r fath ar ffurf drafft, ac unrhyw lythyrau neu ddogfennau eraill a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol yn wrthwynebiadau i gadarnhau neu wneud y gorchymyn, yn mynd yn rhan o'r sylwadau a fydd i'w hystyried (rheoliad 5(1) a (2)); (ch) oni bai bod yr awdurdod caffael yn dewis peidio â gwneud hynny, caiff wneud sylwadau i gefnogi ei gais (y gellir eu diystyru os derbynnir hwy mwy na 14 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad dechrau). Anfonir copi o'r sylwadau hynny at bawb sy'n parhau i wrthwynebu (rheoliad 5(4) a (5)); (d) caiff unrhyw un sy'n parhau i wrthwynebu ymateb gyda sylwadau (y gellir eu diystyru os derbynnir hwy fwy na 15 o ddiwrnodau gwaith ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o sylwadau'r awdurdod caffael, o dan baragraff (ch) uchod) (rheoliad 5(6) a (7)); (dd) caiff yr awdurdod caffael, wrth ymateb i sylwadau rhywun sy'n parhau i wrthwynebu a grybwyllir ym mharagraff (d) uchod, wneud sylwadau pellach (y gellir eu diystyru os derbynnir hwy fwy na 10 niwrnod gwaith ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r awdurdod caffael, os yw'n wahanol, anfon copi o sylwadau'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu) (rheoliad 5(8) a (9)); (e) caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu i unrhyw berson arall wneud sylwadau (y gellir eu diystyru os derbynnir hwy fwy na 14 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad dechrau a bennwyd i'r awdurdod caffael roi ei sylwadau) (rheoliad 6); (f) mae gan y Cynulliad Cenedlaethol ddisgresiwn i estyn y terfynau amser mewn unrhyw achos arbennig (rheoliad 7); (ff) caiff y Cynulliad Cenedlaethol benodi arolygydd i ystyried y sylwadau, i archwilio safle (os yw'n briodol) ac i lunio adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol gydag argymhelliad (rheoliad 8); (g) caiff yr arolygydd archwilio safle tir sy'n destun gorchymyn prynu gorfodol ynghyd â'r ardal gyfagos ar unrhyw adeg. Caiff yr archwilydd wneud yr archwiliad ar ei ben ei hunan (a hynny heb roi rhaghysbysiad i'r awdurdod caffael nac i'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu) neu yng nghwmni cynrychiolydd yr awdurdod caffael a'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu (rheoliad 9(1)). Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon hysbysiad o ddyddiad ac amser archwiliad sydd i'w wneud yng nghwmni'r personau hynny at yr awdurdod caffael a'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu, fel y caiff ei dderbyn dim llai na 5 niwrnod gwaith cyn yr archwiliad (rheoliad 9(2)). Pan na fydd cynrychiolydd o'r awdurdod caffael na'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu yn bresennol ar gyfer archwiliad, nid yw'n ofynnol i'r archwilydd ei ohirio (rheoliad 9(3)); (ng) os yw'r awdurdod caffael neu'r sawl sy'n parhau i wrthwynebu yn gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol, heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad dechrau, am archwiliad safle yn eu cwmni, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu archwiliad o'r fath (rheoliad 9(4)); (h) bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu cadarnhau neu wneud y gorchymyn prynu gorfodol ar sail y sylwadau ysgrifenedig ac unrhyw adroddiad gan yr archwilydd (rheoliad 10); ac (i) bydd y Cynulliad Cenedlaethol (oni bai mai'r awdurdod caffael ydyw) yn hysbysu'r awdurdod caffael, a'r sawl sydd â'r hawl i wneud sylwadau o ran eu gwrthwynebiadau, o'r penderfyniad a'r rhesymau dros y penderfyniad. Caiff unrhyw un o'r personau hynny wneud cais am gopi o unrhyw adroddiad neu sylw a ystyriwyd; wedyn, dylid anfon yr adroddiad neu'r sylwadau dim hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais (rheoliad 11).
Notes: [1] 1981 p.67; mewnosodwyd adrannau 13A(2) a (6) a 13B(7) o Ddeddf Caffael Tir 1981, a pharagraff 4A(2), (7) ac (8) o Atodlen 1 iddi, gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5). Mewn perthynas â Chymru, mae'r pwerau a geir yn y darpariaethau hynny, gan mwyaf, yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 121(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Trosglwyddwyd y rhan fwyaf o swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas ag awdurdodi prynu tir yn orfodol yng Nghymru (gan gynnwys adran 7(2) o Ddeddf Caffael Tir 1981) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [2] I gael gweld y diffiniad o "confirming authority", gweler adran 7(1) o Ddeddf Caffael Tir 1981.back [3] I gael gweld y diffiniad o "appropriate authority", gweler paragraff 4(8) o Atodlen 1 i Ddeddf Caffael Tir 1981, adran 118(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ac O.S. 1999/672.back [4] I gael gweld y diffiniad o "written representations procedure", gweler adran 13A(6) o Ddeddf Caffael Tir 1981, a pharagraff 4A(7) o Atodlen 1 iddi.back [5] I gael gweld ystyr "proper address", gweler adran 6(3) o Ddeddf Caffael Tir 1981.back [7] I gael gweld y diffiniad o "remaining objection", gweler adran 13A o Ddeddf Caffael Tir 1981, a pharagraff 4A(1) o Atodlen 1 iddi.back
ISBN 0 11091006 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 27 October 2004 |