Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004 © Hawlfraint y Goron 2004 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004, ISBN 0110909992. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 48(1) a (2) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 1(7) o Atodlen 14 iddi[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 30 Medi 2004. (2) Maent yn gymwys i'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar ôl 31 Mawrth 2005 yn unig. (3) Maent yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol (sut bynnag y caiff ei eirio) yn cynnwys y canlynol yn unig, sef ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion arbennig sefydledig, a gynhelir gan yr awdurdod (gan gynnwys ysgol o'r fath y cynigir ei bod yn cael ei chynnal gan yr awdurdod ac y mae ganddi gorff llywodraethu dros dro y gwnaed y trefniadau ar gyfer ei ffurfio gan yr awdurdod gan gydymffurfio â'r ddyletswydd a osodwyd arno gan adran 44(1)[4] o Ddeddf 1998 neu adran 34(1) o Ddeddf 2002[5]).
(b) drwy drefnu bod copi ar gael i gyfeirio ato ar bob adeg resymol yn ddi-dâl -
(ii) ym mhob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod neu ar wefan a gynhelir gan yr awdurdod ac sydd ar gael i'r cyhoedd.
Amgylchiadau ychwanegol pan fydd angen cyhoeddi cynlluniau Y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 4, sef materion sy'n gysylltiedig ag ariannu ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, y mae angen i'r awdurdod addysg lleol ymdrin â hwy yn ei gynllun yw: 1. Cario drosodd o un flwyddyn ariannol i'r llall y gwargedau a'r diffygion sy'n codi mewn perthynas â chyfrannau cyllideb ysgolion. 2. Symiau y gellir eu tynnu yn erbyn cyfrannau cyllideb ysgolion. 3. Symiau a gafodd ysgolion y caiff eu cyrff llywodraethu eu dal a'r dibenion y ceir defnyddio'r symiau hynny ar eu cyfer. 4. Gosod amodau gan neu o dan y cynllun y mae'n rhaid i ysgolion gydymffurfio â hwy mewn perthynas â rheoli eu cyllidebau dirprwyedig a symiau y mae'r awdurdod yn trefnu eu bod ar gael i gyrff llywodraethu nad ydynt yn ffurfio rhan o'r cyllidebau dirprwyedig, gan gynnwys amodau a ragnodwyd gan reolau a gweithdrefnau ariannol. 5. Y telerau y mae'r awdurdod yn darparu gwasanaethau a chyfleusterau odanynt i ysgolion a gynhelir ganddo. 6. Talu llogau gan yr awdurdod neu iddo. 7. Yr adegau pan drefnir y bydd symiau sy'n hafal i gyfanswm cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gael i gyrff llywodraethu a phan drefnir pa ran o'r gyfran o'r gyllideb fydd ar gael ar bob adeg o'r fath. 8. Y trosglwyddiad rhwng penawdau cyllideb o fewn y gyllideb ddirprwyedig. 9. Yr amgylchiadau y caiff awdurdod ddirprwyo i'r corff llywodraethu y pŵer i wario unrhyw ran o gyllideb AALl yr awdurdod neu gyllideb ysgolion yn ychwanegol at y rhai a nodir yn adran 49(4)(a) i (c)[8] o Ddeddf 1998. 10. Y defnydd ar gyllidebau dirprwyedig a symiau y trefnodd yr awdurdod eu bod ar gael i'r corff llywodraethu nad ydynt yn ffurfio rhan o'r cyllidebau dirprwyedig. 11. Benthyca gan gyrff llywodraethu. 12. Trefniadau bancio y caiff cyrff llywodraethu eu gwneud. 13. Datganiad o ran atebolrwydd personol y llywodraethwyr mewn perthynas â chyfrannau cyllideb ysgolion gan ystyried adran 50(7) o Ddeddf 1998. 14. Datganiad o ran y lwfansau sy'n daladwy i lywodraethwyr ysgol sydd heb gyllideb ddirprwyedig yn unol â'r cynllun a wnaed gan yr awdurdod at ddibenion adran 519 o Ddeddf 1996[9]. 15. Cadw cofrestr o unrhyw fuddiannau busnes y llywodraethwyr a'r pennaeth. 16. Darparu gwybodaeth gan y corff llywodraethu ac iddo. 17. Cynnal a chadw stocrestrau o asedau. 18. Cynlluniau gwario corff llywodraethu. 19. Datganiad o ran y defnydd y mae corff llywodraethu yn bwriadu ei wneud i warged yn y fantolen ysgol sy'n fwy na 5% o gyfran cyllideb yr ysgol neu £10,000 p'un bynnag sydd fwyaf. 20. Datganiad o ran trethu'r symiau a dalwyd neu a gafwyd gan gorff llywodraethu. 21. Yswiriant. 22. Defnyddio cyllidebau dirprwyedig gan gyrff llywodraethu fel y byddant yn bodloni dyletswyddau'r awdurdod a osodwyd gan neu o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974[10]. 23. Darparu cyngor cyfreithiol i'r corff llywodraethu. 24. Cyllid ar gyfer materion amddiffyn plant. 25. Prydau ysgol. 26. At bwy yn yr awdurdod y dylid anfon cwynion a wneir gan bobl sy'n gweithio yn yr ysgol neu gan lywodraethwyr ysgol ynghylch rheoli ariannol neu wedduster ariannol yn yr ysgol a sut y dylid ymdrin â chwynion o'r fath. 27. Gwariant a dynnir gan gorff llywodraethu wrth arfer y pŵer a roddwyd gan adran 27 o Ddeddf Addysg 2002. 28. Y ddarpariaeth gan gyrff llywodraethu o ffurflenni a gwybodaeth at ddibenion pensiynau athrawon. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn (sy'n disodli darpariaethau cyfatebol Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 a ddirymir) yn gwneud darpariaeth o ran y cynlluniau y mae'n ofynnol i awdurdodau addysg lleol eu paratoi o dan adran 48 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 sy'n ymwneud â materion sy'n gysylltiedig ag ariannu'r ysgolion a gynhelir ganddynt. Ar wahân i ddarpariaeth newydd sy'n galluogi awdurdodau addysg lleol gyhoeddi eu cynlluniau ar eu gwefannau yn hytrach na threfnu eu bod ar gael yn yr ysgolion mae'r Rheoliadau yn ailadrodd Rheoliadau 1999. Mae Rheoliad 4 a'r Atodlen yn pennu materion y mae'n rhaid ymdrin â hwy yn y cynlluniau. Mae rheoliad 5 yn pennu'r dull y mae'n rhaid i gynlluniau gael eu cyhoeddi ar y dechrau ac mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r cynlluniau gael eu cyhoeddi yn yr un dull os diwygir hwy. Notes: [1] 1998 p.31. Diwygiwyd adran 48(1) a (2) gan baragraff 2 o Atodlen 3 i Ddeddf Addysg 2002, p.32.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.back [4] Bydd adran 44(1) yn cael ei diddymu gan Atodlen 22 i Ddeddf Addysg 2002.back [5] Caiff adran 34(1) ei dwyn i rym ar ddiwrnod sydd i'w benodi.back [8] Mae adran 49 i'w diwygio gan baragraff 100(2) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.back [9] Diwygiwyd adran 519 gan baragraffau 57 a 139 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.back
ISBN 0 11090999 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2004 | Prepared 30 September 2004 |